Sut byddwch chi’n dathlu’r Wythnos Ymddiriedolwyr yng Nghymru?
Mae Wythnos Ymddiriedolwyr (Saesneg yn unig) 2021 bron cyrraedd ac i ddathlu, mae gennym raglen gyffrous o ddigwyddiadau sy’n cynnig rhywbeth i bob math o ymddiriedolwr. O ymddiriedolwyr newydd sydd eisiau cynyddu eu gwybodaeth i ymddiriedolwyr sy’n edrych ar sut gall eu mudiad fanteisio ar drawsnewid digidol. Ac am y tro cyntaf, rydyn ni’n cynnal digwyddiad penodol ar gyfer trysoryddion a staff cyllid. Felly pam oedi? Archebwch eich lle nawr.
1 Tachwedd, 2 pm-3 pm (ar-lein): Yr Adroddiad Darganfod a lansio Newid: Digidol ar gyfer y Trydydd Sector
2 Tachwedd, 2 pm-3 pm (ar-lein): Gweminar: Cryfhau eich llywodraethiant
4 Tachwedd, 8.45 am-10 am (ar-lein): Pwysigrwydd llywodraethu ariannol da – digwyddiad i drysoryddion
Bydd llawer o’n partneriaid gwych yn y Cynghorau Gwirfoddol Sirol hefyd yn cynnal digwyddiadau yn ystod yr wythnos, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n edrych ar beth sydd gan eich CVC i’w gynnig. Gallwch ddod o hyd i’r rhestr yma: Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Mae digwyddiadau eraill di-ri yn cael eu cynnig gan bartneriaid yr Wythnos Ymddiriedolwyr ledled y DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar brif wefan Digwyddiadau Wythnos Ymddiriedolwyr.
Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech chi’n gallu rhannu’r wybodaeth hon gyda’ch Bwrdd Ymddiriedolwyr fel y gallant gymryd rhan yn yr Wythnos Ymddiriedolwyr a manteisio ar yr hyn sy’n cael ei gynnig.
Mae’r Wythnos Ymddiriedolwyr (Saesneg yn unig) yn ddigwyddiad blynyddol i ddangos y gwaith gwych y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud ac i amlygu cyfleoedd i bobl o bob lliw a llun gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Beth ydych chi’n mynd i’w wneud ar gyfer Wythnos Ymddiriedolwyr?
Dyma rai syniadau er mwyn cymryd rhan:
- Cymerwch yr amser i ddiolch i ymddiriedolwyr am eu cyfraniad
- Defnyddiwch yr hashnod #WythnosYmddiriedolwyr i ymuno â’r drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
- Mynychwch un o’r digwyddiadau lleol neu genedlaethol a fydd yn digwydd yn ystod yr wythnos
- Cymerwch y cyfle i hysbysebu unrhyw swyddi gwag a allai fod gennych
Edrychwn ymlaen at ddathlu’r Wythnos Ymddiriedolwyr yng Nghymru gyda chi!
I gael mwy o wybodaeth am faterion llywodraethu ac arweinyddiaeth, mae gennym gyfres o ymddiriedolwyr ac adnoddau llywodraethu yn ein rhan gwybodaeth a chymorth.