Grŵp o ddynion oedrannus yn helpu mewn ardal arddio awyr agored

Diogelu peillwyr, casglu data morol a mannau cymunedol sy’n tyfu

Cyhoeddwyd : 02/11/23 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae adroddiad Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi 2022/23 yn tynnu sylw at ymdrech anhygoel grwpiau cymunedol ledled Cymru i wella’r amgylchedd yn eu hardal.

Dyma’r pumed flwyddyn weithredol ar gyfer y Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Cymru gyfan, ac eleni dyfarnwyd cyllid i 29 prosiect lleol ac un prosiect ag arwyddocâd cenedlaethol. Mae’r prosiectau lleol yn ceisio gweithredu ar yr amgylchedd mewn ardaloedd o fewn pum milltir i safle tirlenwi neu orsaf trosglwyddo gwastraff sylweddol.

Mae’r adroddiad yn pwysleisio sut mae’r cynllun yn cyflawni yn erbyn blaenoriaethau deddfwriaeth allweddolgan gynnwys y Rhaglen Lywodraethu newydd a gyhoeddwyd yn dilyn Etholiadau’r Senedd yn 2021. Gallwch lawrlwytho’r adroddiad yma.

PWYSIGRWYDD EIN HAMGYLCHEDD NATURIOL

Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, Cadeirydd y Cynllun Cymunedau Trethi Tirlenwi:

‘Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn hon, mae’r cynllun wedi derbyn ceisiadau parhaus am brosiectau cymunedol ffantastig, rhai dulliau arloesol iawn a rhai sydd wedi hen ennill eu plwyf. Wrth ddarllen cynnwys yr adroddiad hwn, mae’n wych gweld prosiectau a ddaeth i’r panel yn wirioneddol chwilio’u traed ac yn cael effaith ar eu cymunedau.

Mae themâu Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn addas iawn i alluogi mentrau sy’n cyflwyno buddion ag effeithiau tymor byr a hirdymor; yn y cymunedau lleol ac fel rhwydwaith o brosiectau amgylcheddol ledled Cymru.’

EIN PROSIECTAU

Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos o fudiadau a ariannwyd yn  flaenorol sydd wedi cyflawni prosiectau anhygoel yn eu cymunedau. Er enghraifft:

  • Ymddiriedolaeth Môr Cymru sydd wedi casglu data gwyddonol pwysig am fywyd gwyllt morol Arfordir Sir Benfro, wrth ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli gwerthfawr.
  • Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) sydd wedi sefydlu ‘llyfrgell o bethau’, lle gall y gymuned leol fenthyg eitemau cartref a hamdden oddi wrthi. Mae hyn yn helpu pobl i arbed arian ac yn amddiffyn yr amgylchedd.
  • Menter Môn y mae eu prosiect yn amddiffyn ac yn codi ymwybyddiaeth o rywogaethau brodorol ar Ynys Môn, fel llygod dŵr.
  • Buglife Cymru sydd wedi adfer a gwarchod pedwar safle yng Nghasnewydd, sydd o fudd i bryfed peillio a’r cyhoedd
  • Bwyd Bendigedig Port sydd wedi trawsnewid man gwyrdd yn ardd addysgol lle gall plant a’r gymuned ehangach ddysgu am dyfu bwyd mewn modd cynaliadwy, bioamrywiaeth ac ailddefnyddio gwastraff.
  • Chwarae Maesyfed sydd wedi ehangu eu hadeilad cymunedol, gan ei wneud yn fwy cynaliadwy, yn fwy rhad ar ynni ac yn fwy addas i ddiwallu anghenion y gymuned leol.

CYLLID DAL AR GAEL

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch ysbrydoli i feddwl am ffyrdd o wella’r amgylchedd yn eich ardal chi, mae rownd newydd o gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi nawr ar agor ar gyfer grantiau rhwng £5,000 – £49,999. Mae’r gronfa hefyd yn cynnig grant o Arwyddocâd Cenedlaethol, gan ddarparu cyllid ar gyfer un prosiect o arwyddocâd cenedlaethol gwerth rhwng £50,000 – £250,000 a fydd yn cyfrannu at ddwy neu fwy o themâu’r gronfa.

Y terfyn amser ar gyfer ceisiadau yw 24 Tachwedd 2023 am 23.59 pm, fydd prosiectau llwyddiannus yn cychwyn yn Ebrill 2024.

Os oes gennych chi syniad prosiect a fyddai o fudd i’ch cymuned, defnyddiwch y gwirydd cymhwysedd ardal ar ein wefan er mwyn gweld a yw eich prosiect chi o fewn pum milltir i orsaf trosglwyddo gwastraff neu safle tirlenwi cymwys.

Bydd Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ariannu prosiectau sy’n canolbwyntio ar bioamrywiaeth, lleihau gwastraff a gwyro gwastraff o safleoedd tirlenwi a gwelliannau amgylcheddol ehangach.

HELP I WNEUD CAIS

Rydym yn cael llawer iawn o geisiadau sy’n gwneud y broses ariannu’n un gystadleuol iawn. Os hoffech gymorth ac arweiniad i ddatblygu prosiect gallwch gysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.

Er mwyn cyflwyno cais am gyllid, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Cais Amlbwrpas (MAP) CGGC. Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy nodi’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref. Gall sefydliadau gofrestru trwy ymweld â’r wefan https://map.wcva.cymru.

Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo yma.

Os oes gennych gwestiwn am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi cysylltwch â Thîm Cronfeydd Grant WCVA drwy ebostio ldtgrants@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy