Yn un o gyfarfodydd diweddar Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru, gwnaethom ofyn cwestiwn syml: ‘Beth ydych chi wedi bod yn ei ddarllen, yn gwrando arno, yn ei wylio neu’n ei fynychu yn ddiweddar y dylai rheolwyr gwirfoddolwyr eraill wybod amdano?’
Mae Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru yn rhwydwaith ar gyfer arweinwyr strategol cenedlaethol a rhanbarthol o sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr neu’n hyrwyddo gwirfoddolwyr yng Nghymru. Yn un o gyfarfodydd diweddar y rhwydwaith, gwnaethom ofyn i’r aelodau ystyried:
‘Beth ydych chi wedi bod yn ei ddarllen, yn gwrando arno, yn ei wylio neu’n ei fynychu yn ddiweddar y dylai rheolwyr gwirfoddolwyr eraill wybod amdano?’
Dangosodd y drafodaeth yn gyflym gryfder y rhwydwaith. Roedd yr argymhellion yn amrywio o feddwl yn strategol a thueddiadau newydd ym maes gwirfoddoli i seiberddiogelwch, lles a datblygiad proffesiynol.
Yr hyn wnaeth sefyll allan oedd nid yn unig ansawdd yr adnoddau eu hunain, ond ehangder yr wybodaeth a’r profiad sy’n bodoli yn y rhwydwaith. Dyma ddeg argymhelliad a rannwyd gan aelodau’r rhwydwaith sy’n cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i unrhyw un sy’n ymwneud â rheoli gwirfoddolwyr.
1. TUEDDIADAU NEWYDD YM MAES GWIRFODDOLI
Argymhellwyd gan: Steve Thomas, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol (Gogledd) yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru
Ymrwymiad amser: deg munud i’w darllen
Wrth i ddisgwyliadau gwirfoddolwyr, technoleg ac anghenion cymdeithasol barhau i esblygu, mae’n bwysicach nag erioed i gadw ar y blaen i dueddiadau newydd. Tynnodd Steve sylw at yr erthygl hon gan CGGC am ei bod yn rhoi trosolwg cryno o’r heriau a’r cyfleoedd a fydd yn wynebu rheolwyr gwirfoddolwyr dros y blynyddoedd i ddod. Mae’n fan cychwyn ardderchog i unrhyw un sy’n awyddus i ddiogelu eu rhaglenni gwirfoddoli yn y dyfodol a deall yr hyn sy’n llunio’r proffesiwn.
Dolen i’r erthygl: Chwe pheth y mae angen i Reolwyr Gwirfoddolwyr eu gwybod yn 2026
2. LLES GWIRFODDOLWYR
Argymhellwyd gan: Dr DeAnn Bell, Arweinydd Ymgysylltu ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru yn Tempo Time Credits
Ymrwymiad amser: chwech i wyth awr
Mae lles gwirfoddolwyr yn parhau i fod yn faes ffocws sy’n tyfu ar draws y sector. Argymhellodd DeAnn The Art Cure gan Daisy Fancourt, llyfr sy’n archwilio’r dystiolaeth sy’n cysylltu creadigrwydd, cyfranogiad yn y celfyddydau a gwell iechyd a lles. Gan dynnu ar ymchwil helaeth, mae’r llyfr yn dangos sut y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol leihau straen, meithrin gwydnwch a gwella ansawdd bywyd. Mae’n cynnig persbectif defnyddiol i sefydliadau sy’n cefnogi gwirfoddolwyr ar y cysylltiad rhwng cyfranogiad ystyrlon a lles.
Dolen i’r llyfr: *Art Cure
3. PODLEDIADAU AR GYFER POBL YN Y SECTOR GWIRFODDOL GAN BOBL YN Y SECTOR GWIRFODDOL
Argymhellwyd gan: Carwyn Humphreys, Cydlynydd y Ganolfan Wirfoddoli ym Mantell Gwynedd
Ymrwymiad amser: 30 i 45 munud y bennod
Mae podlediadau wedi dod yn ffordd fwyfwy poblogaidd i bobl brysur gadw i fyny â’r wybodaeth ddiweddaraf, a phodlediad *The Charity Show oedd argymhelliad Carwyn i reolwyr gwirfoddolwyr sy’n awyddus i gymryd rhan mewn sgyrsiau â’r sector ehangach. Mae’r podlediad, sy’n trafod arweinyddiaeth, arloesi, codi arian a datblygu sefydliadol, yn cynnig mewnwelediadau ymarferol gan arweinwyr elusennau ac arbenigwyr yn y sector. Mae’n ffordd hygyrch o gadw mewn cysylltiad â datblygiadau ar draws y sector gwirfoddol wrth gymudo, wrth fynd am dro neu rhwng cyfarfodydd. Yn y *bennod ddiweddaraf, mae Pennaeth Gwirfoddoli CGGC, Flik, yn trafod Wythnos Gwirfoddolwyr, cynnwys pobl ifanc a theuluoedd mewn gweithgarwch gwirfoddoli, a sut y gall micro-wirfoddoli fod yn fwy na phrofiad untro.
