Mae gofod3, y lle i’r sector gwirfoddol yng Nghymru, yn ôl ar gyfer 2023, ond mewn fformat newydd a gwahanol.
Rydyn ni wedi penderfynu peidio â chynnal gofod3 ar ei fformat arferol yn 2023, er mwyn rhoi amser i ni feddwl am sut y caiff ei gyflwyno ac ystyried sut y gallem ni ei ailwampio ar gyfer 2024 er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion y sector.
Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod faint rydych chi’n gwerthfawrogi cynnwys gofod3 ac felly yn ystod 2023 rydyn ni’n bwriadu cynnal cyfres o ddigwyddiadau (ar-lein ac wyneb yn wyneb) gyda chyfleoedd rhwydweithio yn ei le. Mae gofod3 wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer pobl sy’n ymwneud â mudiadau gwirfoddol yng Nghymru ac mae’n cynnig lle unigryw i bawb sy’n gweithio o fewn neu mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol ddod ynghyd. Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni hyn yn 2023 er ei fod ar y fformat gwahanol hwn.
DWEUD EICH DWEUD
Bydden ni’n dwli clywed eich awgrymiadau ar ba bynciau sydd o ddiddordeb mwyaf i’ch mudiad, ac unrhyw ddarpar siaradwyr yr hoffech chi glywed ganddynt. P’un a yw’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, dwyieithrwydd, ymdopi ag argyfwng neu unrhyw beth arall sy’n heriol i chi – rydyn ni eisiau clywed beth sydd bwysicaf i chi eleni.
Rydyn ni hefyd yn croesawu unrhyw syniadau y gallai fod gennych chi ar gyfer sut dylid cyflwyno gofod3 yn y dyfodol.
Anfonwch eich syniadau at kgobir@wcva.cymru erbyn 14 Mawrth.
Byddwn ni’n cysylltu eto â’n haelodau a’r sector ehangach ar ôl y dyddiad hwn gyda gwybodaeth ynglŷn â phryd fydd y sesiwn gofod3 cyntaf yn cael ei chynnal.
MWY AM gofod3
Mae gofod3 yn ddigwyddiad a drefnir gan CGGC ar y cyd gyda’r sector gwirfoddol. Dyma’r digwyddiad mwyaf o’r fath yng Nghymru. Sefydlwyd gofod3 am y tro cyntaf yng ngwanwyn 2017 fel digwyddiad undydd blynyddol yng Nghaerdydd.
DIGWYDDIADAU I CHI
Yn y cyfamser, gallwch chi ddal i fyny gyda pha hyfforddiant a digwyddiadau rydyn ni’n eu rhoi ymlaen i’r sector yma.