Mae adroddiad Dyfodol newydd y Sector Gwirfoddol yn nodi ein gobeithion am ddyfodol y sector gwirfoddol yng Nghymru a’r hyn y gall pob un ohonom ni ei wneud i gyrraedd y fan honno.
Mae’n bleser gennym ni, ynghyd â’n partneriaid, Futurice a rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW), lansio ein gweledigaeth deng mlynedd a’n dyheadau am ddyfodol y sector gwirfoddol yng Nghymru gyda chyhoeddiad yr adroddiad a gyd-luniwyd, ‘Dyfodol y Sector Gwirfoddol’. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gyllido’r gwaith ac i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru am ei chefnogaeth.
Gwnaeth mwy na chant o fudiadau o sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol Cymru rannu eu pryderon a’u dyheadau am ddyfodol Cymru yng ngŵydd cymaint o newidiadau, heriau a chyfleoedd.
‘Wrth i ni edrych ar osod gweledigaeth, mae angen i bob un ohonom ni fod wrth y bwrdd hwnnw, nid i adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yn unig, ond i hefyd adlewyrchu cymuned Cymru.’
Faith Walker, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwmni Buddiannau Cymunedol ‘Friends of Cymru Sickle Cell and Thalassaemia’, cyfranogwr gweithdy, Mehefin 2021
Gweld yr Adroddiad ‘Dyfodol y Sector Gwirfoddol’ yn Saesneg
Gweld yr Adroddiad ‘Dyfodol y Sector Gwirfoddol’ yn Gymraeg
CAMAU GWEITHREDU SYDD EU HANGEN I WIREDDU EIN GWELEDIGAETH
Gwnaeth cyfranogwyr y prosiect flaenoriaethu chwe syniad gweithredu y gall y sector gwirfoddol yng Nghymru fynd i’r afael â nhw er mwyn cyflawni’r weledigaeth deng mlynedd a gyd-luniwyd (Gweler pennod 5 yr adroddiad am ragor o fanylion).
- Cefnogi cynhwysiant a thegwch mynediad at dechnoleg er mwyn helpu i oresgyn y bwlch digidol
- Ail-ddiffinio ystyr llwyddiant a sut y mesurir effaith a gwerth cymdeithasol
- Datblygu cydweithrediad lleol, rhyngwladol a thraws-sector sy’n codi proffil y sector gwirfoddol ac sy’n adeiladu ar naratif cadarnhaol
- Cefnogi prosesau cynhyrchu a chyflenwi seilwaith gwirioneddol sy’n canolbwyntio ar y gymuned
- Grymuso unigolion a chymunedau i fod yn hunangynhaliol
- Dysgu ac adeiladu ar yr hyn sydd wedi gweithio’n effeithiol i’r sector gwirfoddol a chymunedau yn y pandemig, er mwyn atgyfnerthu’r sector gwirfoddol a chymdeithas yn ehangach
DYFODOL SYLFAENOL WAHANOL
Rydym yn hynod ddiolchgar i’r 80+ o gyfranogwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol ledled y wlad a oedd yn rhan o’r gwaith o hau ein ‘hadau newid’ a chreu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol drwy broses gyfranogol ddwys yn ystod haf 2021. Gwnaethant baentio darlun o ddyfodol sy’n sylfaenol wahanol i gymdeithas heddiw. Un sy’n deg, gwyrdd, gofalgar ac yn canolbwyntio ar y gymuned.
‘Y weledigaeth ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru 2030 – llun o’r ‘weledigaeth o’r dyfodol a ffafrir’ gan gyfranogwyr y prosiect o’r adroddiad. Gweler tudalennau 47-50 yr adroddiad am ddisgrifiad llawn o’r weledigaeth. Darlun cefndirol drwy garedigrwydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, eiconau gan Futurice.
STRATEGAETH CGGC AR GYFER Y DYFODOL
Mae’r adroddiad, Dyfodol y Sector Gwirfoddol, wedi bod yn rhan hanfodol o’n hadolygiad strategol diweddar. Trwy lunio’r adroddiad ar ddechrau’r adolygiad, bu modd i ni ddefnyddio’r canfyddiadau fel ein ‘Seren y Gogledd’ i lywio gweddill y gwaith a ddilynodd. Mae’r adroddiad yn gosod yr olygfa ar gyfer ein strategaeth yn genedlaethol dros y bum mlynedd nesaf. Mae hefyd wedi bwydo i mewn i’r broses o osod nodau newydd a rennir i bartneriaid TSSW (CGGC a Chynghorau Gwirfoddol Sirol ledled Cymru) ar gyfer y bum mlynedd i ddod.
‘Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu gweledigaeth ddiddorol am ddyfodol lle y mae cymunedau cydlynol, gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol yn ganolog i sicrhau ein bod yn gadael y byd yn lle gwell nag yr oedd pan gyrhaeddom ni.’
Sophie Howe, Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Gorffennaf 2021
SUT LLUNIWYD YR ADRODDIAD A SUT I’W DDEFNYDDIO
Er mwyn cyflawni’r ehangder a dyfnder uchelgeisiol o gyfranogiad yr oeddem ni ei eisiau, gwnaeth y prosiect gyfuno Pecyn Cymorth Adeiladu Dyfodol Gwell CGGC a’r Ysgol Dyfodol Rhyngwladol (SOIF) a Phecyn Cymorth ‘Lean Futures Creation (LFT)’ Futurice (Saesneg yn unig) (mae mynediad agored i’r ddau os hoffech arbrofi yn eich cymuned).
Mae ein proses, sydd wedi hwyluso cydberthnasau cryf ac adnoddau â pherchnogaeth gyfunol, wedi bod mor werthfawr â’n hadroddiad ysgrifenedig ac yn allweddol i gael cefnogaeth i’n strategaeth newydd.
Sut gall eich mudiad ddefnyddio’r adroddiad hwn i fod y newid yr hoffech ei weld yn y dyfodol a rennir gennym?
- Defnyddio’r testun a’r dyfyniadau i gefnogi cynigion cyllido
- Cysylltu â ni trwy gynnal digwyddiadau trafod ynghylch unrhyw un o’r chwe thema
- Defnyddio’r gronfa ‘hadau newid’ (tudalennau 19-44) i gynnal sgyrsiau mewn cymunedau
- Cysylltu â ni os hoffech ofyn rhagor o gwestiynau neu gyflwyno sgwrs ar werth y broses
YNGLŶN Â’R AWDURON
Mae Suzanne Iuppa yn Swyddog Cynllunio Strategol yn CGGC. Mae Eloise Smith-Foster yn Uwch-ddylunydd Gwasanaethau a Dyfodolydd yn Futurice, cwmni ymgynghori ar ddylunio ac arloesedd Nordig sy’n arbenigo mewn rhagolygon y dyfodol. Roedd y ddwy ohonynt yn gyfrifol am arwain a hwyluso’r prosiect, yn ogystal ag ysgrifennu’r adroddiad terfynol ar y cyd.