Gallai dau ddigwyddiad rhithiol a gynhelir ym mis Hydref fod o ddiddordeb i ymddiriedolwyr a chynrychiolwyr elusennau yng Nghymru. Mae’r ddau ddigwyddiad yn rhad ac am ddim.
Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd ardderchog i ymddiriedolwyr elusennau a staff perthnasol i ddiweddaru eu gwybodaeth ynglŷn â llywodraethiant elusennau ac i glywed gan siaradwyr arbenigol wrth i ni symud i’r cyfnod nesaf o’r ymateb i’r coronafeirws.
A wnewch chi rannu’r wybodaeth hon gyda’ch byrddau ymddiriedolwyr ac unrhyw staff sy’n gyfrifol am gefnogi llywodraethiant elusen, os gwelwch yn dda?
Cyfarfod Cynoeddus Blynyddol y Comisiwn Elusennau – 1 Hydref
Bydd y Comisiwn Elusennau’n cynnal ei Gyfarfod Cyhoeddus Blynyddol ar-lein ar ddydd Iau 1af Hydref 2020 am 11am.
Oherwydd effaith Covid-19 bydd y cyfarfod yn ddigwyddiad rhithiol a fydd yn agored i holl aelodau’r cyhoedd a chynrychiolwyr elusennau.
Os hoffech dderbyn y ddolen YouTube er mwyn gwylio’r darllediad o’r digwyddiad, gallwch gofrestru a bydd y ddolen yn eich cyrraedd ar e-bost ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad.
Os hoffech ofyn cwestiwn i gyfarwyddwyr y Comisiwn Elusennau, gallwch gymryd rhan mewn cynulleidfa fyw rithiol yn ystod y darllediad yn ogystal. Am fwy o wybodaeth, gweler y gwahoddiad neu e-bostiwch events@charitycommission.gov.uk.
Llywodraeth Elusennau Cymru Gyfan, Cynhadledd Rithiol Y Gyfraith a Chyllid – 15 Hydref
Bydd y gynhadledd rithiol hon yn ystyried thema ‘Elusennau mewn byd ôl-COVID’.
Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â Baldwins and Brewin Dolphin a bydd y siaradwraig wadd, Helen Stephenson CBE, Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Elusennol, yn rhan o’r trafodaethau.
Bydd y gynhadledd yn darparu’r mynychwyr â chyngor ac arweiniad diweddar, ymarferol ar gyfer y sector elusennol yn dilyn Covid-19.
Gallwch gofrestru ar Eventbrite
Bydd y misoedd nesaf yn parhau’n heriol i elusennau, felly pam na chymerwch chi’r cyfle i fynychu ambell ddigwyddiad rhithiol am ddim a chaffael gwybodaeth ddiddorol?
Arweiniad i Ymddiriedolwyr
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf i elusennau ynglŷn â’r coronafeirws, gweler tudalen canllawiau coronafeirws y Comisiwn Elusennau.