Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi set o 46 Dangosydd Cenedlaethol i helpu i fesur y cynnydd i gyflawni’r Nodau hyn.
Mae’r Dangosyddion wedi’u dewis er mwyn i ni allu gweld a yw pethau’n gwella i Gymru yn gyffredinol.
Mae’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion i adolygu a diwygio’r dangosyddion cenedlaethol er mwyn iddynt barhau i fod yn gyfredol ac yn berthnasol.
Ar ddechrau pob blwyddyn ariannol, rhaid i Weinidogion gyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol yn nodi’r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf.
Pwy sy’n cael ei effeithio?
Cyrff cyhoeddus
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i 44 o gyrff cyhoeddus datganoledig osod a chyhoeddi amcanion llesiant er mwyn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl ganddynt at gyflawni pob un o’r nodau llesiant, a rhaid iddynt gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hynny.
Rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi datganiad wrth osod eu hamcanion llesiant i egluro pam maent yn teimlo y bydd yr amcan yn eu helpu i gyflawni’r saith nod a’r ffordd y maent wedi rhoi’r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith.
Rhaid iddynt hefyd gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n dangos y cynnydd y maent wedi’i wneud tuag at gyflawni eu hamcanion.
Cyrff cyhoeddus yng Nghymru
- Gweinidogion Cymru
- Awdurdodau Lleol
- Byrddau Iechyd Lleol
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Felindre
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- Awdurdodau Tân ac Achub
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Chwaraeon Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae’r Ddeddf hefyd yn ffurfio Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
Diben y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd lleol drwy gryfhau cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Rhaid i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gynnwys yr Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Byrddau Iechyd a Gwasanaethau Tân – a ‘chyfranogwyr gwadd’ ychwanegol gan gynnwys; Gweinidogion Cymru, Prif Gwnstabliaid, ac o leiaf un corff sy’n cynrychioli mudiadau gwirfoddol perthnasol.
Mae dyletswydd ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddylunio a gweithredu Cynlluniau Llesiant Lleol, wedi’u seilio ar asesiadau manwl, ac i osod amcanion ar gyfer eu hardal leol er mwyn cydymffurfio â’r nodau llesiant.
Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae’r Ddeddf hefyd yn creu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, rôl sy’n gwarchod buddiannau cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, er mwyn cefnogi’r cyrff cyhoeddus i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant a monitro’r cynnydd tuag at gyflawni amcanion.
Derek Walker yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a dechreuodd ar y swydd yn 2023, gan gymryd lle Sophie Howe.
A yw’r Nodau Llesiant yn berthnasol i ni?
Er mai dim ond cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhwymo gan y Ddeddf, ni fydd ei Nodau Llesiant yn cael eu cyflawni heb gefnogaeth sectorau eraill a chamau gweithredu unigol hefyd.
Ble y gallaf gael gwybod mwy?
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r Ddeddf, dilynwch y dolenni hyn