Cyfraith Ewropeaidd newydd yw’r GDPR. Cafodd ei chyflwyno er mwyn gwella a chyfuno trefniadau diogelu data ledled yr UE. Mae Deddf Diogelu Data 2018 wedi diweddaru deddfwriaeth y DU yn unol â’r GDPR. Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy’n rheoleiddio gweithrediad y GDPR yn y DU.
Bydd yn ofynnol i unrhyw sefydliad sy’n prosesu data personol dinasyddion yr UE gydymffurfio â’r GDPR, lle bynnag y mae’r sefydliad wedi’i leoli, felly er bod y DU i fod i adael yr UE bydd y GDPR yn dal yn gymwys i sefydliadau’r DU yn y dyfodol.
Beth bynnag yw maint neu strwythur eich sefydliad, os yw’n casglu ac yn defnyddio data personol (megis manylion cysylltu) gan roddwyr, buddiolwyr, gwirfoddolwyr, staff neu unrhyw unigolion eraill, mae’r GDPR yn debygol o fod yn gymwys i chi. Mae’n gosod cyfrifoldebau cyfreithiol penodol ar y rhai sy’n cael eu diffinio fel ‘rheolwyr data’ neu ‘broseswyr data’, felly mae’n bwysig eich bod yn penderfynu a yw eich sefydliad yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y diffiniadau hyn neu un ohonynt.
Sut y gall CGGC eich helpu i gydymffurfio â’r GDPR a diogelu data:
- Gweminarau #DataBwrddGwaith yn rhad ac am ddim, ac wedi’u datblygu gyda’r ICO i roi sylw i amryw o bynciau hanfodol er mwyn cydymffurfio â’r GDPR
- Pecyn cymorth y GDPR sy’n cynnwys templedi wedi’u cynhyrchu mewn partneriaeth â chwmni cyfreithwyr Hugh James
- Ffilm fer i godi ymwybyddiaeth o’r GDPR
- Taflen wybodaeth yn cynnwys canllawiau manwl ar y GDPR a’r newidiadau y mae wedi’u cyflwyno
Gallwch hefyd ddal i fyny drwy ddilyn ein sgwrs Twitter #GDPRsk, neu wylio ein ffilm animeiddiedig fer Canllaw cyflym ar GDPR i’r Trydydd Sector.
Pecyn cymorth y GDPR
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys templedi sy’n berthnasol i’r GDPR a chanllawiau y gall sefydliadau eu defnyddio i lunio eu polisïau a’u gweithdrefnau eu hunain. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys:
- Templed hysbysiad preifatrwydd
- Templed polisi Diogelu Data
- Templed Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data
- Templed polisi dewch â’ch dyfais eich hun ar gyfer ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr
- Canllawiau Cadw Data ar gyfer data Adnoddau Dynol
- Rhestr wirio ar gyfer cydymffurfio â’r GDPR
- Canllawiau ar y seiliau cyfreithlon
Mae’r pecyn cymorth ar gael am ddim i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Os hoffech gael copi o’r dogfennau, anfonwch ebost atom governance@wcva.cymru.
Dolenni Defnyddiol
Canllawiau ICO i elusennau a busnesau bach
Canllawiau’r Sefydliad Codi Arian ar y GDPR
Canllawiau’r Charity Finance Group ar y GDPR
*Gwefannau Saesneg yn unig