Mae gennym gyfres o adnoddau diogelu sy’n gysylltiedig â COVID-19 ar ein tudalen arweiniad ac adnoddau COVID-19.
Diweddariad COVID-19
Eich helpu i gadw pobl yn ddiogel
Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth i bob mudiad gwirfoddol, yn enwedig y rhai sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl. Mae diogelu da a phriodol yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd ynglŷn â’ch mudiad ac yn helpu i roi enw da i’r sector yn gyffredinol.
EICH CYFRIFOLDEBAU
- Mae gan fudiadau sy’n gweithio gyda grwpiau sydd mewn perygl (e.e. plant ac oedolion mewn perygl) gyfrifoldebau cyfreithiol mewn cysylltiad â diogelu
- Cyflwynodd Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drefniadau cryf, cadarn ac effeithiol ar gyfer diogelu, trefniadau sy’n seiliedig ar bartneriaeth, lle mae’n rhaid i bob gweithiwr proffesiynol a sefydliad wneud popeth posibl i sicrhau bod plant ac oedolion sydd mewn perygl yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth
- Mae’r Comisiwn Elusennau yn credu bod diogelu yn flaenoriaeth allweddol yng nghyswllt llywodraethu i bob elusen, nid yn unig y rhai sy’n gweithio gyda grwpiau sy’n arfer cael eu hystyried yn rhai ‘agored i niwed’
Mae gan bawb gyfrifoldeb i sicrhau diogelwch – mae’n fater i bawb!
SUT Y GALL CGGC EICH HELPU GYDA DIOGELU
- Gwasanaeth ymholiadau di-dâl sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth gyfrinachol un-i-un gan ein Swyddog Diogelu
- Gwybodaeth, canllawiau ac adnoddau di-dâl am ddiogelu
- Cyflwyniadau, sesiynau gwybodaeth a chymorthfeydd i’ch sefydliad neu eich aelodau
- Cyfleoedd dysgu amrywiol, gan gynnwys modiwlau ar-lein, gweminarau a hyfforddiant wyneb yn wyneb
- Cymuned Ymarfer Diogelu i ddod ag ymarferwyr diogelu’r sector gwirfoddol at ei gilydd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â diogelu, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu drwy anfon ebost i safeguarding@wcva.cymru neu cysylltwch â ni ar 0300 111 0124. Anfonwch neges e-bost atom ni neu ffoniwch ni i drafod eich anghenion dysgu diogelu.
GWIRIADAU’R GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS)
Yn unol â’r Comisiwn Elusennau, mae CGGC yn argymell y dylid cynnal gwiriadau DBS pryd bynnag y bydd swydd neu rôl y gwirfoddolwr yn diwallu’r meini prawf cymhwysedd. Cewch ragor o wybodaeth a chanllawiau dan ganllawiau ac adnoddau pandemig Covid-19 ac ar yr Hyb Gwybodaeth dan yr adran Llywodraethu Da.
Mae canllawiau DBS ar gael oddi ar DBS ar-lein a gall mudiadau yng Nghymru gyrchu Gwasanaeth Allgymorth Rhanbarthol DBS: DBSRegionaloutreach@dbs.gov.uk
CYMUNED YMARFER DIOGELU
Rhwydwaith cymheiriaid ar gyfer ymarferwyr ac arweinwyr diogelu yn y sector gwirfoddol.
Nod y Gymuned Ymarfer Diogelu yw hybu a datblygu arfer dda ym maes diogelu ledled y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae’r rhwydwaith yn gymuned o ymarferwyr sy’n cael ei hwyluso gan CGGC a chynrychiolwyr o’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol.
Bydd Cymuned Ymarfer Diogelu CGGC yn darparu fforwm i bobl sydd â chyfrifoldebau diogelu o fewn elusennau a mudiadau gwirfoddol i ddod ynghyd, rhannu arfer dda, a thrafod materion amserol.
Mae aelodaeth o’r Gymuned Ymarfer yn cynnig:
- Digwyddiadau ar-lein i swyddogion ac arweinwyr diogelu gyda siaradwyr arbenigol ar faterion diogelu
- E-fwletin rheolaidd yn cynnwys y newyddion diweddaraf am ddiogelu
- Mynediad i drafodaeth fforwm ar-lein wedi’i hwyluso gan CGGC.
Mae aelodaeth yn agored i bobl sydd â chyfrifoldebau diogelu swyddogol o fewn eu mudiadau. Gallai hyn gynnwys:
- Swyddogion Diogelu neu arweinwyr dynodedig
- Ymarferwyr Diogelu
- Ymddiriedolwyr sydd â chyfrifoldeb am ddiogelu
Sut i ymuno
Cysylltwch â safeguarding@wcva.cymru i drafod aelodaeth.