Ymunwch â’r Rheoleiddiwr Codi Arian a WCVA mewn digwyddiad wyneb-yn-wyneb yng Nghaerdydd ar 20 Medi 2023 i rannu eich barn ar newidiadau i’r Cod Ymarfer Codi Arian.
Fis nesaf, bydd y Rheoleiddiwr Codi Arian yn cyhoeddi ei gynigion ymgynghori i ddiweddaru’r Cod Ymarfer Codi Arian. Mae’r Cod Ymarfer Codi Arian yn nodi’r safonau sy’n berthnasol i weithgareddau codi arian a gynhelir gan bob sefydliad elusennol a chodwyr arian trydydd parti yn y DU. Mae’r cod yn sail i’r system hunanreoleiddio gwirfoddol y mae codwyr arian yn ymrwymo iddi ac yn darparu fframwaith ar gyfer asesu cwynion cyhoeddus.
BETH YW PWRPAS Y NEWIDIADAU HYN?
Nod y cynigion yw gwneud y cod yn symlach, yn fwy hygyrch a sicrhau ei fod yn gyfoes â newidiadau mewn polisi ac arferion codi arian. Gwahoddir sefydliadau sydd â diddordeb mewn codi arian elusennol i glywed mwy am y cynigion a rhoi mewnbwn ac adborth yn y digwyddiad wyneb-yn-wyneb hwn.
SUT FYDD HYN YN EFFEITHIO AR SEFYDLIADAU GWIRFODDOL CYMRU?
Bydd hwn yn gyfle pwysig i’ch sefydliad amlinellu rhai o’r heriau sy’n unigryw i’r sector codi arian yng Nghymru a rhoi syniadau am y safonau arfer gorau y dylai fod yn atebol iddynt. Bydd cyfle hefyd i godi cwestiynau yn uniongyrchol gyda’r tîm yn y Rheoleiddiwr Codi Arian sydd wedi arwain ar ddatblygu’r cynigion hyn.
AM Y DIGWYDDIAD
Dyma un o bedwar digwyddiad sy’n cael eu cynnal ledled y DU drwy gydol mis Medi a mis Hydref 2023 i gasglu adborth ar y cynigion hyn.
Bydd cinio rhwydweithio a lluniaeth ar gael.
Cynhelir y digwyddiad yn y Ganolfan Fusnes, drws nesaf i swyddfeydd WCVA, yn One Canal Parade, Dumballs Road, Caerdydd, CF10 5BF.
I GAEL GWYBOD MWY AC I ARCHEBU EICH LLE
Mae mwy o wybodaeth a chofrestru ar gael ar Eventbrite.