Dolen i’r podlediad: *The Charity Show Podcast
4. MESUR EICH EFFAITH
Argymhellwyd gan: Tessa Willow, Rheolwr Datblygu’r Trydydd Sector (Gwasanaethau Craidd) yng Nghyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint
Ymrwymiad amser: pum munud i’w ddarllen
Gall mesur y gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud fod yn heriol, ond mae’n dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer cyllid, atebolrwydd a dysgu sefydliadol. Tynnodd Tessa sylw at adnodd gan Vision for Volunteering sy’n annog sefydliadau i feddwl yn fwy strategol am y ffordd y caiff effaith ei mesur.
Yn hytrach na chyfrif oriau gwirfoddoli yn unig, mae’r adnodd yn annog sefydliadau i ystyried y newidiadau ehangach y mae gwirfoddoli yn eu creu i unigolion, cymunedau a gwasanaethau. Mae’n adlewyrchu awydd cynyddol yn y sector i ddangos canlyniadau yn ogystal â gweithgarwch.
Dolen i’r blog: *Measuring the impact of work with volunteers
5. MEDDWL YN FEIRNIADOL AM WIRFODDOLI
Argymhellwyd gan: Steve Thomas, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol (Gogledd) yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru
Ymrwymiad amser: erthyglau deg munud, penodau podlediad 30 i 60 munud
Does dim llawer o enwau sydd â chysylltiad agosach ag ymgysylltu â gwirfoddolwyr na Rob Jackson. Trwy ei erthyglau, ei waith ymgynghori a’r podlediad ‘Advancing the Profession’, mae’n herio rheolwyr gwirfoddolwyr yn gyson i feddwl yn feirniadol am ymarfer, arweinyddiaeth a dyfodol gwirfoddoli.
Mae ei gynnwys yn adnabyddus am fynd i’r afael â chwestiynau anodd, cwestiynu’r hyn a dderbynnir yn gyffredinol ac annog rheolwyr gwirfoddolwyr i weld eu hunain fel arweinwyr strategol yn hytrach na dim ond cydlynwyr rhaglenni. I lawer o ymarferwyr, mae ei adnoddau wedi dod yn ddeunydd darllen a gwrando proffesiynol hanfodol.
Dolen i’r erthygl/podlediad: *Rob Jackson Consulting
6. DIGWYDDIADAU, ADNODDAU A RHWYDWEITHIO AR GYFER RHEOLWYR GWIRFODDOLWYR
Argymhellwyd gan: Flik Walls, Pennaeth Gwirfoddoli CGGC
Mae rhwydweithiau proffesiynol yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu rheolwyr gwirfoddolwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder. Mae Cymdeithas y Rheolwyr Gwirfoddolwyr yn darparu adnoddau, digwyddiadau, cyfleoedd rhwydweithio a chymorth proffesiynol wedi’u teilwra’n benodol i’r rhai sy’n arwain rhaglenni gwirfoddoli.
Mae’r argymhelliad yn adlewyrchu thema ehangach a ddaeth i’r amlwg yn ystod y drafodaeth: mae rheoli gwirfoddolwyr yn cael ei gydnabod fwyfwy fel proffesiwn sy’n gofyn am wybodaeth arbenigol, datblygiad parhaus a chymorth gan gymheiriaid.
Dolen i’r wefan: *Cymdeithas y Rheolwyr Gwirfoddolwyr
7. DOD Â’R SECTOR GWIRFODDOL YNG NGHYMRU AT EI GILYDD
Argymhellwyd gan: Carwyn Humphreys, Cydlynydd y Ganolfan Wirfoddoli ym Mantell Gwynedd
Ymrwymiad amser: digwyddiad undydd
I lawer o bobl sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, mae gofod3 wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol sy’n dod ag elusennau, grwpiau cymunedol, cyllidwyr a phartneriaid y sector cyhoeddus ynghyd ac yn cynnig cyfleoedd i ddysgu, trafod syniadau a meithrin cydberthnasau ar draws ffiniau sefydliadol. Tynnodd Carwyn sylw at gofod3 fel un o’r cyfleoedd gorau i ennyn safbwyntiau newydd a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau sy’n effeithio ar y sector yn ei gyfanrwydd. Bydd 10fed digwyddiad blynyddol gofod3 yn cael ei gynnal ar 16 Mehefin 2027.
