Mae adroddiad gan y ‘Kings Fund’ yn edrych ar y darlun gwirfoddoli cyfredol mewn ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr, gan nodi beth allai gael ei wneud i alluogi rhaglenni gwirfoddoli i wneud cyfraniad mwy arwyddocaol.
Yn ôl yr adroddiad (Saesneg yn unig), mae ymddiriedolaethau’r GIG yn colli cyfleoedd gwerthfawr i wella a manteisio i’r eithaf ar gyfraniad gwirfoddolwyr. Mae angen iddyn nhw gymryd rhan mewn gwirfoddoli fel cyfle strategol.
BLE MAE GWIRFODDOLWYR YN YCHWANEGU GWERTH
Mae gweithgareddau gwirfoddoli sy’n ychwanegu gwerth i fudiadau a staff yn cynnwys rolau dynodi llwybr (way-finding), cael adborth cleifion a chynorthwyo gwasanaeth neu wella ansawdd.
Mae llawer o rolau gwirfoddolwyr yn effeithio’n uniongyrchol ar brofiad cleifion a theithiau cleifion. Mae natur unigryw y gydberthynas rhwng gwirfoddolwyr a chleifion yn wahanol i, ac yn gallu ategu, gofal staff proffesiynol. Gall gwirfoddolwyr bontio’r bwlch rhwng cleifion a’r tîm clinigol a gall gryfhau’r gallu i roi gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn cael budd, oherwydd mae gwirfoddoli wedi’i gysylltu â risg llai o farwolaeth a gwell lles meddyliol. Gall gynyddu ymdeimlad unigolyn o gysylltedd a hunanwerth yn ogystal â chyflwyno cyfleoedd i ddatblygu ymdeimlad o ddiben a sgiliau personol.
GWNEUD GWIRFODDOLI YN FWY CYNHWYSOL
Dylai dulliau recriwtio geisio bod yn fwy cynhwysol o gymunedau lleol amrywiol. Mae angen i ni ddeall y ffactorau a’r cymhellion diwylliannol sy’n dylanwadu ar wirfoddoli’n well a chynyddu’r gwirfoddolwyr a gaiff eu recriwtio sy’n gynrychioliadol o gymunedau lleol. Y rheini sydd ar ymylon cymdeithas yw’r rhai a allai elwa fwyaf o wirfoddoli.
DULL GWEITHREDU MWY STRATEGOL
Canfu fod dull strategol o fynd ati i wirfoddoli sy’n cefnogi strategaeth mudiad yn cynnwys chwe elfen gyffredin:
- Rheolwr gwasanaethau gwirfoddol pwrpasol, sy’n gallu gweithio ar lefel uwch
- Arweinyddiaeth mudiad, gan gynnwys gwelededd ar lefel Bwrdd
- Cynllun ar gyfer datblygu cwmpas a graddfa gwirfoddoli
- Modd o integreiddio prosiectau llwyddiannus yn ‘fusnes fel arfer’
- Cyllid ac adnoddau i gefnogi buddsoddiad mewn gwirfoddoli. Caiff hyn eu galluogi drwy allu dangos gwerth mudiad, er enghraifft, drwy brosiectau tymor byr a gyllidir yn allanol.
- Ymwybyddiaeth o’r cyd-destun gwirfoddoli ehangach – adeiladu cydberthnasau â mudiadau allanol sy’n cefnogi gwirfoddolwyr sydd ar waith o fewn yr ymddiriedolaeth
CYMORTH CENEDLAETHOL
Gall cyrff cenedlaethol gefnogi symudiad o ddim ond canolbwyntio ar yr hyn y gall gwirfoddolwyr ei wneud, i ddatblygu cynlluniau strategol sy’n cael y gwerth gwirfoddoli mwyaf posibl. Mae ganddyn nhw rôl i’w chwarae, hefyd, mewn galluogi’r gallu a’r capasiti i gyflawni’r rhain.
Nid oes safonau rôl proffesiynol ar gyfer staff sy’n gweithio yng ngwasanaethau gwirfoddolwyr y GIG ar hyn o bryd. Mae lefelau staffio a graddfeydd staff o fewn gwasanaethau gwirfoddolwyr yn amrywio’n sylweddol rhwng ymddiriedolaethau. Mae angen mwy o gydnabyddiaeth o’r gweithlu sydd ei angen i gyflwyno newid strategol mewn gwirfoddoli, ynghyd â darparu cymorth a hyfforddiant priodol i staff a datblygu staff.
Gellid datblygu manylion ar gyfer darparu gwasanaethau gwirfoddol effeithiol yn y GIG, gan gydnabod bod y rhain yn cynnwys gweithgarwch amlweddog sy’n effeithio ar staff, cleifion a gwirfoddolwyr (gallai manylion o’r fath gyd-fynd â’r Safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ac adeiladu ar y Safon hon). Gallai safoni rhai agweddau ar wirfoddoli gynorthwyo â’r gwaith o drosglwyddo gwybodaeth, rolau a hyd yn oed gwirfoddolwyr rhwng ymddiriedolaethau.
Ar hyn o bryd, nid oes data cenedlaethol ar nifer y gwirfoddolwyr mewn ymddiriedolaethau’r GIG, y rolau y maen nhw’n eu gwneud na’u cyfraniad o ran amser neu werth. Mae’r diffyg data hwn yn ei gwneud hi’n anodd datblygu strategaethau hirdymor er mwyn cyrraedd y potensial mwyaf posibl.
Gwnaeth rheolwyr gwasanaethau gwirfoddol amlygu gwerth gallu cysylltu a rhwydweithio â’i gilydd ac roedden nhw’n gwerthfawrogi cyfleoedd i wneud hyn, ynghyd â’r gefnogaeth arferion da a ddarparwyd gan gyrff cenedlaethol amrywiol.
Gallai rhoi mwy o sylw i gostau gwirfoddoli alluogi pobl i fyfyrio’n well ar yr hyn y gellir ei gyflawni o ran graddfa’r buddsoddiad.
Yn olaf, mae angen ystyried rôl gwirfoddoli yn y GIG o fewn cyd-destun systemau gofal seiliedig ar leoedd. Canfu gwaith ymchwil fod gwirfoddoli o fewn y GIG yn dueddol o weithio mewn seilos yn hytrach nag yn yr ‘ecosystem’ wirfoddoli leol ehangach. Drwy ddatblygu cydberthnasau o fewn cymunedau lleol, gall ymddiriedolaethau gynyddu cyfraniad net gwirfoddolwyr at iechyd y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
ADNODD YMARFEROL
Mae adnodd cysylltiedig sylweddol: ‘Adding value through volunteering in NHS trusts’ (Ychwanegu gwerth drwy wirfoddoli mewn ymddiriedolaethau’r GIG) (Saesneg yn unig) yn disgrifio’r prosiect yn fanylach, gan gynnwys tystiolaeth o’r llenyddiaeth ynghylch y patrwm a’r proffil, y cymhellion a’r rhwystrau sy’n ymwneud â gwirfoddoli’n gyffredinol yn ogystal ag yn ymarferol o fewn y GIG.
Mae’n awgrymu camau gweithredol y gall rheolwyr gwirfoddolwyr eu cymryd i fwyafu buddion gwirfoddoli o ran y themâu a amlygwyd uchod: ymateb i anghenion gwirfoddolwyr unigol, ychwanegu gwerth i fudiadau a staff, i gleifion a gofalwyr, cefnogi cynhwysiant ac amrywiaeth, datblygu dull gweithredu strategol.
SYLW O SAFBWYNT CYMRU
Er bod yr adroddiadau hyn yn adlewyrchu gwaith ymchwil yn Lloegr ac wedi’u hysgrifennu i gynulleidfa Saesneg, bydd llawer yn berthnasol i ddarllenwyr yng Nghymru, er y gallai rhywfaint o’r cyd-destun fod yn wahanol.
Mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn uchel ar ein hagenda. I’r diben hwn, mae deall cyfraniad gwirfoddolwyr ar sail lleoliad yn hanfodol. Rhaid i ‘weithio fel seilos’ gael ei ddisodli gan weledigaeth fwy o faint gyda phartneriaid o’r sector statudol a gwirfoddol yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi gwirfoddoli sy’n cyflawni ein blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer iechyd a gofal ac sy’n creu cyfleoedd i’r amrywiaeth ehangaf o unigolion wirfoddoli.
Mae ein Fframwaith ar gyfer gwirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnig adnoddau ar gyfer asesu a datblygu i gefnogi’r weledigaeth hon.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Fiona Liddell. Rheolwr Helplu Cymru fliddell@wcva.cymru.
Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i dderbyn diweddariadau ar e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.