Dynes oedrannus yn gwirfoddoli mewn siop elusen

Dull newydd o ymdrin â gwirfoddoli yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 07/04/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae CGGC a Llywodraeth Cymru yn cyd-greu dull newydd o wirfoddoli gyda rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, rhannwch eich barn ar ein datganiad gweledigaeth newydd.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyd-ddylunio dull newydd o ymdrin â gwirfoddoli gyda rhanddeiliaid gwirfoddoli allweddol. Fel rhan o’r gwaith hwn rydym wedi cynhyrchu datganiad o weledigaeth ac rydym yn bwriadu profi hwn nawr er mwyn ei wella a’i fireinio.

Y WELEDIGAETH

I ni, mae gwirfoddoli yn rhywbeth buddiol nid yn unig i’r rhai sy’n cael cymorth, ond hefyd i’r gwirfoddolwyr eu hunain a’r gymuned a’r gymdeithas ehangach. Ein gweledigaeth yw bod gwirfoddoli yn dod yn gryfach fyth fel rhan o’n hunaniaeth a’n diwylliant yng Nghymru. Ein nod yw lledaenu ymwybyddiaeth o’i werth a phwysigrwydd ei fanteision amrywiol, a chryfhau effaith gwirfoddoli ym mhob maes gweithgarwch yn y dyfodol.

RHANNU EICH SYLWADAU

Fel rhan o’r broses gyd-greu, rydym eisiau profi faint o gefnogaeth sydd i’r datganiad gweledigaeth a helpu i’w wella a’i fireinio. Mae arolwg byr wedi’i ddatblygu sy’n rhoi cyfle i chi rannu eich barn ar y weledigaeth.

Mae’r arolwg ar gyfer unrhyw unigolion a mudiadau sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr, neu unrhyw un â diddordeb mewn cefnogi a datblygu’r dull o ymdrin â gwirfoddoli yng Nghymru.

Rydym yn gobeithio y bydd cynrychiolwyr o’ch mudiad yn cwblhau’r arolwg a gofynnwn i chi hefyd rannu’r ddolen â’ch aelodau, eich rhwydweithiau a’ch buddiolwyr, fel y gallwn ymgynghori mor eang â phosibl.

Mynediad i’r arolwg.

FFRAMWAITH CYFLAWNI

Yn ogystal â’r arolwg, bydd cyfleoedd ychwanegol i gyfrannu at yr ymgynghoriad ar y weledigaeth newydd trwy weithdai a chyfarfodydd rhwydwaith. Mae Fframwaith Cyflawni hefyd yn cael ei brofi wrth i ni agosáu at ein digwyddiad blaenllaw, gofod3 lle rydym yn bwriadu lansio’r weledigaeth.

RHAGOR O WYBODAETH

Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr ymgynghoriad a hoffech glywed mwy am sut gallwch gymryd rhan, cysylltwch â Becca Mattingley ar beccamattingley@outlook.com.

Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg yw 30 Mai 2025.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 25/04/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwirfoddolwyr mewn gwasanaethau iechyd meddwl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/04/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Gwerth economaidd eich mudiad mewn wasanaethau iechyd a gofal

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 24/04/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Nifer y mudiadau sy’n cau yn y sector gwirfoddol ar gynnydd

Darllen mwy