Wrth i ni baratoi ar gyfer UKSPF, rydym yn gofyn am eich help i gyfleu’r neges am y gwaith hanfodol y mae cronfeydd yr UE wedi’i helpu i’w gyflawni.
Yn dilyn cyhoeddiad prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ym mis Ebrill, mae awdurdodau lleol wedi bod yn brysur yn llunio eu cynlluniau buddsoddi. Mae’r mwyafrif o awdurdodau yn datblygu eu cynlluniau lleol eu hunain, gydag awdurdod lleol arweiniol pob ardal yn cyfuno’r rhain i greu un cynllun rhanbarthol. Bydd ychydig o gyflenwi’n digwydd yn lleol a, lle gwelir rhywfaint o angen cyffredinol, bydd ychydig o weithgarwch yn cael ei gyflenwi’n rhanbarthol. Bydd y cynlluniau cyntaf a gyflwynir i Lywodraeth y DU yn rhai lefel uchel. Byddant siŵr o fod dim ond yn cynnwys yr ymyriadau dewisol, rhai canlyniadau a ffigurau lefel uchel, ac ychydig o linellau ar y math o weithgarwch a ddisgwylir. Bydd cynllun manylach, o bob rhanbarth, yn dilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae awdurdodau lleol a rhanbarthau o dan bwysau aruthrol i gael y cynlluniau cychwynnol hyn wedi’u llunio, eu cymeradwyo a’u cyflwyno. Mae rhai yn cael anhawster ymgysylltu â sectorau eraill oherwydd yr amserlenni. Y dyddiad cau i’r cynlluniau hyn gyrraedd Llywodraeth y DU yw 1 Awst.
SICRHAU BOD LLAIS Y SECTOR YN CAEL EI GLYWED
Mae CGGC wedi bod yn ymgysylltu â’r rhanbarthau, rhai awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, gyda’r nod o sicrhau yr ymgynghorir â’r sector gwirfoddol a bod y sector yn cael ei nodi yn y cynlluniau hyn. Rydyn ni wedi clywed gan rai awdurdodau lleol eu bod eisiau gwybod am brosiectau sy’n dod i ben, fel y rheini a gyllidwyd gan y rhaglen Cynhwysiant Gweithredol, a phwy fydd yn cael ei adael heb gymorth yn eu hardal.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD
Rydyn ni wedi paratoi neges e-bost y gallwch chi ei defnyddio fel templed i anfon at eich awdurdod lleol a chysylltiadau rhanbarthol eraill sydd wedi buddsoddi. Mae hwn yn gyfle da i chi amlygu’r gwaith amhrisiadwy rydych chi’n ei wneud a beth fydd colli eich prosiect yn ei olygu i bobl leol.
E-bost enghreifftiol
Mae ein prosiect [enw] yn rhoi cymorth dwys i bobl yn [awdurdod] ag anghenion lluosog a chymhleth, i’w helpu i symud ymlaen ac i mewn i gyflogaeth gynaliadwy a chael bywydau mwy iachus ac annibynnol. Yn wahanol i ddarpariaeth draddodiadol, brif ffrwd, rydyn ni’n teilwra ein gweithgareddau er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion a heriau penodol pobl. Er enghraifft ……..
Caiff ein prosiect ei gyllido gan y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol ar hyn o bryd, a’i reoli a’i weinyddu gan CGGC. Fe fydd yn dod i ben ym mis [mis]. Heb ffrwd gyllido yn barod i’w ddisodli, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ni dynnu’r gwasanaeth hwn o’r ardal leol. Bydd hyn yn gadael y bobl sy’n agored i niwed rydyn ni’n eu cefnogi heb fynediad at ddarpariaeth briodol.
Mae’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi a’r gweithgareddau rydyn ni’n eu cyflwyno yn cyd-fynd yn agos â’r ymyriadau a restrir ym mlaenoriaeth Pobl a Sgiliau UKSPF. Deallwn fod amserlenni’n heriol ac mae’n bosibl nad ydych chi mewn sefyllfa i drafod cynigion prosiect ar hyn o bryd, ond unwaith y bydd y cynlluniau buddsoddi cychwynnol wedi’u cyflwyno, byddem yn gwerthfawrogi sgwrs i drafod sut y gallwn ni, gyda’n gilydd, barhau i gefnogi pobl leol sy’n agored i niwed.