Mae silwét dwylo menyw yn gwneud siâp calon yn erbyn y machlud

Y diwrnod rhoi byd-eang

Cyhoeddwyd : 13/11/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Cynhelir Dydd Mawrth Rhoi ar 3 Rhagfyr 2024. Mae’n gyfle gwych i fanteisio i’r eithaf ar ymgyrch fyd-eang i helpu i gael mwy o gymorth i’ch mudiad.

Crëwyd Dydd Mawrth Rhoi yn 2012 fel syniad syml: diwrnod sy’n annog pobl i wneud pethau da. Dros y ddegawd ddiwethaf, mae’r syniad hwn wedi tyfu i fod yn ymgyrch fyd-eang sy’n ysbrydoli miliynau o bobl i roi, cydweithio, a dathlu haelioni.

Dydd Mawrth Rhoi yw’r cyfle perffaith i fudiadau:

  • Ymhél â rhoddwyr presennol a newydd,
  • Lansio neu roi sbotolau ar eich ymgyrch codi arian dros y Nadolig neu ar ddiwedd y flwyddyn,
  • Codi ymwybyddiaeth o’ch gwasanaethau,
  • Dathlu eich rhoddwyr neu wirfoddolwyr ffantastig, neu
  • Rannu storïau gan eich buddiolwyr sy’n dangos eich effaith.

Y nod yw dathlu’r gwaith gwych rydych chi a mudiadau gwirfoddol eraill yn ei wneud, o un dydd i’r llall, ac o un flwyddyn i’r llall, i helpu’r rheini mewn angen a gwneud bywyd yn well.

SUT I GYMRYD RHAN

Yn 2020, gwnaeth Dydd Mawrth Rhoi osod record y byd am y mwyaf o arian a godwyd ar-lein i elusen mewn 24 awr, gyda gwerth £20.2 miliwn o roddion yn cael ei godi mewn un diwrnod. Mae 1.5 miliwn o bobl yn dweud y byddent yn fwy tebygol o wneud rhywbeth i elusen o ganlyniad i Ddydd Mawrth Rhoi.

Amcangyfrifir fod dros £20 miliwn hefyd wedi’i godi ar Ddydd Mawrth Rhoi 2022 o fewn y DU. Gyda Dydd Mawrth Rhoi yn trendio ar Rif 1 ar Twitter, gwelsom negeseuon amlwg o gefnogaeth gan y Gweinidog dros Gymdeithas Sifil, Stuart Andrew AS, yn ogystal â NatWest, cwmnïau stryd fawr, a chapten pêl-droed dynion Lloegr, Harry Kane.

ADNODDAU

Mae ymgyrch Dydd Mawrth Rhoi wedi creu adnoddau i fudiadau eu defnyddio os hoffech chi gymryd rhan. Ewch i wefan Dydd Mawrth Rhoi (Saesneg yn unig) am becyn adnoddau, ynghyd â recordiadau a sesiynau hyfforddi a allai eich helpu i gael y mwyaf o’r ymgyrch, fel ‘Marchnata Digidol ar gyfer Elusennau’ a ‘Defnyddio Canva fel rhywun proffesiynol’. Mae ganddyn nhw hefyd asedau Cymraeg ac adran bwrpasol Cymraeg i’r Pecyn Cymorth, sy’n ei gwneud hi’n haws i elusennau yma yng Nghymru i wneud y mwyaf o’r ymgyrch.

RHANNU EICH NEGESEUON EICH HUN

Nid oes angen i chi gofrestru yn unman i gymryd rhan, nac hyd yn oed defnyddio’r adnoddau a ddarparwyd, gallwch ddatblygu eich negeseuon eich hun ynghylch dathlu eich rhoddwyr, cefnogwyr a gwirfoddolwyr os dymunwch.

Gallwch ddod o hyd i’r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #DyddMawrthRhoi, neu ar Twitter, Facebook, LinkedIn neu Instagram, i gael y newyddion diweddaraf, yr adnoddau a’r graffeg ar gyfer eich ymgyrch. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n tagio Dydd Mawrth Rhoi yn eich postiadau i gael eich negeseuon wedi’u rhannu gan yr ymgyrch.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 03/02/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Gwnewch gais nawr am Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/01/25
Categorïau: Cyllid

Little Lounge – cefnogi’r gymuned leol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/01/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Prosiect Newid y Gêm

Darllen mwy