Gwefan comisiwn elusennau

Dweud eich dweud ar Newidiadau’r Comisiwn Elusennau i’r Datganiad Blynyddol

Cyhoeddwyd : 05/07/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol ar newidiadau arfaethedig i’r Datganiad Blynyddol, sydd wedi’u dylunio i sicrhau bod y rheoleiddiwr yn casglu’r wybodaeth gywir yn y blynyddoedd i ddod.

Mae CGGC yn cefnogi elusennau i gymryd rhan a dweud eu dweud ar y newidiadau i’r Datganiad Blynyddol

Ffurflen ar-lein yw’r Datganiad Blynyddol y mae’n rhaid i bob elusen ag incwm blynyddol o £10,000 neu fwy ei llenwi o fewn 10 mis i ddiwedd ei chyfnod adrodd ariannol.

Nid yw’r datganiad wedi newid rhyw lawer ers 2018, ond ar ôl adolygiad trylwyr, mae’r Comisiwn yn ystyried diweddaru’r cwestiynau y bydd angen i elusennau eu hateb o 2023 ymlaen.

CARREG FILLTIR BWYSIG

Mae’r diweddariadau i’r Datganiad Blynyddol yn gam allweddol yn uchelgeisiau’r Comisiwn i fod yn rheoleiddiwr a yrrir yn fwy gan ddata. Nod y strategaeth yw sicrhau bod natur a maint y data y mae’n ei chasglu ar elusennau yn bodloni tri diben: galluogi’r Comisiwn i nodi risgiau a phroblemau yn y sector yn well, helpu’r cyhoedd i wneud dewisiadau gwybodus a hyderus ynghylch elusennau, a chaniatáu i lunwyr polisïau, ymchwilwyr, y sector a’r cyhoedd gael dealltwriaeth ddyfnach o’r sector yng Nghymru a Lloegr.

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG

Mae’r newidiadau yn golygu y bydd elusennau yn ateb mwy o gwestiynau, ond bydd y rhain wedi’u symleiddio. Mae’r Comisiwn wedi ceisio sicrhau bod y baich amser ar elusennau i lenwi’r datganiad yn parhau i fod yn gymesur.

Bydd yr holiadur terfynol yn cynnwys rhestr dermau ryngweithiol i helpu elusennau i lenwi’r ffurflen.

Ymhlith yr ychwanegiadau arfaethedig mae cwestiynau sydd wedi’u dylunio i wneud y canlynol:

  • Mynd ati’n well i gofnodi a deall dibyniaeth elusennau ar fathau arbennig o incwm, ac ar ffynonellau cyllido sengl. Er enghraifft, bydd elusennau yn cael eu gofyn a yw 70% neu fwy o’u cyllid yn dibynnu ar un ffrwd incwm, ac a yw 25% neu fwy o’u hincwm yn dod o fathau arbennig o ffynonellau incwm, fel rhoddwyr corfforaethol.
  • Cael gwybodaeth am rolau a chyfrifoldebau, llywodraethiant, rheolaethau a strwythurau gwahanol mewn elusennau, oherwydd mae arwyddion bod cydberthynas rhwng yr wybodaeth hon a risg.
  • Creu darlun cywir o’r ardaloedd daearyddol y mae elusennau yn gweithredu o’u mewn yng Nghymru a Lloegr, drwy ofyn am wybodaeth am y safleoedd y mae elusennau’n gweithio ohonynt. Bydd hyn yn helpu llunwyr polisïau a rhoddwyr grantiau i nodi ardaloedd daearyddol lle na chaiff cymaint o waith elusennol ei wneud mewn cymhariaeth. Gall cyllidwyr wneud penderfyniadau wedyn a fydd yn helpu i ddod â’r ardaloedd hyn i lefel fwy cyfartal.
  • Gallu cofnodi niferoedd staff a chostau cyflogres yn well yn y sector, gan alluogi’r cyhoedd ac eraill i ystyried sut mae elusennau yn defnyddio adnoddau a’u gallu i gyflawni mathau arbennig o weithgareddau.

Mae’r Comisiwn yn awyddus i glywed gan amrediad eang o elusennau fel rhan o’r ymgynghoriad, fel y gall wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol cyn lansio’r datganiad newydd yn 2023.

Mae’r Comisiwn hefyd wedi cynnal profion defnyddwyr o’r set o gwestiynau gydag elusennau er mwyn sicrhau bod y cwestiynau yn eglur a hawdd eu deall. Mae cylch pellach o’r profion defnyddwyr hyn wedi’i drefnu ar gyfer mis Gorffennaf.

Bydd CGGC yn ymateb i’r ymgynghoriad ar ran y sector, ac anogwn elusennau yng Nghymru i ymateb a dweud eu dweud yn yr ymarferiad pwysig hwn.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy