Digwyddiadau i Ymddiriedolwyr – Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol y Comisiwn Elusennau a Chynhadledd Llywodraethu Elusennau

Digwyddiadau i Ymddiriedolwyr – Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol y Comisiwn Elusennau a Chynhadledd Llywodraethu Elusennau

Cyhoeddwyd : 24/09/21 | Categorïau: Newyddion |

Dyma ddau ddigwyddiad rhithwir a gynhelir ym mis Hydref a all fod o ddiddordeb i ymddiriedolwyr a chynrychiolwyr elusennau yng Nghymru. Mae’r ddau ddigwyddiad yn rhad ac am ddim.

Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd ardderchog i ymddiriedolwyr elusennau a staff perthnasol ddiweddaru eu gwybodaeth ynglŷn â llywodraethu elusennau ac i glywed gan siaradwyr arbenigol wrth i ni symud i’r cyfnod nesaf o’r ymateb i bandemig coronafeirws.

A wnewch chi rannu’r wybodaeth hon gyda’ch byrddau ymddiriedolwyr ac unrhyw aelodau staff sy’n gyfrifol am gefnogi llywodraethu elusen, os gwelwch yn dda?

Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol y Comisiwn Elusennau – 30ain Medi  

Bydd y Comisiwn Elusennau’n cynnal ei Gyfarfod Cyhoeddus Blynyddol ar-lein ddydd Iau 30ain Medi 2021 am 2am. Bydd Cadeirydd y Comisiwn, Ian Karet, yn cyflwyno’r digwyddiad ac yn pwysleisio’r rôl bwysig yr oedd elusennau wedi’i chwarae wrth ymateb i’r pandemig.

Bydd Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn, Dr Helen Stephenson, yn rhoi anerchiad cyweirnod gan roi gwybodaeth am waith y Comisiwn. Bydd yr anerchiad yn adrodd ar ein dulliau cyflenwi cymorth a gwasanaethau i elusennau ac yn amlinellu ein blaenoriaethau a’n cynlluniau wrth i’r wlad adfer ar ôl y pandemig.

Yna, bydd y cadeirydd yn cynnal sesiwn Holi ac Ateb gyda Helen Stephenson a’i thîm gweithredol gan dderbyn cwestiynau gan aelodau’r cyhoedd.

Mae’r digwyddiad rhithwir hwn ar agor i bob aelod o’r cyhoedd a chynrychiolwyr elusennau.

Os hoffech chi ymuno â’r digwydd, cofrestrwch yma a byddant yn anfon dolen i’r darllediad byw atoch chi yn nes at y dyddiad.

 

Cynhadledd Rithwir Llywodraethu, y Gyfraith a Chyllid Elusennau Cymru Gyfan – 13eg Hydref                           

Bydd y gynhadledd rithwir hon yn ystyried y thema ‘Sut gall elusennau lywio’r cyfnod Sicrwydd Ansicrwydd”yn eu mudiad.

Bydd siaradwr gwadd, Paul Latham, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Pholisi yComisiwn Elusennau, yn ymuno â nhw a bydd yn rhoi trosolwg o brif negeseuon presennol y Comisiwn Elusennau.

Gallwch chi gofrestru trwy Eventbrite

Bydd y misoedd nesaf yn parhau i fod yn heriol i elusennau felly beth am achub ar y cyfle i fynychu’r digwyddiadau rhithwir am ddim hyn a derbyn gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer eich mudiad.

Canllawiau i Ymddiriedolwyr

I dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch coronafeirws, ewch i dudalen canllawiau coronafeirws y Comisiwn Elusennau.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy