Rhes o bobl yn eistedd mewn seddi at gyfarfod pwysig

Dweud eich dweud ar bwy sy’n siarad ar gyfer ein sector gwirfoddol

Cyhoeddwyd : 18/01/21 | Categorïau: Dylanwadu |

Gall aelodau CGGC nawr enwebu cynrychiolwyr i Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, y grŵp sy’n cysylltu’r sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru gan eu galluogi i eirioli a dylanwadu ar bolisi.

Mae aelodau CGGC bellach yn gallu enwebu’r rhwydwaith neu’r mudiad y maent yn credu sydd fwyaf priodol i gynrychioli buddiannau’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae’r buddion yn dod o fewn 25 categori sy’n rhan o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC).

Mae aelodau’r Cyngor Partneriaeth yn gwasanaethu am pum mlynedd ac mae etholiadau ar gyfer aelodau 2021 – 2026 bellach wedi dechrau.

BETH YW’R TSPC?

Mae’r TSPC yn fecanwaith ffurfiol ar gyfer trafodaeth reolaidd a gwaith mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector gwirfoddol.

Caiff y Cyngor ei gadeirio gan Jane Hutt AS a’i aelodau yw arweinwyr rhwydweithiau sy’n cynrychioli 25 o feysydd gwaith yn y sector gwirfoddol, gan cynnwys Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC.

‘Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yw’r prif fecanwaith ar gyfer y trydydd sector i ymgysylltu gyda, a chynrychioli ei buddiannau yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru,’ meddai Ruth. ‘Byddem yn annog ein holl aelodau i gymryd rhan yn y broses enwebu.

‘Mae hwn yn amser hynod o bwysig i’r Cyngor wrth iddo ystyried sut y gall y sector ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar adferiad gwyrdd a chyfiawn o’r pandemig COVID-19, yn ogystal â llawer o faterion cymdeithasol eraill y mae’r pandemig wedi amlygu.

‘Agwedd arall i’w gofio yw y bydd y broses hon yn cael ei hamseru i gael cysylltiadau â Llywodraeth nesaf Cymru, ac am dymor llawn y Senedd – felly mae mewn gwirionedd yn gyfle gwych i ymgysylltu a dylanwadu.’

Mae cyfathrebu a chydweithio rhwng y trydydd sector yng Nghymru a Llywodraeth Cymru yn hanfodol ac mae’r mecanweithiau ar gyfer hyn yn cael eu gosod yng Nghynllun y Trydydd Sector.

Mae’r cyfnod enwebu yn cau ar Ddydd Gwener 19 Chwefror. Dylai fod aelod-fudiadau wedi derbyn gwybodaeth ar sut i enwebu eisoes – os na, cysylltwch â ni.

Y BROSES ETHOLIAD

Mae CGGC yn gyfrifol am hwyluso’r broses i ddewis aelodau’r trydydd sector o’r Cyngor Partneriaeth. Nid oes rhaid i’r rhwydwaith neu’r mudiad a enwebir fod yn aelod o CGGC. Serch hynny, rhaid iddo allu adnabod y rhai mae’n eu cynrychioli a chael trefniadau yn eu lle i gyfathrebu â nhw.

Os ceir dim ond un enwebiad ar gyfer categori, a’i fod yn ddiwrthwynebiad, bydd y rhwydwaith neu’r mudiad hwnnw yn cynnig cynrychiolydd arweiniol a chynrychiolydd amgen ar gyfer y Cyngor Partneriaeth.

Pan fo mwy nag un rhwydwaith neu fudiad yn cael eu henwebu fel y cynrychiolydd ar gyfer categori, bydd CGGC yn ceisio trefnu ateb sy’n bodloni’r holl fuddiannau yn y categori hwnnw.

Os ni lwyddir i sicrhau ateb sy’n dderbyniol i bawb, bydd CGGC yn gwahodd ei aelodau i ethol y corff mwyaf priodol i gynrychioli buddiannau’r categori penodol hwnnw.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â Fiona Harris drwy fharris@wcva.cymru

Os hoffech chi ymuno â CGGC fel aelod a dweud eich dweud yn etholiadau TSPC, yn ogystal â buddion eraill, edrychwch ar ein tudalennau aelodau.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy