Rydym yn rhedeg drwy’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Yn dilyn hydref tawel i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi (gwefan Saesneg yn unig) ei bod yn cymeradwyo’r pedwar cynllun buddsoddi rhanbarthol a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol arweiniol Cymru yn yr haf.
Y NEWYDDION DIWEDDARAF
Mae hyn yn golygu y bydd dyraniadau cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn cael eu rhyddhau yn fuan i awdurdodau lleol ei wario ar ymyriadau ar draws tri maes blaenoriaethol y Gronfa.
Mae awdurdodau lleol yn ceisio cytuno nawr ar eu cytundebau cyllido gyda Llywodraeth y DU cyn y gallant gyhoeddi rhagor o fanylion ar sut bydd y Cyllid yn cael ei ddarparu, felly ar hyn o bryd, ni ddisgwylir y bydd yr UKSPF yn cael ei rhoi ar waith cyn dechrau 2023. Tra bod yr holl systemau a strwythurau yn cael eu sefydlu i ddarparu’r Gronfa, anogir darpar ymgeiswyr i ddechrau ymgysylltu â’u hawdurdodau lleol ynghylch eu syniadau am brosiectau er mwyn gwneud yn siŵr eu bod mewn sefyllfa dda i gyflwyno eu cynigion unwaith y bydd y broses ymgeisio yn agor.
MANYLION O’R CYNGHORAU
Mae nifer o Gynghorau eisoes wedi cyhoeddi ychydig o wybodaeth ar eu gwefannau am eu cynlluniau buddsoddi rhanbarthol, eu hymyriadau blaenoriaethol a’u prosesau ymgeisio arfaethedig. Gellir gweld manylion am yr UKSPF yng ngogledd Cymru ar wefan , gyda dolenni i wefannau UKSPF y chwe awdurdod lleol. Mae Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys hefyd wedi cyhoeddi ychydig o wybodaeth, gan gynnwys Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru. Mae’n bwysig eich bod yn deall y dogfennau hyn cyn ymgysylltu â’ch awdurdod lleol er mwyn gwneud yn siŵr bod y gweithgaredd/prosiect sydd gennych mewn golwg yn cyd-fynd â nhw.
AROS YN GYFOES
Byddwn ni’n diweddaru’r sector gwirfoddol wrth i wybodaeth bellach ddod i law yn y flwyddyn newydd. Gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn unrhyw ddiweddariadau UKSPF a mwy yn eich mewnflwch.