Mae CGGC yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas y Cadeiryddion i gynnal digwyddiad ar gyfer Cadeiryddion elusennau yng Nghymru.
Gwyddom fod bod yn Gadeirydd bwrdd ymddiriedolaeth neu bwyllgor rheoli yn gyfrifoldeb mawr a gall fod yn heriol, felly mae’n bwysig bod Cadeiryddion yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Gall cwrdd â Chadeiryddion eraill a rhwydweithio â nhw fod yn ddefnyddiol tu hwnt.
‘Mae’r digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar Gadeiryddion y mae eu mudiadau yn gwasanaethu Cymru (yn unig, neu fel rhan o frîff y DU) neu’r rheini sydd am wneud hynny. Os ydych chi eisiau siarad am y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu elusennau sy’n gweithredu yng Nghymru, neu’n awyddus i siarad â Chadeiryddion eraill sy’n canolbwyntio ar Gymru, hwn yw’r digwyddiad i chi.’
Bydd y digwyddiad yn cynnwys panel o siaradwyr i helpu i edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd presennol i weithio yng Nghymru ac yn rhoi trosolwg strategol i chi o bolisi, cyllid a chyfleoedd i gydweithio. Bydd cyfleoedd rhwydweithio i’ch galluogi chi i gysylltu â Chadeiryddion eraill sy’n gweithio yng Nghymru.
Y PANEL
Bydd Richard Newton, awdur y canllaw, Introduction to key Welsh legislation affecting charities, yn myfyrio ar y cyfleoedd a’r heriau a gyflwynir gan gyfreithiau allweddol yng Nghymru, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015; Cynllun y Trydydd Sector; Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’r ffocws cynyddol ar ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar le/pobl, ac yn cynnig mewnwelediadau i gyfleoedd codi arian ar gyfer gweithgareddau yng Nghymru.
Bydd Mair Rigby o CGGC yn edrych ar y cymorth sydd ar gael gan gyrff seilwaith yng Nghymru (gan gynnwys TSSW) a sut mae cydweithio a phartneriaeth yn gweithio drwy Gynllun y Trydydd Sector a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.
Bydd Jess Williams, Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu Cymru y Comisiwn Elusennau, yn rhannu safbwynt y rheoleiddiwr ar y prif dueddiadau a phroblemau i elusennau yng Nghymru a pha gymorth y gall y Comisiwn ei gynnig.
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bob Cadeirydd ac Is-gadeirydd, gan gynnwys pwyllgorau a byrddau cynghori. Nid oes angen i chi fod yn aelod o Gymdeithas y Cadeiryddion i fynychu’r digwyddiad hwn. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal dros blatfform ar-lein Zoom ar Dydd Mercher 25 Hydref 2023, 12:30 pm – 2:00 pm.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer y digwyddiad yma: Canolbwyntio ar gadeirio yng Nghymru
Mae Cymdeithas y Cadeiryddion yn cynnal arolwg ar hyn o bryd i gael gwybod mwy am yr heriau sy’n wynebu Cadeiryddion (Saesneg yn unig)
I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth am ddim, cofrestrwch ar yr Hwb Gwybodaeth lle cewch lu o adnoddau a chymorth ar gyfer mudiadau gwirfoddol.