Ar hyn o bryd rydych chi ar dudalen y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
Gweler hefyd: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol | Deddf yr Amgylchedd
Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn darparu fframwaith cyfreithiol arloesol ar gyfer gwella llesiant oedolion a phlant sydd angen gofal a chymorth, ac ar gyfer trawsnewid y ffordd y caiff gofal a chymorth eu darparu nawr ac yn y dyfodol.
Mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig, gyda’r Ddeddf yn:
- hyrwyddo’r gwaith o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol
- annog pobl i fod yn annibynnol er mwyn rhoi llais cryfach iddynt a mwy o reolaeth dros eu bywydau
- rhoi mwy o ryddid i bobl benderfynu pa gymorth sydd ei angen arnyn nhw
- hyrwyddo gwasanaethau cyson o safon uchel ledled y wlad.
Mae gan fudiadau gwirfoddol eu rhan mewn cefnogi’r gwaith o gyflenwi’r Ddeddf drwy wneud eu canlyniadau’n gydnaws ag egwyddorion craidd y Ddeddf. Bwriedir i egwyddorion y Ddeddf yrru darpariaeth pob darparwr gwasanaeth gofal cymdeithasol, a gwneud hyn mewn partneriaeth lle bynnag y bo’n bosibl.
Gall mudiadau gwirfoddol gefnogi’r Ddeddf drwy ddilyn y prif egwyddorion canlynol:
- Llais a rheolaeth: Gwneud yr oedolion neu’r plentyn unigol, gan gynnwys gofalwyr di-dâl, yn ganolog i’w gofal a’i gymorth. Dylent gael y rheolaeth i ddod i’r canlyniadau sy’n eu helpu i gyflawni llesiant ar draws pob agwedd ar eu bywydau. Mae llawer o fudiadau gwirfoddol eisoes yn gweithredu yn y modd hwn ac yn cael eu harwain gan ddefnyddwyr neu’n darparu eiriolaeth mewn ffyrdd amrywiol.
- Atal ac ymyrraeth gynnar: Cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn y gymuned er mwyn stopio’r anghenion rhag gynyddu.
- Cydgynhyrchu: Annog unigolion i ymwneud yn fwy â’r gwaith o ddylunio a darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae llawer o fudiadau gwirfoddol eisoes yn gweithio yn y modd hwn, a gall mwy o ddarparwyr ddysgu o’u harbenigedd.
- Amlasiantaeth: Gwaith partneriaeth cryf rhwng yr holl asiantaethau a mudiadau, ac integreiddio’n brif sbardun ar gyfer newid.
- Pobl: Mae plant, oedolion a gofalwyr, eu teuluoedd a chymunedau’n asedau cyfoethog ac yn ganolog i’r fframwaith ar gyfer gweithio. Mae siarad â phobl a gwrando arnynt yn allweddol i gyflawni llesiant a datgloi’r potensial ar gyfer creadigrwydd.
- Llesiant: cynorthwyo pobl i gyflawni eu llesiant eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth. Mae ‘llesiant’ yn derm eang a ddefnyddir ar draws nifer o feysydd o fewn y Ddeddf, gan gynnwys diogelu (atal a diogelu pobl rhag cam-drin, niwed ac esgeulustod), ond mae hefyd yn ymwneud â llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol unigolyn.
Mae’r Ddeddf yn mynnu newid mewn diwylliant er mwyn helpu unigolion i gyflawni eu canlyniadau llesiant: yn gyntaf, drwy ofyn ‘Beth sy’n bwysig i chi?’ ac yn ail, drwy gynyddu rhwydweithiau cymorth yr unigolyn ei hun a’i fynediad at adnoddau cymunedol a gwirfoddol gymaint â phosibl. Y nod yw symud y pwysau oddi ar ofal a chymorth hirdymor, lle bynnag y bo’n bosibl. Mae’r sector gwirfoddol yn allweddol i gefnogi’r newid diwylliant hwn.
