Tocynnau raffl wrth ymyl rhai darnau arian

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2024

Cyhoeddwyd : 10/09/24 | Categorïau: Cyllid |

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn dychwelyd ar gyfer 2024, gan roi cyfle i elusennau hybu Rhodd Cymorth a chynyddu gwerth eu rhoddion.

Eleni, mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn digwydd ar ddydd Iau 3 Hydref, *a rhan o ymgyrch #TicioBlwch (#TickTheBox), sy’n rhannu’r effaith anferthol y mae Rhodd Cymorth yn ei chael ar fuddiolwyr a chymunedau ac yn hybu dealltwriaeth y cyhoedd o Rodd Cymorth.

EGLURO RHODD CYMORTH

Rhyddhad treth i elusennau yn y DU yw Rhodd Cymorth sy’n cynyddu gwerth rhoddion. Pan fydd trethdalwyr y DU yn rhoi arian, gall yr elusen hawlio 25% ychwanegol o werth y rhodd. Mae hyn yn golygu am bob rhodd o £10 sy’n cael ei roi, gall elusen dderbyn £12.50. Ac nid yw’n costio’r un ddimai goch i’r rhoddwr.

Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd y llywodraeth ei hystadegau blynyddol ar ryddhad treth i elusennau. Er bod swm y Rhodd Cymorth a hawliwyd wedi cynyddu i £1.6 biliwn, sy’n newyddion gwych, roedd 1,310 yn llai o elusennau wedi elwa ar y cynnydd hwn mewn gwirionedd. Mae’r *Sefydliad Cymorth i Elusennau wedi canfod nad yw bron chwarter y trethdalwyr cymwys yn ychwanegu Rhodd Cymorth wrth roi arian. Gallai hynny fod yn filiynau o bunnoedd y gallai elusennau ledled y DU fod yn gwneud defnydd ardderchog ohono er budd eu cymunedau.

GWNEUD YN SIŴR BOD POBL YN #TICIORBLWCH

Rydyn ni eisiau i bob elusen gymwys fanteisio i’r eithaf ar y rhyddhad treth hanfodol hwn, a lleihau’r Rhodd Cymorth na chaiff ei hawlio bob blwyddyn, sy’n oddeutu £560 mil.

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth a’r ymgyrch #TiciorBlwch yn gyfleoedd gwych i ddiolch i’r rhoddwyr hynny sy’n ticio’r blwch Rhodd Cymorth wrth roi arian, ac i godi ymwybyddiaeth rhoddwyr presennol a phosibl, cefnogwyr a gwirfoddolwyr o ba mor werthfawr y gall Rhodd Cymorth fod i fudiad a’i fuddiolwyr.

Gallai hyn fod yn amser da i atgoffa eich gwirfoddolwyr mewn siopau elusennau a digwyddiadau codi arian i annog pobl i gytuno i Rodd Cymorth, neu i gynnig rôl gwirfoddoli newydd i gefnogi eich hawliadau Rhodd Cymorth.

RHAGOR O WYBODAETH

Ewch i wefan Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth i lawrlwytho pecyn cymorth newydd yr ymgyrch, sydd bellach yn cynnwys asedau Cymraeg.

Os nad ydych chi, fel elusen, wedi eich sefydlu i brosesu a derbyn Rhodd Cymorth, edrychwch ar yr adnodd Cyflwyniad i Rodd Cymorth ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

 

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 14/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Lansio cyllid ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy