Mae’n Ddydd Mawrth Rhoi ar 2 Rhagfyr 2025 – cyfle gwych i fanteisio i’r eithaf ar ymgyrch fyd-eang i helpu i gael mwy o gefnogaeth i’ch mudiad.
Cafodd Dydd Mawrth Rhoi ei greu yn 2012 fel syniad syml: diwrnod sy’n annog pobl i wneud rhywbeth da. Yn ystod y degawd diwethaf, mae’r syniad hwn wedi tyfu i fod yn ymgyrch fyd-eang sy’n ysgogi miliynau o bobl i roi, cydweithio a dathlu haelioni.
Dydd Mawrth Rhoi yw’r cyfle perffaith i fudiadau:
- Ymgysylltu â rhoddwyr presennol a newydd
- Lansio neu dynnu sylw at eich ymgyrch codi arian Nadoligaidd neu ddiwedd flwyddyn
- Codi ymwybyddiaeth o’ch gwasanaethau
- Dathlu eich rhoddwyr a gwirfoddolwyr ffantastig, neu
- Rannu storïau gan eich buddiolwyr sy’n dangos eich effaith
Mae’r cwbl yn ymwneud â dathlu’r gwaith gwych rydych chi a mudiadau gwirfoddol eraill yn ei wneud, ddydd ar ôl dydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i helpu’r rheini mewn angen a gwneud bywyd yn well.
CODI DROS £20 MILIWN
Llynedd, cododd Dydd Mawrth Rhoi’r DU dros £20 miliwn, a dywedodd 1.5 miliwn o bobl y byddent yn fwy tebygol o wneud rhywbeth i elusen o ganlyniad i Ddydd Mawrth Rhoi. Roedd uchafbwyntiau ymgyrch y llynedd yn cynnwys Y Rhoi Mawr yn codi bron £13 miliwn mewn dim ond 12 awr a Banc NatWest yn rhoi £300,000 drwy gyllid cyfatebol.
SUT I GYMRYD RHAN
Mae ymgyrch Dydd Mawrth Rhoi wedi creu adnoddau i fudiadau eu defnyddio os hoffech gymryd rhan. I gael pecyn cymorth o adnoddau, ynghyd â recordiadau o sesiynau hyfforddi a allai eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr ymgyrch, fel ‘Digital Marketing for Charities’ (Marchnata digidol i elusennau) a ‘Using Canva like a pro’ (Defnyddio Canva fel rhywun proffesiynol) ewch i wefan Dydd Mawrth Rhoi. Mae ganddynt asedau Cymraeg hefyd ac adran bwrpasol o’r Pecyn Cymorth, sy’n ei gwneud hi’n haws i elusennau yma yng Nghymru wneud y mwyaf o’r ymgyrch.
Nid oes angen i chi gofrestru yn unrhyw le i gymryd rhan, nac hyd yn oed defnyddio’r adnoddau a ddarparwyd, gallwch ddatblygu eich neges eich hun ynghylch dathlu eich rhoddwyr, cefnogwyr a’ch gwirfoddolwyr os dymunwch. Gallwch ddod o hyd i’r ymgyrch ar Twitter drwy @givingtuesdayuk a Facebook, LinkedIn neu Instagram, i gael y newyddion diweddaraf, yr adnoddau a’r graffigau ar gyfer eich ymgyrch. Tagiwch nhw i gael eich negeseuon wedi’u rhannu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr ymgyrch.