Mae’r tîm 3-SET yn rhoi diweddariad byr ar ddatblygiadau polisi o ran byd cyllid Ewropeaidd a’i olynwyr yn y DU.
Trafodaethau’r Pwyllgor Materion Cymreig a’r SPF
Ar 14 Ionawr, ymunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, a’r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, David TC Davies AS, ag aelodau’r Pwyllgor Materion Cymreig. Roedd trafodaethau’r sesiynau’n ymdrin ag amrywiaeth o feysydd pwnc, gan gynnwys y Gronfa Ffyniant a Rennir (SPF). Dyma gylch byr o rai o’r pwyntiau a drafodwyd:
- Cyhoeddir y prosbectws llywodraethu arfaethedig ar gyfer yr SPF erbyn mis Ebrill.
- Cyfeiriwyd at Gytundebau Twf fel enghraifft gadarnhaol o sut y gall ardaloedd y DU ac ardaloedd lleol gydweithio (fodd bynnag, byddem yn dadlau mai ychydig iawn o ymwneud sydd gan y sector gwirfoddol â’r strwythurau hyn yng Nghymru).
- Eglurwyd diben y £220 miliwn a gyhoeddwyd yn Adolygiad o Wariant y llynedd ac sy’n gysylltiedig â’r SPF. Nid SPF yn unig yw’r cyllid hwn, mae’n un o’r primer SPF, ac felly ni fydd unrhyw addewidion maniffesto yn cael eu torri o ran Cymru’n cael llai nag y mae ganddo hawl iddo.
- Cafwyd rhywfaint o drafodaeth ychwanegol am y £220 miliwn ac os caiff hyn ei ystyried yn gyfraniad gan y Gronfa Lefelu i Fyny. Roedd y sefyllfa ar hyn yn amwys ond cadarnhawyd yn ddiweddarach y bydd rhaniad o £800 miliwn rhwng y tair gwlad fel swm canlyniadol Barnett o’r Gronfa Lefelu i Fyny.
Gallwch weld y recordiad llawn yma.
Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CJCs)
Y mis diwethaf, gwnaethom ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar reoliadau i sefydlu cydbwyllgorau corfforaethol. Y CJCs yw mecanwaith statudol arfaethedig newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer cydweithredu rhanbarthol gan lywodraeth leol. Yn ein hymateb, croesawyd y bwriad i ddileu cymhlethdod, cydnabod rôl gwirfoddolwyr ac ymrwymiadau i gydweithio ‘gwifrau caled’ ar draws llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol. Ond, hyd yn oed gyda’r bwriadau datganedig hyn, rydym yn pryderu bod y CJCs yn peryglu cymhlethdod cynyddol a lleihau cyfranogiad dinasyddion a’r sector gwirfoddol, a fyddai’n gam yn ôl ar gyfer llywodraethu yng Nghymru.
Daw hyn hefyd ar adeg pan fyddwn mewn perygl o golli egwyddor y bartneriaeth. Mae egwyddor y bartneriaeth wedi bod yn sail i’r trefniadau llywodraethu ar gyfer rhaglenni’r Gronfa Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yng Nghymru ac mae wedi gweithredu’n llwyddiannus fel mecanwaith ar gyfer cynrychiolaeth a dylanwad traws-sector. Gan ystyried y Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru a rôl ddatganedig y CJCs, mae’n bwysig bod yr egwyddor hon yn cael ei dwyn ymlaen i waith yn y dyfodol.
Bydd copi o’n hymateb llawn ar gael ar ein gwefan yn ystod yr wythnosau nesaf.
Cefnogi cyflenwyr i ddeall y tirlun cyflogadwyedd presennol yng Nghymru
Y mis hwn rydym hefyd wedi cefnogi cyflenwyr ar fframwaith CAEHRS yr Adran Gwaith a Phensiynau (fframwaith newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer cyflogaeth a gwasanaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd) er mwyn deall y tirlun cyflogadwyedd presennol yng Nghymru yn well. Darparwyd gwybodaeth am y polisi sy’n ymwneud â darpariaeth cyflogadwyedd, strwythurau a mecanweithiau presennol a’r heriau allweddol i gyflawni. Rhoddodd y sesiwn grynodeb hefyd o’r pedwar rhanbarth yng Nghymru, gan gynnwys eu hamcanion, eu heriau a’u strwythurau blaenoriaeth. Cyflwynwyd y sesiwn mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Thîm Ymgysylltu Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru.
Ac yn olaf, fel sector rydym bob amser wedi cynnal lefelau cryf o ddylanwad ar lefel Cymru a Brwsel – mae’r cysylltiadau hyn, wrth gwrs, yn dal yn eithriadol o bwysig ond, nawr rydym wedi gadael yr UE, mae’n rhaid i ni sefydlu perthnasoedd newydd a chryfhau cydberthnasau presennol ar lefel y DU. Mae 3-SET wedi ffurfio gweithgor traws gwlad gyda’n chwaer gynghorau a rhwydweithiau i helpu i hwyluso hyn. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein blaenoriaethau a’n cynnydd dros y misoedd nesaf.