Beth ddylwn i ei wneud?
Mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn pob math o weithgareddau a phrosiectau cyffrous, gan helpu eu cymunedau mewn sawl ffordd wahanol.
Os ydych chi’n ansicr ynghylch y math o wirfoddoli yr hoffech chi ei wneud, beth am ddechrau drwy bori drwy’r adran straeon llwyddiant ar y wefan i gael syniad o’r hyn sydd ar gael.
Gall faint o amser rydych chi’n ei ymrwymo amrywio o wirfoddoli unwaith i ymrwymiad rheolaidd am awr neu ddwy yr wythnos (neu fwy os oes amser gennych).
Gallwch ddarganfod mwy drwy ddarllen ein taflen wybodaeth Meddwl am wirfoddoli.
Gwirfoddoli Cymru
Ar ôl i chi feddwl am yr hyn rydych chi eisiau ei wneud, mae’n hawdd dod o hyd i gyfle gwirfoddoli i gyd-fynd â’ch diddordebau, eich sgiliau a’ch argaeledd. Ewch i blatfform gwirfoddoli ar-lein Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sef Gwirfoddoli Cymru, a chymerwch gip ar yr hyn sydd ar gael.
Caiff y wefan ei rhedeg gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru fel rhan o’i raglen integredig o gymorth gwirfoddoli.
Mae’r wefan yn gweithredu fel safle recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer sefydliadau gwirfoddol. Mae’r sefydliadau’n postio eu cyfleoedd gwirfoddoli ar y wefan, a gall defnyddwyr cofrestredig bori drwy’r hysbysebion nes eu bod yn dod o hyd i rywbeth addas.
Mae’r gronfa ddata yn hygyrch i unrhyw un sy’n dymuno gwirfoddoli – cofrestrwch am ddim i weld y cyfleoedd.
Gall pawb wirfoddoli. Does dim ots am eich oedran, eich cefndir a’ch profiad blaenorol – bydd yna gyfle sy’n addas i chi, felly cadwch eich llygaid ar agor!
Canolfannau gwirfoddoli
Mae canolfan gwirfoddoli yn cynnig adnodd un stop ar gyfer gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar wirfoddoli i wirfoddolwyr a sefydliadau sy’n recriwtio.
Nod staff y Ganolfan Wirfoddoli yw cysylltu sgiliau, profiadau, amser a brwdfrydedd pobl leol sydd am wirfoddoli gyda sefydliadau sy’n ceisio datblygu eu gwasanaethau.
Os byddai’n well gennych siarad â rhywun a all eich helpu i ddod o hyd i leoliad addas, gallwch gysylltu â’ch canolfan wirfoddoli leol neu ymweld â hi.
#GWIRFODDOLWRSIOPELUSENCYMRU
Yr wythnos yma (o 12 Hydref 2020) bydd CGGC mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau yn rhannu straeon gwirfoddolwyr siopau elusennol yng Nghymru.
‘Mae hi eisiau helpu i achub bywydau‘ – Ambiwlans Awyr Cymru
‘Chyda phob sifft mae’n ymddangos yn fwy hyderus‘ – Cerebral Palsy Cymru
‘Mae cynorthwyo’r Hosbis yn rhoi ymdeimlad mawr o bwrpas imi‘ – City Hospice
‘Mae cael treulio amser yn y siop yn hollol donig‘ – Gofal Canser Tenovus
‘Mae fy iechyd meddwl wedi gwella trwy greu rhwydwaith cymorth iach‘ – Hope Rescue
Pam y penderfynais wirfoddoli yn Hosbis Dewi Sant – Hosbis Dewi Sant
‘Fe wnaeth yr Hosbis fy helpu… roeddwn i’n fwy na bodlon talu’n ôl‘ – Hosbis y Cymoedd
‘Un tîm gwirfoddoli gyda nod cyffredin’ – Tŷ Gobaith/Hope House