RÔL Y SECTOR GWIRFODDOL
Mae’r Ddeddf yn amlinellu gweledigaeth am rôl gryfach i’r sector gwirfoddol a mudiadau gwerth cymdeithasol o ran ei gweithrediad:
- Mae Rhan 9 y Ddeddf yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer cydweithio; mynd ati’n weithredol i annog gweithio mewn partneriaeth ar draws sectorau a chydag unigolion sydd angen gofal a chymorth.
- Mae Rhan 9 hefyd yn amlinellu’r ddyletswydd i sefydlu saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a fydd yn cynnwys mudiadau trydydd sector o fewn yr aelodaeth.
- Mae Adran 16 (2) y Ddeddf yn nodi bod angen i awdurdodau lleol hyrwyddo gwasanaethau gofal a chymorth, gan gynnwys gwasanaethau ar gyfer gofalwyr, a gwasanaethau ataliol a ddarperir gan fentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, mudiadau a arweinir gan ddefnyddwyr a mudiadau trydydd sector.
- Mae Adran 16 (1) y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo sut mae mentrau cymdeithasol, mudiadau cydweithredol, trefniadau cydweithredol a mudiadau trydydd sector yn darparu gofal, cymorth a gwasanaethau ataliol yn eu hardal.
Bydd pob ardal leol a rhanbarthol yn llunio Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a Chynllun Gweithredu Lleol sy’n amlinellu blaenoriaethau lleol.
Gall mudiadau gwirfoddol wneud cyfraniad pwysig at nodi anghenion poblogaethau lleol drwy rannu gwybodaeth am anghenion nas diwallwyd, y gellir ei defnyddio i gefnogi datblygiad gwasanaethau newydd. Mae ganddyn nhw hefyd eu rhan mewn cyfeirio mudiadau ac unigolion at wybodaeth sy’n berthnasol iddyn nhw.
DATBLYGU FFORYMAU GWERTH CYMDEITHASOL RHANBARTHOL
Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer y Ddeddf (Rhan 2) yn gofyn i saith Fforwm Gwerth Cymdeithasol gael eu sefydlu i ddwyn ynghyd mudiadau/darparwyr ‘gwerth cymdeithasol’, gan gynnwys y sector gwirfoddol, er mwyn datblygu arfer da ac arloesedd a chynorthwyo’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth.
ASTUDIAETHAU ACHOS
Hwb Cymorth Cynnar, Sir y Fflint
Darllenwch am ymateb amlasiantaeth i deulu lle mae achosion wedi bod o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a/neu gam-drin domestig neu esgeulustod, ond lle nad oes unrhyw un o’r achosion wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer ymyrraeth statudol neu gyfeiriad diogelu eto.
Triniaeth Deg i Fenywod yng Nghymru
Darllenwch am y grŵp menywod a merched a arweinir gan gleifion a ddechreuodd ei fywyd fel tudalen Facebook ar ddiwedd 2014. Erbyn hyn, mae wedi’i drawsnewid i fod yn ymgyrch sy’n ceisio cael gwasanaethau gwell i fenywod yn gyffredinol, gan gynnwys materion sy’n ymwneud â cham-esgor, y menopos a Syndrom Ehlers Danlos.
Tide (together in dementia everyday)
‘Y rhwystr fwyaf i’w goresgyn yn ystod Covid-19 fu’r ffaith i ni golli amser a gwagle personol. Gan i wasanaethau gael eu diddymu, ar ben y cyfyngiadau symud, fe’u gwaed yn amhosibl i ni gael toriad o’r gofalu.’ Darllenwch am yr hyn y mae Tide wedi bod yn ei wneud i barhau â chymorth hanfodol i ofalwyr.
Anabledd Cymru
Drwy gydol yr argyfwng Covid-19, mae Anabledd Cymru wedi chwarae rôl annatod mewn gwella bywydau pobl anabl, gan sicrhau fod problemau’n cael eu datrys yn gyflym
RHAN 7 DIOGELU
Mae diogelu yn un o themâu trosfwaol y Ddeddf. Gellir gweld y manylion o dan Ran 7.
