Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn rhoi’r cyfle i elusennau hybu Rhodd Cymorth a chynyddu gwerth eu rhoddion.
Eleni, mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth a ffocws yr ymgyrch #TickTheBox (Ticio’r Blwch) ar ddydd Iau 5 Hydref.
Rhyddhad treth i elusennau yn y DU yw Rhodd Cymorth sy’n cynyddu gwerth rhoddion. Pan fydd trethdalwyr y DU yn rhoi arian, gall yr elusen hawlio 25% ychwanegol o werth y rhodd. Mae hyn yn golygu y gallant dderbyn £12.50 am bob rhodd o £10 sy’n cael ei gyflwyno i’r elusen. Ac ni fydd yn costio’r un geiniog yn fwy i’r rhoddwr.
EFFAITH BOSIBL RHODD CYMORTH
Ym mis Ionawr 2022, amcangyfrifodd y Grŵp Cyllid Elusennau fod mwy na £500 miliwn o Rodd Cymorth posibl yn mynd heb ei hawlio bob blwyddyn.
Mae’r Sefydliad Cymorth i Elusennau wedi canfod nad yw bron chwarter o drethdalwyr cymwys yn ychwanegu Rhodd Cymorth wrth roi arian.
Mae hynny’n filiynau o bunnoedd y gallai elusennau ledled y DU fod yn gwneud defnydd rhagorol ohono er budd eu cymunedau.
#TICKTHEBOX
Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth a’r ymgyrch #TickTheBox (Ticio’r Blwch) yn rhoi cyfleoedd gwych i elusennau ddiolch i’r rhoddwyr hynny sy’n ticio’r blwch Rhodd Cymorth wrth roi arian, ac yn codi ymwybyddiaeth ymhlith rhoddwyr cyfredol a phosibl, cefnogwyr a gwirfoddolwyr o ba mor werthfawr y gall Rhodd Cymorth fod i fudiad a’i fuddiolwyr.
Gallai hyn fod yn amser da i atgoffa eich gwirfoddolwyr mewn siopau elusen a digwyddiadau codi arian i annog pobl i ddewis yr opsiwn Rhodd Cymorth, neu i gynnig rôl wirfoddol newydd i gefnogi eich hawliadau Rhodd Cymorth.
RHAGOR O WYBODAETH
Ewch i dudalen we’r Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth (Saesneg yn unig) i lawrlwytho’r pecyn ymgyrchu.
Os nad yw eich elusen wedi cymryd camau eto i allu prosesu a derbyn Rhodd Cymorth, edrychwch ar yr adnodd Cyflwyniad i Rodd Cymorth ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.