Dwylo'n dal darn arian uwchben tŷ enghreifftiol a rhai darnau arian mwy

Diweddariad y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol

Cyhoeddwyd : 15/12/21 | Categorïau: Cyllid |

Mae ail rownd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol wedi’i gwthio’n ôl tan Wanwyn 2022, gyda rownd un yn ailagor i’r rhai a wnaeth gais yn wreiddiol ac a oedd yn gymwys ond yn aflwyddiannus.

TROSOLWG O’R GRONFA

Yn yr haf, lansiodd Llywodraeth y DU y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Mae’n gronfa gwerth £150miliwn ledled y DU, a sefydlwyd i helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau ac amwynderau sydd mewn perygl o gau. Cymeradwywyd 21 o brosiectau o dan y rownd gyntaf, gyda 3 yng Nghymru – £250,000 ar gyfer tafarn Tŷ’n Llan yng Ngwynedd, £124,258 ar gyfer Canolfan Adnoddau a Hyfforddiant CANA yn Rhondda Cynon Taf a £90,000 ar gyfer adnewyddu ac ailddatblygu Ystafell Ball y Frenhines ym Mlaenau Gwent.

GOHIRIO’R AIL ROWND

Dywedwyd wrthym am ddisgwyl i’r ail rownd agor rywbryd ym mis Rhagfyr, ond mae hyn wedi’i wthio’n ôl i Wanwyn 2022. Y rhesymeg a roddwyd y tu ôl i’r penderfyniad hwn yw y bydd yn rhoi mwy o amser i’r Adran Lefelu, Tai a Chymunedau (DLUHC) archwilio a dysgu o’r rownd gyntaf a rhoi mwy o amser i ymgeiswyr baratoi a chyflwyno ceisiadau.

Bydd y cylch yn cael ei lansio ochr yn ochr â phrosbectws wedi’i ddiweddaru, canllawiau asesu a ffurflen gais, gyda chynnig o gymorth ychwanegol i grwpiau â diddordeb.

ROWND UN YN AIL-AGOR

Yn y cyfamser, bydd rownd un yn ailagor ar gyfer grwpiau cymunedol a wnaeth gais yn wreiddiol o dan y rownd gyntaf ond a oedd yn aflwyddiannus. Bydd yn agor ym mis Rhagfyr ac yn cau rywbryd ym mis Chwefror 2022. Bydd y meini prawf asesu a’r prosbectws yn aros yr un fath â rownd 1 ac felly maent ond yn chwilio am geisiadau gwell i ailymgeisio. Bydd y DLUHC yn cysylltu â’r rhai a oedd yn gymwys ond yn aflwyddiannus yn rownd 1. Bydd dogfen Cwestiynau Cyffredin, gyda rhagor o fanylion, yn cael ei rhannu’n fuan.

I dderbyn diweddariadau pellach a gwybodaeth am y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol a chronfeydd eraill fel hyn, cofrestrwch i gylchlythyr CGGC.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy