Llaw rhywun yn defnyddio pen du i dicio blychau ar ddarn o bapur gwyn

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2025

Cyhoeddwyd : 02/10/25 | Categorïau: Newyddion |

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn ôl am 2025 i roi cyfle i elusennau hybu Rhodd Cymorth a chynyddu gwerth eu rhoddion.

Eleni, mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn digwydd ar ddydd Iau 9 Hydref 2025 *ac yn rhan o’r ymgyrch #TickTheBox (Ticio’r Blwch), sy’n rhannu’r effaith anferthol y mae Rhodd Cymorth yn ei chael ar fuddiolwyr a chymunedau ac yn hybu dealltwriaeth y cyhoedd o Rodd Cymorth.

BETH YW RHODD CYMORTH?

Rhyddhad treth i elusennau yn y DU yw Rhodd Cymorth sy’n cynyddu gwerth rhoddion. Pan fydd trethdalwyr y DU yn rhoi arian, gall yr elusen hawlio 25% ychwanegol o werth y rhodd. Mae hyn yn golygu am bob rhodd o £10 a roddir i’r elusen, gallant dderbyn £12.50. Nid yw’n costio geiniog yn fwy i’r rhoddwr.

Bob blwyddyn, mae’r ymgyrch yn amlygu pwysigrwydd Rhodd Cymorth fel ffynhonnell incwm hanfodol i elusennau. Roedd Rhodd Cymorth yn werth £1.7 biliwn y flwyddyn i elusennau’r DU yn 2024/2025. Mae’n swm enfawr, ond gallai fod yn fwy! Yn ôl *Adroddiad Rhoi 2025 y Charities Aid Foundation, mae mwy na thri chwarter o roddwyr yn dweud eu bod ‘bob amser’ neu ‘weithiau’ yn ychwanegu Rhodd Cymorth at eu rhoddion. Cred y mwyafrif o bobl, waeth a ydynt yn rhoddwyr neu beidio, fod Rhodd Cymorth yn hanfodol i elusennau ac y dylai pobl, pan fo’n briodol, gael eu hannog i ychwanegu Rhodd Cymorth at eu rhoddion.

GWNEUD YN SIŴR BOD POBL YN TICIO’R BLWCH (#TICKTHEBOX)

Rydym ni eisiau i bob elusen gymwys fanteisio i’r eithaf ar y rhyddhad treth hanfodol hwn, a lleihau swm y Rhodd Cymorth na chaiff ei hawlio bob blwyddyn, sy’n oddeutu £560 miliwn. Ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth, mae’n bwysig dangos pa mor amrywiol a thyngedfennol yw’r sector gwirfoddol a sut gallwn ni, gyda’n gilydd, effeithio’n bositif ar filiynau o bobl bob dydd.

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth ac ymgyrch Ticio’r Blwch (#TickTheBox) yn cynnig cyfle gwych i ddiolch i’r rhoddwyr hynny sy’n ticio’r blwch Rhodd Cymorth wrth roi rhoddion. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth rhoddwyr presennol a phosibl, cefnogwyr a gwirfoddolwyr o ba mor werthfawr y gall Rhodd Cymorth fod i fudiad a’i fuddiolwyr.

Gallai hwn fod yn amser da i atgoffa eich gwirfoddolwyr mewn siopau elusennau a digwyddiadau codi arian i annog pobl i gofrestru am Rodd Cymorth, neu i gynnig rôl wirfoddoli newydd i gefnogi eich hawliadau Rhodd Cymorth.

Eleni, bydd y Charity Finance Group yn cynnal eu *gweminar flynyddol ar 9 Hydref 2025 ochr yn ochr â Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) a phartneriaid arbenigol eraill. Bydd y digwyddiad ar-lein yn amlygu ffyrdd o sicrhau’r incwm mwyaf posibl o’ch Rhodd Cymorth.

DYSGWCH FWY

*Ewch i dudalen we’r Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth i lawrlwytho pecyn cymorth yr ymgyrch, sydd bellach yn cynnwys asedau Cymraeg.

Os nad ydych, fel elusen, wedi sefydlu system i brosesu a derbyn Rhodd Cymorth eto, edrychwch ar yr adnodd, Cyflwyniad i Rodd Cymorth, ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 09/02/26
Categorïau: Newyddion

Mae’n Wythnos Elusennau Cymru!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/02/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Arweinwyr y sector gwirfoddol yn gwrthwynebu cynigion ‘setliad a enillwyd’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/02/26
Categorïau: Newyddion

Rydyn ni’n cyflogi – Rheolwr Dysgu Digidol Presgripsiynu Cymdeithasol

Darllen mwy