Dyn o brosiect Nanny Biscuit yn Sir y Fflint yn rhoi pryd o fwyd i fenyw hŷn sy'n cysgodi

Diweddariadau ac arweiniad ar COVID-19

Cyhoeddwyd : 12/01/22 | Categorïau: Newyddion |

Diweddariad ddiwethaf 12 Ionawr 2022

Darllenwch diweddariad dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru yma

COVID-19 DIWEDDARIADAU EBOST

Os hoffech chi gael diweddariadau ebost ar yr holl newyddion COVID-19 perthnasol i sector gwirfoddol Cymru, cofrestrwch yma.

NEWYDDION DIWEDDARAF

NEWYDDION HENACH

CANLLAWIAU AC ADNODDAU COVID-19

Rydym wedi coladu ein holl ganllawiau ac adnoddau ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru ar y dudalen ganllaw COVID-19 hon. Yma fe welwch wybodaeth a chyngor sy’n gysylltiedig â Coronafeirws ar bethau fel gwirfoddoli, cyllid, ymddiriedolwyr a llywodraethu, ac iechyd a lles.

Cyllid i gefnogi mudiadau gwirfoddol yn ystod y pandemig

Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru

CYLLID CAM 3 AR AGOR NAWR - Cymorth goroesi a ffynnu i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19

Gwybodaeth pwysig i gwirfoddolwyr

Logo gyda'r geiriau Gwirfoddoli Cymru Volunteering Wales
  • Dylai unigolion sydd eisiau gwirfoddoli yng Nghymru gofrestru trwy gwirfoddolicymru.net
  • Dylai sefydliadau sydd angen cefnogaeth gwirfoddolwyr bostio cyfleoedd ar gwirfoddolicymru.net
  • Canllawiau ar wirfoddoli ar ein tudalen arweiniad
Ewch i ganllaw Covid-19

BLOGIAU A GOLYGFEYDD

STRAEON POSITIF

MWY O NEWYDDION DA PLIS?

Nid ydyn ni wedi cael llawer o newyddion da yn ddiweddar – rhwng COVID-19 a’r llifogydd dinistriol diweddar ledled Cymru, mae’r hwyliau’n ymddangos yn eithaf isel ledled y wlad.

Yr hyn nad ydym wedi bod yn brin ohono yw straeon am gymunedau gwydn yn dod at ei gilydd – er enghraifft y newyddion bod grwpiau fel Coronavirus Support Blaenau Gwent wedi bod yn ymgynnull gwirfoddolwyr i helpu pobl mewn angen.

Byddwn yn rhannu straeon newyddion da ac enghreifftiau o arfer da fel rhan o’r cylchlythyr hwn. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw straeon cadarnhaol eraill tebyg am gymunedau yn cyd-dynnu i ymdopi â COVID-19 yna rhowch wybod i ni!

EIN SAFBWYNT AR Y DATBLYGIADAU PARHAUS AR IECHYD Y CYHOEDD

Dyma ein Prif Weithredwr Ruth Marks yn amlinellu rôl CGGC a ffocws cyfredol ein gwaith i gefnogi fudiadau gwirfoddol yn ystod yr amser anodd hwn.

Fel rhan o’n hymateb parhaus i’r achosion o’r Coronafeirws (COVID-19), mae CGGC yn talu sylw gofalus at y cyngor sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU yn ogystal â’r cyfarwyddyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Argymhellir fod pawb yn dilyn cyngor y GIG ar hylendid.

Oherwydd y cyngor cyfredol ar y Coronafeirws rydym wedi gwneud y penderfyniad i gau ein swyddfeydd. Fodd bynnag, mae ein holl staff wedi cael yr offer i weithio gartref ac rydym yn dal i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi mudiadau gwirfoddol yn ystod yr amser anodd hwn.

Ar hyn o bryd rydym yn gohirio hyfforddiant a digwyddiadau wyneb yn wyneb, ond byddwn yn parhau i ddarparu dysgu ar-lein lle bo hynny’n bosibl.

Byddwn yn parhau i fonitro unrhyw ddatblygiadau ac yn rhoi gwybod i’r sector gwirfoddol am unrhyw gamau pellach y byddwn yn eu cymryd wrth i bethau newid.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 11/06/25
Categorïau: Newyddion

Gweithio i CGGC – Rheolwr Buddsoddi mewn Ynni Glân

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 09/06/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Mae Cronfa Adeiladu Capasiti Arfordirol yn ôl!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Gwirfoddoli: Curiad calon iechyd a gofal yng Nghymru

Darllen mwy