Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi diweddariad i’w Canllawiau ar elusennau a buddsoddiadau.
CANLLAWIAU DIWEDDARAF
Mae’r canllawiau (y’u gelwir yn CC14) wedi cael eu hailgynllunio a’u moderneiddio i gynnig mwy o eglurder ac i roi hyder i ymddiriedolwyr er mwyn gwneud penderfyniadau buddsoddi sy’n gywir i’w helusen.
Mae’r iaith a ddefnyddir yn y canllawiau yn fwy clir ac mae’r strwythur wedi’i ddiweddaru fel ei fod yn fyrrach ac yn haws ei ddefnyddio, a gall ymddiriedolwyr ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn gyflymach.
Nid yw’r canllawiau’n defnyddio termau fel buddsoddiadau ‘moesegol’ a ‘chyfrifol’, yr oedd rhai elusennau yn eu cael yn amwys ac yn ddryslyd. Yn hytrach, mae’n pwysleisio bod yn rhaid i ymddiriedolwyr weithredu er budd gorau eu helusen a’i buddiolwyr, ac ystyried pob ffactor perthnasol, gan gynnwys rhai ariannol a rhai nad ydynt yn ariannol, wrth wneud penderfyniadau buddsoddi.
Nid yw chwaith yn defnyddio’r termau ‘buddsoddiad cymhelliad cymysg’ a ‘buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen’, a oedd yn fathau o fuddsoddiad cymdeithasol a oedd yn cynnwys enillion ariannol a chymdeithasol. Yn hytrach, mae’n defnyddio’r term ‘buddsoddiad cymdeithasol’ sy’n cyfeirio at fuddsoddiadau sy’n hyrwyddo dibenion elusen neu’n cyflawni effaith gymdeithasol gadarnhaol, hyd yn oed os nad ydynt yn cynhyrchu enillion ariannol neu’n cynnwys cymryd mwy o risg.
NOD Y CANLLAWIAU
‘Wrth i drafodaethau barhau gyda’r sector am allu elusen i ystyried ffactorau fel effaith amgylcheddol buddsoddiadau, mae’r canllawiau yn ei gwneud yn fwy clir bod gan ymddiriedolwyr ddisgresiwn i ddewis beth sydd orau yn eu hamgylchiadau nhw, a bod ganddynt ystod o opsiynau buddsoddi ar gael iddyn nhw – cyhyd â’u bod yn y pen draw yn hyrwyddo dibenion yr elusen.’
Mae’r canllawiau diwygiedig yn dilyn ‘galwad am wybodaeth’ ac ymgynghoriad gan y Comisiwn ar fuddsoddiad ariannol, ac mae’n adlewyrchu barn nodedig gan yr Uchel Lys ar ddyletswyddau buddsoddi ymddiriedolwyr elusennau (achos ‘Butler-Sloss’).
Gall ymddiriedolwyr nawr fod yn hyderus yn y penderfyniadau buddsoddi maen nhw’n eu gwneud wrth ddilyn y canllawiau, gan wybod eu bod yn gyfredol ac yn adlewyrchu’r gyfraith berthnasol yn briodol.
Mae’r canllawiau:
- yn cynnwys enghreifftiau o faterion amrywiol a allai fod yn berthnasol i ymddiriedolwyr eu hystyried wrth wneud penderfyniadau buddsoddi, fel posibilrwydd y bydd buddsoddiad yn gwrthdaro â dibenion yr elusen, neu effaith penderfyniad buddsoddi ar enw da.
- yn rhestru’r camau y mae’n ‘rhaid’ i ymddiriedolwyr eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, a’r rhai y ‘dylai’ ymddiriedolwyr eu cymryd sy’n cael eu hargymell yn gryf fel arfer da, ond nad ydynt yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
- yn egluro bod gweithredu er budd gorau elusen yn ymwneud â sicrhau, uwchlaw dim, bod unrhyw benderfyniad yn hyrwyddo ei dibenion. Mae hefyd yn rhybuddio ymddiriedolwyr i beidio â chaniatáu i gymhellion, barn, na diddordebau personol effeithio ar y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud.
- yn ymgorffori canllawiau ar fuddsoddiad cymdeithasol oedd ar wahân yn flaenorol, ac nid yw bellach yn defnyddio terminoleg a allai rwystro dealltwriaeth ymddiriedolwyr, fel ‘buddsoddiad moesegol’, ‘buddsoddiad cymhelliad cymysg’ a ‘buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen’.
ENGHREIFFTIAU DYNOL
Mae’r enghreifftiau sydd wedi’u cynnwys yn y canllawiau wedi’u dylunio i helpu ymddiriedolwyr i nodi’r ffactorau sy’n berthnasol i sefyllfa eu helusen nhw, ac yna defnyddio hyn i bennu sut i wneud eu penderfyniadau buddsoddi. Dylai hyn ei gwneud yn haws i ymddiriedolwyr allu cymhwyso’r canllawiau’n gywir, ac i deimlo bod modd iddyn nhw gyfiawnhau bod y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud er budd gorau eu helusen.
Rydyn ni’n argymell bod ymddiriedolwyr yn rhoi sylw i’r canllawiau hyn wrth wneud penderfyniadau am fuddsoddiadau.