Cynhaliodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (yr OECD) ddigwyddiad gwybodaeth ar 17 Medi er mwyn rhannu ei ganfyddiadau a’i argymhellion mewn perthynas â datblygiad rhanbarthol a buddsoddi cyhoeddus yng Nghymru. Dyma grynodeb o’r hyn gafodd ei ddweud.
Pwyntiau i’w hystyried:
- Ystyriaethau tiriogaethol
Amlinellodd yr OECD rai o’r ystyriaethau tiriogaethol allweddol yn y sesiwn. Mae cynhyrchiant llafur yng Nghymru gyda’r isaf yn y DU, gyda thwf negyddol mewn rhannau mawr o Gymru. Amlinellodd yr OECD bwysigrwydd ymdriniaeth yn seiliedig ar le er mwyn mynd i’r afael â hyn – gallai’r hyn sydd ei angen yn ne ddwyrain Cymru fod yn amherthnasol yng ngogledd Cymru – ond rhaid i rwydweithiau seilwaith digidol a ffisegol sy’n perfformio ar lefel uchel fodoli o fewn pob rhanbarth o Gymru er mwyn cefnogi ffyniant a llesiant i’r holl bobl a lleoedd.
- Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Mae Cymru’n derbyn y swm uchaf o gyllid yr UE, y pen, o fewn y DU. Bydd Cymru’n derbyn £2biliwn o dan raglenni 2014-2020 ac, yn ogystal â chydgyllido, mae hyn yn cynrychioli cyfanswm buddsoddiad o £3.8biliwn. Ni fydd gan y DU fynediad i’r cyllid hwn yn dilyn Brexit a does fawr ddim manylion wedi’u rhannu gan Lywodraeth y DU ynglŷn â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin – y gronfa arfaethedig i ddod yn lle’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF). Dydyn ni ddim yn gwybod o hyd faint o arian fydd yn y pot, beth yn union gaiff ei gyllido ganddo na sut caiff ei ddarparu. Yn ychwanegol at hyn, mae’r pandemig a’r adferiad dilynol wedi ac yn parhau i yrru’r galw am fwy o fuddsoddiad cyhoeddus, a’r cyfan yng nghyd-destun cwymp mewn refeniw.
Heriau ac argymhellion allweddol
Amlygodd yr OECD nifer o heriau ac argymhellion allweddol yn y sesiwn.
Heriau:
- Nifer sylweddol o dameidiau mewn polisi, cynllunio a chyllido buddsoddiad.
- Mae gan bob adran eu hamcanion a’u blaenoriaethau rhanbarthol/ lleol eu hunain heb unrhyw fath o angor.
Argymhellion:
- Cyflwyno un Polisi Datblygu Rhanbarthol integredig a chefnogi gyda chynlluniau integredig wedi’u cynllunio’n lleol
- Mabwysiadu’r Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol arfaethedig
- Adeiladu ar wybodaeth, profiad a chapasiti sy’n bodoli eisoes; addasu’r hyn nad yw’n gweithio
- Sefydlu Swyddfa Datblygu a Buddsoddi Rhanbarthol sy’n niwtral o ran polisi (o dan Swyddfa’r Prif Weinidog) er mwyn dwyn ynghyd y strategaeth datblygu rhanbarthol, polisi a buddsoddiad
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad llawn yr OECD.