menyw yn gweithio ar bwrdd y gegin yn dal ei phen yn ei dwylo

Diweddariad y Comisiwn Elusennau ar help gydag Ansolfedd i gwmnïau elusennol a mudiadau corfforedig elusennol

Cyhoeddwyd : 28/04/21 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi diweddaru ei ganllawiau coronafeirws ar amddiffyniadau ansolfedd ar gyfer cwmnïau elusennol a mudiadau corfforedig elusennol (CIOs).

Mae darpariaethau wedi’u cyflwyno gan Ddeddf Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol 2020 i helpu busnesau i barhau i weithredu ac osgoi ansolfedd yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd yn sgil COVID-19.

Mae’r darpariaethau hyn yn gymwys i gwmnïau elusennol, ac mae’r mwyafrif o’r darpariaethau hefyd yn gymwys i Fudiadau Corfforedig Elusennol (CIOs).

Mae’r darpariaethau’n cynnwys:

  • moratoria, sy’n cynnig cyfle i gwmnïau a CIOs gael seibiant o gamau gorfodi dyledion fel eu bod yn cael cyfle i edrych ar opsiynau ar gyfer achub neu ailstrwythuro’r cwmni. Mae’r darpariaethau moratoriwm dros dro ychwanegol ar gyfer y coronafeirws wedi’u hymestyn tan 30 Medi 2021
  • cyfyngu cymalau terfynu mewn contractau cyflenwi, er mwyn darparu ar gyfer parhad cyflenwadau fel y gall cwmnïau a CIOs barhau i weithredu. Mae’r esemptiad dros dro ychwanegol ar gyfer cyflenwyr endid bach yn ystod y coronafeirws wedi’i ymestyn tan 30 Mehefin 2021
  • atal darpariaethau ar gyfer masnachu ar gam dros dro, gan ganiatáu i gyfarwyddwyr cwmnïau ac ymddiriedolwyr CIOs barhau i weithredu elusen drwy’r argyfwng heb fygythiad atebolrwydd personol. Mae’r darpariaethau hyn a oedd yn berthnasol rhwng 1 Mawrth a 30 Medi 2020 wedi’u hadfer, fel na fydd hi’n bosibl cyflwyno’r hawliadau hyn o fasnachu ar gam o ran colledion a achoswyd drwy fasnachu rhwng 26 Tachwedd 2020 a 30 Mehefin 2021
  • Atal defnyddio galwadau statudol dros dro a chyfyngiad ar ddirwyn deisebau i ben, pan na fydd cwmni neu CIO yn gallu talu ei filiau oherwydd argyfwng y coronafeirws. Mae’r darpariaethau hyn wedi’u hymestyn a byddant yn berthnasol tan 30 Mehefin 2021
  • cymorth i gwmnïau hyfyw sy’n cael anhawster â dyledion i ailstrwythuro o dan weithdrefn newydd – nid yw’r darpariaethau hyn yn berthnasol i CIOs

Gallwch chi gael gwybodaeth fanylach am bob un o’r darpariaethau hyn gan y Gwasanaeth Ansolfedd (Saesneg yn unig).

Os ydych chi’n credu y gallai eich elusen chi fod mewn perygl o ansolfedd, dylech siarad ag ymarferydd ansolfedd am gyngor cyn gynted â phosibl.

Am wybodaeth bellach, gweler canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar reoli anawsterau ariannol a achoswyd gan y coronafeirws

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector – camau nesaf

Darllen mwy