Dolen i’r wefan: gofod3
8. HYFFORDDIANT MEDDWL AM SYSTEMAU
Yn ddiweddar, aeth un o’r aelodau i hyfforddiant meddwl am systemau a rhannodd yr hyn yr oedd wedi’i ddysgu, a oedd yn ysgogi’r meddwl. Yn rhy aml, mae sefydliadau yn mynd ar drywydd ‘arfer gorau’ heb gwestiynu a yw’r dulliau hynny’n iawn ar gyfer eu hamgylchiadau eu hunain. Mae meddwl am systemau yn annog ymarferwyr i ddeall y cyd-destun ehangach y maent yn gweithio ynddo a chydnabod bod atebion effeithiol yn aml yn cael eu llunio gan realiti lleol yn hytrach na modelau cyffredinol. Gall y ffordd hon o feddwl fod yn amhrisiadwy i reolwyr gwirfoddolwyr sy’n llywio amgylcheddau mwyfwy cymhleth. Mae’n annog myfyrio, chwilfrydedd a pharodrwydd i herio rhagdybiaethau, yn hytrach na dim ond mabwysiadu’r hyn sydd wedi gweithio mewn mannau eraill.
Dolen i’r wefan: *Systems Thinking Hub | OpenLearn – Y Brifysgol Agored
9. SEIBERDDIOGELWCH
Argymhellwyd gan: Denise Lodge, Cydlynydd Dinasyddion mewn Plismona Cymru Gyfan ar gyfer Heddlu De Cymru
Ymrwymiad amser: 15 i 30 munud i archwilio adnoddau rhagarweiniol
Er bod trafodaethau rheoli gwirfoddolwyr yn aml yn canolbwyntio ar bobl, meithrin cydberthnasau a chynhwysiant, roedd argymhelliad Denise yn ffordd ddefnyddiol o’n hatgoffa bod gwydnwch sefydliadol yn bwysig hefyd.
Mae Canolfan Seiberwydnwch Cymru yn sefydliad a arweinir gan yr Heddlu sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r pedwar Heddlu yng Nghymru a Tarian i roi cymorth ac arweiniad i gymunedau busnes, sefydliadau ac elusennau ledled Cymru. Mae’n cynnig aelodaeth am ddim sy’n caniatáu mynediad at wasanaethau a ariennir yn llawn yn cynnwys asesiadau bregusrwydd, polisïau seiber ac adolygiadau parhad, darganfod y rhyngrwyd a hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch.
Dolen i’r wefan: Canolfan Seiberwydnwch Cymru
10. PARATOI AR GYFER Y DYFODOL
Argymhellwyd gan: Tom Morrissey, Rheolwr Gwirfoddoli CGGC
Ymrwymiad amser: pum munud i’w darllen
Roedd yr argymhelliad terfynol yn canolbwyntio ar ddyfodol gwirfoddoli ei hun. Mae Dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru yn archwilio sut y gall gwirfoddoli ddod yn fwy cynhwysol, hyblyg ac ymatebol i anghenion a disgwyliadau sy’n newid.
Wrth i sefydliadau geisio ennyn diddordeb cenedlaethau newydd o wirfoddolwyr a dileu rhwystrau i gyfranogiad, mae’r dull yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i’r ffordd y gallai gwirfoddoli yng Nghymru edrych yn y dyfodol a sut y gall sefydliadau baratoi ar ei gyfer.
Dolen i’r erthygl: Dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru
DARGANFYDDWCH FWY
Mae’r argymhellion hyn yn dangos gwerth Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru, lle mae pobl yn rhannu’r hyn sydd wedi bod yn ddefnyddiol iddyn nhw fel bod pobl eraill yn gallu elwa hefyd. Trwy ddysgu oddi wrth ei gilydd, mae aelodau’r rhwydwaith yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf, yn profi syniadau ac yn cryfhau eu hymarfer.
Os ydych chi’n cefnogi gwirfoddolwyr yng Nghymru, cysylltwch drwy eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol, eich fforwm rheolwyr gwirfoddolwyr lleol neu Rwydwaith Gwirfoddoli Cymru. Mae rhannu dysgu ac arfer da yn helpu i gryfhau gwirfoddoli ledled Cymru.
Darganfyddwch fwy am rwydweithiau gwirfoddoli yng Nghymru.
*Saesneg yn unig.