Gofalwraig a chlaf yn eistedd ar soffa, gan roi cwtsh i'w gilydd

Diweddariad gan y Prosiect Iechyd a Gofal

Cyhoeddwyd : 29/04/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwnaeth Prosiect Iechyd a Gofal CGGC gynhyrchu ddeg cyhoeddiad a 19 o flogiau yn 2023/24, yn ogystal â chynnal 18 o gyfarfodydd rhwydwaith.

Gellir gweld yr ystadegau hyn a mwy ar ffeithlun ‘yn gryno’ 2023/24 y prosiect, sy’n rhoi gwybodaeth gyflym i chi am waith y prosiect yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Y NOD

Nod y Prosiect Iechyd a Gofal yw sicrhau bod y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn cael eu gwerthfawrogi fel partneriaid dibynadwy cyfartal wrth gyflawni Cymru iachach, fwy gwydn, gan hybu arloesedd mewn iechyd, gofal a llesiant ar yr un pryd.

Diweddariadau eraill:

  • Mae’r prosiect wedi lansio cronfa o astudiaethau achos ar-lein yn ddiweddar, sy’n edrych ar y gwahanol ffyrdd y mae mudiadau sy’n gweithio ym mhob math o leoliadau yn rhoi cymorth anhygoel er mwyn gwella iechyd a lles pobl.
  • Mae’r prosiect hefyd newydd lansio cylchlythyr misol, am ddim, i roi diweddariadau a gwybodaeth hanfodol i danysgrifwyr o bob rhan o’r dirwedd iechyd a gofal yng Nghymru. Gallwch gofrestru i dderbyn y cylchlythyr hwn heddiw gyda chwpwl o gliciau’n unig.
  • Y Prosiect Iechyd a Gofal sy’n goruchwylio Rhwydwaith Cynllunio Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Sector Gwirfoddol, sy’n cwrdd â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddwywaith y flwyddyn i drafod materion sy’n effeithio ar y sector o fewn y maes iechyd a gofal. Os hoffech ymuno â’r rhwydwaith, anfonwch e-bost i iechydagofal@wcva.cymru.
  • Helplu Cymru yw braich Gymreig Helpforce ac mae’n rhan o deulu’r Prosiect Iechyd a Gofal. Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Helpforce UK, Cefnogi Trydydd Sector Cymru, Llywodraeth Cymru a phobl eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ei waith, cysylltwch â Fiona Liddell, rheolwr Helplu Cymru, ar fliddell@wcva.cymru.
  • Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol (SPRN) yn rhan o Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru, sy’n gweithio’n agos gydag CGGC. Mae’r SPRN yn ymchwilio i faterion presgripsiynu cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru ac yn adrodd arnynt. Os hoffech fod ar ei restr bostio, cysylltwch ag iechydagofal@wcva.cymru.

Y PRIF BYNCIAU

Y prif bynciau y bydd y prosiect yn edrych arnynt yn 2024/25 fydd:

  • Cynllun Gweithredu Gweithlu’r GIG
  • Papurau Comisiwn Bevan
  • Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy
  • Rhyddhau o’r Ysbyty
  • Cynllun Gweithredu Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth
  • Fforymau Adran 16
  • Fframwaith Presgripsiynu Cymdeithasol

GWYBODAETH BELLACH

I gael unrhyw wybodaeth bellach am waith y sector gwirfoddol yn y maes iechyd a gofal ledled Cymru, ewch i dudalen we’r prosiect neu cysylltwch ag iechydagofal@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy