Rydym hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol ledled Cymru gyda’n partneriaid Cyngor Gwirfoddol Sirol, Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn ogystal â chael presenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol i ddangos y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan elusennau yng Nghymru.
Mae CGGC yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau bob blwyddyn o ddigwyddiad gofod3, sef ein digwyddiad arbennig ar gyfer y sector bob blwyddyn, i’n darlith flynyddol.
Ein digwyddiadau
gofod3
gofod3 yw’r digwyddiad yr ydym yn ei drefnu ar y cyd â’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Yn annhebyg i unrhyw ddigwyddiad arall yng Nghymru, dyma ein gofod ni i ddysgu gan ein gilydd, cymell ein gilydd ac ysbrydoli ein gilydd. Mae’n cynnig cyfle prin i’r trydydd sector ddod ynghyd a sbarduno newid yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gofod3, ewch i: www.gofod3.cymru


Digwyddiadau Ymgysylltu
Mae CGGC, ochr yn ochr â’n partneriaid Cefnogi Trydydd Sector Cymru, yn cynnal digwyddiadau yn rhad ac am ddim yn trafod gwybodaeth am faterion amserol. Mae’r digwyddiadau rhanbarthol hyn wedi’u cynllunio i roi gwybodaeth hanfodol i’r gynulleidfa ynghylch pynciau o bwys i’r sector, yn benodol mewn cysylltiad â threfniadau llywodraethu, trefniadau ariannu, gwirfoddoli, ymgysylltu a dylanwadu.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn, ewch i cefnogitrydyddsector.cymru
Darlith flynyddol
Cynhelir ein darlith flynyddol ar ôl ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac fe’i traddodir gan siaradwyr proffil uchel o Gymru a thu hwnt sy’n arweinwyr ac yn arbenigwyr yn eu maes. Mae darlithwyr y gorffennol wedi cynnwys Julia Unwin CBE, yr Athro Laura McAllister CBE, Jo Youle, a Richard Wyn Jones.


Wythnos Ymddiriedolwyr
Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i ddangos y gwaith gwych y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud ac i dynnu sylw at gyfleoedd i bobl o bob cefndir i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Rydym yn dathlu’r wythnos drwy gynnal digwyddiad ar bwnc sy’n berthnasol i Gadeiryddion ac Ymddiriedolwyr. Mae digwyddiadau blaenorol wedi cynnwys trafod y berthynas rhwng Cadeirydd a Phrif Weithredwr, yr heriau y mae Cadeiryddion yn eu hwynebu yn eu rôl a chreu diwylliant cadarnhaol ar y bwrdd. Bydd Wythnos Ymddiriedolwyr 2020 yn cael ei chynnal 2-6 Tachwedd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.trusteesweek.org
Yr Eisteddfod Genedlaethol
Ym mis Awst bob blwyddyn, mae gennym stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sef dathliad mwyaf Cymru o’n diwylliant a’n hiaith. Rydym yn dangos mor eang yw’r sector elusennau yng Nghymru drwy wahodd elusennau i ymuno â ni ar ein stondin gan gynnal gweithgareddau drwy gydol yr wythnos. Os hoffech ymuno â ni yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf, cysylltwch ar bob cyfri!


Gwobrau Elusennau Cymru
Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn wobrau newydd ar gyfer 2019, wedi’u trefnu gan CGGC. Maent yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad arbennig elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau dielw a gwirfoddolwyr at Gymru. O gyfeillachwyr sy’n galw heibio i ymweld â’u cymydog oedrannus bob dydd Mawrth, i fudiadau sy’n ymgyrchu dros gydraddoldeb yn genedlaethol, mae’r Gwobrau’n amlygu ac yn hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ei wneud ym mywydau ein gilydd.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i: gwobrauelusennau.cymru
Digwyddiadau i ddod

Cymerwch gip ar ein calendr o ddigwyddiadau am ddim i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.