Rydych chi nawr ar dudalen Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Gweler hefyd: Deddf Gwasanaethau Cyhoeddus a Llesiant | Deddf yr Amgylchedd

Deddfwriaeth

Mae tair deddf o bwysigrwydd penodol sy’n effeithio ar fudiadau gwirfoddol yng Nghymru – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Ddeddf Gwasanaethau Cyhoeddus a Llesiant a Deddf yr Amgylchedd. Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut y maent yn effeithio ar eich mudiad gwirfoddol chi.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Rydych chi nawr ar dudalen Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Gweler hefyd: Deddf Gwasanaethau Cyhoeddus a Llesiant | Deddf yr Amgylchedd

Beth yw hyn?

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw’r ddeddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus – er enghraifft awdurdodau lleol, byrddau iechyd a mudiadau fel Cynghorau Celfyddydau a Chwaraeon Cymru – sicrhau bod cynaliadwyedd hirdymor yn ystyriaeth bennaf ganddynt.

Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid iddynt weithio ar y cyd â mudiadau perthnasol eraill (fel y rhai sy’n rhan o’r sector gwirfoddol) a’r cyhoedd i atal problemau a’u datrys.

Penderfynwyd ar y Ddeddf yn dilyn cyfnod ymgynghori hir yn dwyn y teitl Y Sgwrs Genedlaethol. Cafodd ei phasio’n gyfraith ym mis Ebrill 2015.

Os am greu Cymru fwy cynaliadwy, rhaid i gyrff cyhoeddus weithio nawr i gyflawni saith Nod Llesiant, a dilyn y pum Dull o Weithio.

Wheel displaying the seven wellbeing goals from the Wellbeing of Future Generations Act

Nod Llesiant

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle maeʼr Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru syʼn gyfrifol ar lefel fyd-eang

Dull o weithio

Hirdymor

Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.

Atal

Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.

Integreiddio

Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff chyoeddus eraill.

Cydweithio

Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant.

Cynnwys

Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi set o 46 Dangosydd Cenedlaethol i helpu i fesur y cynnydd i gyflawni’r Nodau hyn.

Mae’r Dangosyddion wedi’u dewis er mwyn i ni allu gweld a yw pethau’n gwella i Gymru yn gyffredinol.

Mae’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion i adolygu a diwygio’r dangosyddion cenedlaethol er mwyn iddynt barhau i fod yn gyfredol ac yn berthnasol.

Ar ddechrau pob blwyddyn ariannol, rhaid i Weinidogion gyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol yn nodi’r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf.

Pwy sy’n cael ei effeithio?

Cyrff cyhoeddus

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i 44 o gyrff cyhoeddus datganoledig osod a chyhoeddi amcanion llesiant er mwyn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl ganddynt at gyflawni pob un o’r nodau llesiant, a rhaid iddynt gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hynny.

Rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi datganiad wrth osod eu hamcanion llesiant i egluro pam maent yn teimlo y bydd yr amcan yn eu helpu i gyflawni’r saith nod a’r ffordd y maent wedi rhoi’r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith.

Rhaid iddynt hefyd gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n dangos y cynnydd y maent wedi’i wneud tuag at gyflawni eu hamcanion.

Cyrff cyhoeddus yng Nghymru

  • Gweinidogion Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
  • Awdurdodau Tân ac Achub
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cyngor Chwaraeon Cymru
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae’r Ddeddf hefyd yn ffurfio Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. 

Diben y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd lleol drwy gryfhau cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Rhaid i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gynnwys yr Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Byrddau Iechyd a Gwasanaethau Tân – a ‘chyfranogwyr gwadd’ ychwanegol gan gynnwys; Gweinidogion Cymru, Prif Gwnstabliaid, ac o leiaf un corff sy’n cynrychioli mudiadau gwirfoddol perthnasol. 

Mae dyletswydd ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddylunio a gweithredu Cynlluniau Llesiant Lleol, wedi’u seilio ar asesiadau manwl, ac i osod amcanion ar gyfer eu hardal leol er mwyn cydymffurfio â’r nodau llesiant. 

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae’r Ddeddf hefyd yn creu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, rôl sy’n gwarchod buddiannau cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, er mwyn cefnogi’r cyrff cyhoeddus i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant a monitro’r cynnydd tuag at gyflawni amcanion.

Derek Walker yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a dechreuodd ar y swydd yn 2023, gan gymryd lle Sophie Howe.

A yw’r Nodau Llesiant yn berthnasol i ni?

Er mai dim ond cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhwymo gan y Ddeddf, ni fydd ei Nodau Llesiant yn cael eu cyflawni heb gefnogaeth sectorau eraill a chamau gweithredu unigol hefyd.

Ble y gallaf gael gwybod mwy?

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r Ddeddf, dilynwch y dolenni hyn

Adnoddau

Categori | Polisïau, gweithdrefnau ac ymarferol  |

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Cyflwyniad i daflenni gwybodaeth nodau DLCD

Categori | Dylanwadu |

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Taflen ffeithiau ffyrdd o weithio

Mwy o adnoddau