Digidol yn y trydydd sector

Cyhoeddwyd : 02/03/20 | Categorïau: Newyddion |

Mae ProMo-Cymru a CGGC yn edrych ar yr anghenion a’r sgiliau sydd gan y trydydd sector yng Nghymru pan ddaw at weithio’n ddigidol.

Gallech chi helpu wrth lenwi’r arolwg yma:

https://www.surveygizmo.com/s3/5463872/WCVA-February-2020-CY

Mae ProMo-Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl a chymunedau yn wybodus, wedi’u cysylltu ac yn cael eu clywed. Mae ProMo yn gweithio ar y cyd i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell. Yn gweithio gyda chymunedau drwy gyfathrebu, eiriolaeth, ymgysylltiad diwylliannol, cynhyrchiad digidol a chyfryngol. Yn rhannu’r wybodaeth yma drwy hyfforddiant ac ymgynghoriad, yn creu partneriaethau hirdymor i fuddio pobl a sefydliadau.

Bwriad yr arolwg yw mapio sgiliau digidol ar draws y trydydd sector, darganfod barn y sector am ddigidol a deall sut gall sefydliadau ddefnyddio technoleg ddigidol i gyflawni’u bwriadau. Mae gennym ddiddordeb hefyd i ddeall yr awydd, y cynhwysedd a’r adnoddau o fewn y sector i addasu i newid digidol.

Bwriad yr arolwg hefyd ydy ein helpu i ddeall sut gall sefydliadau’r trydydd sector fuddio orau o gefnogaeth gyda digidol. Mae gennym ddiddordeb hefyd yn sut gall sefydliadau’r trydydd sector gadw’n gyfoes ar dueddiadau perthnasol.

Rydym yn credu ei fod yn hanfodol rhoi llais i’r trydydd sector yng Nghymru ar sut mae digidol yn cael ei ddefnyddio, neu ddim, ar gyfer da cymdeithasol. Bydd darganfyddiadau’r arolwg yn cael ei ddefnyddio i ddeall sefyllfa bresennol datblygiad digidol y sector. Rydym hefyd yn awyddus i hysbysu hapddalwyr yn gywir am yr hyn sydd ei angen i gefnogi’r trydydd sector yng Nghymru, i sicrhau bod y sector yn cadw’n gysylltiedig ag yn gynrychiadol o’r cymunedau rydym yn ei wasanaethu.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 14/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Lansio cyllid ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy