Fis diwethaf, cyhoeddwyd diweddariad o’r Cod Llywodraethu i Elusennau, gan gryfhau’r ffocws ar ymddygiadau a chynhwysiant.
Y COD LLYWODRAETHU I ELUSENNAU
Wedi’i ddatblygu gan grŵp llywio traws-sector, mae’r diweddariad o’r Cod Llywodraethu i Elusennau yn rhoi canllawiau ymarferol i fyrddau fyfyrio ar sut maen nhw’n arwain, yn gwneud penderfyniadau ac yn glynu wrth ddiben eu helusennau.
Fframwaith gwirfoddol yn hytrach na gofyniad rheoleiddiol yw ef o hyd, ond mae wedi’i ddylunio i helpu byrddau i gyflawni’r safonau uchaf o effeithiolrwydd ac atebolrwydd. Nod y cod yw gosod disgwyliadau mwy clir o ran yr ymddygiadau, y gwerthoedd a’r prosesau sydd wrth wraidd llywodraethiant da mewn elusennau o bob maint.
EGWYDDORION LLYWODRAETHU DA
Hwn yw’r diweddariad mwyaf arwyddocaol i’r Cod ers 2017, yn cynnwys wyth egwyddor graidd i fyrddau eu defnyddio’n hyblyg drwy ymagwedd cymhwyso neu egluro.
Mae’r wyth egwyddor yn cynnig safbwyntiau newydd ar faterion sy’n ymwneud â moeseg, prosesau penderfynu, rheoli risg ac adnoddau, yn ogystal â ffocws dyfnach ar yr ymddygiadau sy’n cefnogi byrddau effeithiol, sef:
- Egwyddor Sylfaenol
- Diben y mudiad
- Arweinyddiaeth
- Moeseg a Diwylliant
- Gwneud penderfyniadau
- Rheoli adnoddau a risgiau
- Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Effeithiolrwydd y Bwrdd
ADBORTH AR Y COD
Cafodd y Cod ei ddatblygu ar y cyd gan grŵp llywio gwirfoddol o gyrff ac arbenigwyr y sector, a rhoddwyd cymorth ysgrifenyddol gan *NCVO. Cafodd ei lywio gan ymgynghoriadau ag ymddiriedolwyr, arweinwyr elusennau a gweithwyr llywodraethu proffesiynol.
Dywedodd Cadeirydd grŵp llywio’r Cod, Radojka Miljevic, ‘Dyma’r diweddariad mwyaf arwyddocaol i’r Cod ers wyth mlynedd, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gyfraniad ystyriol ystod eang o elusennau, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid eraill.
Rydym wedi rhoi mwy o bwyslais ar yr ymddygiadau y gwyddom i fod yn hanfodol i gynnal a datblygu llywodraethu da, gan obeithio y bydd hyn yn ysbrydoli ffyrdd newydd o fyfyrio ar beth y mae pob un ohonom yn ei olygu wrth lywodraethu da.’
Ychwanegodd Rosie Chapman, cyn-Gadeirydd y grŵp llywio ‘Mae gwaith y Grŵp Llywio ar adnewyddu’r Cod yn ddiweddariad defnyddiol i’w groesawu. Mae datblygiad y Cod yn adeiladu ar sylfaen gadarn, gan ei osod ar lefel newydd, uwch.’
Bydd fersiwn ryngweithiol ar-lein o’r Cod yn cael ei lansio flwyddyn nesaf i gynorthwyo byrddau i ymchwilio i astudiaethau achos ac adnoddau sy’n benodol i’w maint a’u strwythur.
ADNODDAU
Am fwy o wybodaeth ac adnoddau ar y diweddariad o’r Cod, ewch i wefan y Cod Llywodraethu i Elusennau.
*Saesneg yn unig