Mae’r Ddeddf yn atgyfnerthu’r trefniadau diogelu cyfredol ar gyfer plant drwy gyflwyno dyletswydd newydd ar bartneriaid statudol, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau a gomisiynir neu a gyllidir, i adrodd unrhyw ‘blentyn sy’n wynebu risg’ i’r awdurdod lleol.
Gall plentyn gael ei ystyried fel un sy’n ‘wynebu risg’ o dan yr amgylchiadau canlynol:
- pan fydd ganddo anghenion gofal a chymorth (waeth a yw’r rhain yn cael eu diwallu neu beidio), a
- phan ymddengys ei fod yn wynebu risg o niwed, cam-drin neu esgeulustod.
Caiff ‘oedolyn sy’n wynebu risg’ hefyd ei ddiffinio o fewn y Ddeddf. Mae gofyniad ar awdurdod lleol i ymchwilio i achosion lle mae’n amau bod oedolyn ag anghenion gofal a chymorth yn wynebu risg o gam-drin neu esgeulustod. Cyflwynir gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolyn er mwyn awdurdodi mynediad i eiddo at y diben o alluogi swyddog awdurdodedig i asesu a yw oedolion yn wynebu risg o gam-drin neu esgeulustod ac, os felly, pa gamau, os unrhyw beth, y dylid eu cymryd.
Gosodir dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i adrodd unrhyw achos lle yr amheuir fod pobl (oedolion neu blant) yn wynebu risg o gam-drin neu esgeulustod i’r awdurdod lleol priodol. Mae Rheoliad 6 yn gofyn i’r chwe Bwrdd Diogelu rhanbarthol roi cyfle i blant neu oedolion a effeithir, neu a allai gael eu heffeithio, gan gyflawniad swyddogaethau’r Bwrdd, gymryd rhan yn eu gwaith. Gall fod rôl yma i fudiadau gwirfoddol neu gymunedol gefnogi’r cyfranogiad hwn.
Mae swyddogaethau’r byrddau diogelu’n cynnwys:
- adolygu anghenion hyfforddi unigolion sy’n gweithio i gyflawni amcanion y Bwrdd a hyrwyddo’r ddarpariaeth o hyfforddiant priodol ar gyfer yr unigolion hyn
- trefnu a hwyluso rhaglen flynyddol o fforymau proffesiynol amlasiantaeth
Dylai’r ddau gyfle hwn gynnwys y sector gwirfoddolwyr.
MYNEDIAD AT EIRIOLAETH A GWYBODAETH, CYNGOR A CHYMORTH
Mae Adran 181 yn nodi bod yn rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cyfartal yn ei gydberthynas â gweithwyr proffesiynol a’i fod yn gallu gwahodd rhywun o’i ddewis i’w gynorthwyo i gymryd rhan lawn a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau.
Gall y cymorth hwn gael ei ddarparu gan ffrindiau, teulu neu rwydwaith cymorth ehangach. Bydd gan rai unigolion yr hawl i wasanaeth eirioli ffurfiol a phroffesiynol.
Mae Adran 17 yn gofyn i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth lleol, a rhaid iddynt gyhoeddi gwybodaeth am:
- Sut mae’r system gofal a chymorth yn gweithredu yn yr ardal awdurdod lleol
- Y mathau o ofal a chymorth sydd ar gael
- Sut i gael gafael ar y gofal a’r cymorth sydd ar gael
- Sut i leisio pryderon ynghylch lles unigolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth yn ôl pob golwg
Mae’n rhaid i’r gwasanaeth hwn fod yn hygyrch i bawb.
ADNODDAU ERAILL
Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu fersiwn hawdd ei ddarllen o’r Ddeddf, sydd â gwybodaeth benodol yn ymwneud â phobl ifanc, gofalwyr, pobl hŷn a phobl anabl.
Gellir cael gwybodaeth ac adnoddau ynghylch y Ddeddf yn yr Hyb, a gynhelir gan Gofal Cymdeithasol Cymru.