Video conference

Diweddariadau’r Comisiwn Elusennau – Cadeirydd Newydd a Chynllun Busnes ar gyfer 2022/23

Cyhoeddwyd : 08/06/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi penodi Cadeirydd newydd yn ddiweddar ac wedi cyhoeddi ei Gynllun Busnes ar gyfer 2022/2023, sy’n cynnwys ymrwymiad i gryfhau amlygrwydd ac ymgysylltu yng Nghymru.

Cadeirydd newydd y Comisiwn yw Orlando Fraser CF.  Gwnaeth Prif Swyddog Gweithredol CGGC, Ruth Marks, fynychu cyfarfod rhagarweiniol gydag Orlando Fraser ym mis Mai, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gydag ef i gynorthwyo elusennau yng Nghymru yn ystod ei dymor yn y Comisiwn.

Mae ei araith agoriadol yn ‘amlinellu ei fwriad i arwain rheolydd arbenigol teg, cytbwys ac annibynnol.’ Mae’r araith yn gadarnhaol ynghylch y rôl y mae’r sector yn ei chwarae mewn cymdeithas ac yn mynegi ‘awydd i arwain Comisiwn arbenigol – hynny yw, rheolydd sy’n llawn o’r bobl gorau a mwyaf galluog, y gall eich ymddiriedolwyr ddibynnu ar eu crebwyll.’

HERIO AC ANNOG

Noda ei fod eisiau i waith y Comisiwn gael ei lywio gan dri gwerth allweddol – tegwch, cydbwysedd ac annibyniaeth. Mae yna neges gysurlon ynghylch cefnogi ymddiriedolwyr i ‘wneud y peth iawn’ pan na fydd pethau’n mynd yn union fel y bwriadwyd:

‘Felly, bydd adegau lle bydd y Comisiwn yn gadarn dros ben, ond yn yr un modd, byddwch chi’n gweld ochr gefnogol i ni – yr her yw cael y cydbwysedd cyffredinol cywir dros amser rhwng herio ac annog, ac mae’n rhywbeth rwyf eisiau i’r Comisiwn dalu sylw ato.’

Daw’r araith i ben gydag addewid y bydd y Comisiwn yn parhau i gynyddu ei ymdrechion i wella’r gwasanaeth y mae’n ei gynnig i ymddiriedolwyr. Mae hefyd yn gofyn dau beth i’r ymddiriedolwyr. Mae’r gofyniad cyntaf yn ymwneud â’r ddyletswydd gyfreithiol i ddangos doethineb fel ymddiriedolwyr, ‘neu, mewn geiriau eraill, i reoli adnoddau eich elusen mewn modd cyfrifol’. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i ni gychwyn ar gyfnod fwyfwy heriol. Mae’r ail ofyniad yn ymwneud â recriwtio ymddiriedolwyr, gan gynnwys cais i ‘wneud unrhyw ymgyrch recriwtio mor gynhwysol ac amrywiol â phosibl, gan felly sicrhau rhagoriaeth barhaus y sector.’

GYLLUN BUSNES

Mae’r Comisiwn hefyd wedi cyhoeddi ei Gynllun Busnes ar gyfer 2022- 2023 (Saesneg yn unig), sydd wedi’i strwythuro o gylch tair blaenoriaeth:

  • byddwn yn gwella ein gallu i reoleiddio’n effeithlon, yn effeithiol ac yn gadarn
  • byddwn yn ymgysylltu’n well ag ymddiriedolwyr, gan eu cynorthwyo i redeg eu helusennau yn dda
  • byddwn yn cryfhau ein mudiad er mwyn sicrhau ein bod yn gwireddu ein huchelgais

Rydyn ni’n falch o nodi bod y Cynllun Busnes newydd yn cynnwys ymrwymiad i ‘weithio’n agos gyda chyrff cynrychioliadol ac ymgysylltu’n bositif â Llywodraeth Cymru ac Aelodau o’r Senedd ar faterion sydd o bwys i bob ochr’ ac i ‘gryfhau ein hamlygrwydd a’n hymgysylltu yng Nghymru’.

MWY AM HYN

Bydd y Comisiwn Elusennau yn cynnal digwyddiad AM DDIM yn ystod y flwyddyn hon gyda Chyflwyniad i’r Rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau.

I gael cymorth ychwanegol ar faterion llywodraethu, gwnewch yn siŵr bod eich mudiad yn aelod o CGGC. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein e-fwletin llywodraethu neu unrhyw rhestre-bostio arall gan CGGC.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy