Mae’n bleser gennym gyhoeddi fod y Pecyn Hyfforddiant Sylfaenol Cymru Gyfan ar Ymwybyddiaeth o Ddiogelu, a gyflwynir gan Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi’i ddiweddaru bellach i gynnwys Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Mae’r pecyn hyfforddiant Sylfaenol Cymru Gyfan ar Ymwybyddiaeth o Ddiogelu hwn yn cefnogi holl weithwyr y maes gofal cymdeithasol, y sector gwirfoddol a llawer o rolau eraill sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion mewn perygl, er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o ddiogelu.
Nod y pecyn yw cyflwyno neges gyson am gyfrifoldebau diogelu ledled Cymru, gan ganiatáu i’r rheini sy’n cynnig hyfforddiant diogelu deilwra’r ffordd y caiff yr hyfforddiant ei ddarparu, yn dibynnu ar anghenion y dysgwr.
Mae’r cynnwys wedi datblygu i adlewyrchu natur newidiol diogelu yn ogystal â rhoi arweiniad clir i’r gwaith o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Ganwyd y pecyn o waith partneriaeth rhwng CGGC a Gofal Cymdeithasol Cymru a chafodd ei lunio’n fedrus gan Sue Gwynn a Rhys Hughes. Cafodd ei ryddhau’n gyntaf ar ddiwedd 2015 fel pecyn i hyfforddwyr ddiwallu anghenion dysgu gweithwyr a gwirfoddolwyr yn y maes gofal cymdeithasol a’r sector gwirfoddol. Mae’r pecyn wedi’i ddiwygio droeon mewn ymateb i newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau, arferion a chyflwyniad Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Mae’r pecyn yn cynnwys llawer o adnoddau defnyddiol i hyfforddwyr a dysgwyr, fel canllawiau i’r ddeddfwriaeth, diffiniadau o’r gwahanol fathau o gam-drin ac adolygiadau o arferion.
CYMWYSTERAU
Caiff Pecyn Hyfforddiant Sylfaenol Cymru Gyfan ar Ymwybyddiaeth o Ddiogelu ei gydnabod ar Lefel 2 Hyfforddiant Diogelu.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wrthi’n ystyried sut i gydnabod y dysgu a gyflawnir gan y rheini sy’n cwblhau’r pecyn hwn. Unwaith y byddant wedi dod i benderfyniad ar hyn, bydd y dudalen yn cael ei diweddaru.
Argymhellwn fod hyfforddwyr diogelu yng Nghymru yn defnyddio ac yn cyfeirio at y pecyn hwn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch cael gafael ar hyfforddiant diogelu, gallwch chi gysylltu â’n Swyddog Diogelu a fydd yn falch o’ch helpu safeguarding@wcva.cymru.
Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) ynghylch cyfleoedd hyfforddi lleol, ewch i cefnogitrydyddsector.cymru.