Gwefan comisiwn elusennau

Deddf Elusennau 2022: gwybodaeth am y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno

Cyhoeddwyd : 15/09/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru ar y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno gan Ddeddf Elusennau 2022.

Disgwylir i’r newidiadau, a fydd yn cael eu gwneud fesul cam, ddod i rym yn hydref 2022 (Saesneg yn unig), gwanwyn 2023 a hydref 2023.

Mae’r canllawiau yn rhoi crynodebau byr o’r newidiadau y bwriedir eu rhoi ar waith yn ystod hydref 2022.

TALU YMDDIRIEDOLWYR AM DDARPARU NWYDDAU I’R ELUSEN

Mae gan elusennau eisoes bŵer statudol y gallant eu defnyddio, mewn amgylchiadau arbennig, i dalu ymddiriedolwyr am ddarparu gwasanaeth ar gyfer yr elusen sydd y tu hwnt i ddyletswyddau arferol ymddiriedolwr, neu am nwyddau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth hwnnw.

Mae’r pŵer statudol hwn yn cael ei newid gan Ddeddf Elusennau 2022. O ganlyniad, bydd elusennau, mewn amgylchiadau arbennig, yn gallu talu ymddiriedolwyr am ddim ond darparu nwyddau ar gyfer yr elusen.

Felly, gan ddefnyddio’r pŵer statudol, gallai ymddiriedolwyr gael eu talu am:

  • wasanaethau yn unig, er enghraifft, asiantaeth dai neu wasanaeth ymgynghori ar gyfrifiaduron
  • gwasanaethau a nwyddau cysylltiedig, er enghraifft, gwasanaeth plymwaith neu baentio ac unrhyw ddeunyddiau cysylltiedig fel darnau plymwaith neu baent
  • ar ôl i’r Ddeddf gael ei rhoi ar waith yn yr hydref, nwyddau yn unig, er enghraifft, darparu papur swyddfa ar gyfer yr elusen

GWNEUD TALIADAU MOESOL NEU ‘EX GRATIA’ O GRONFEYDD ELUSEN

Weithiau, mae ymddiriedolwyr elusennau yn derbyn cais i wneud taliad moesol neu ‘ex gratia’ o gronfeydd neu eiddo eu helusen, neu i ildio eu hawl i dderbyn arian neu eiddo. Mae hyn yn digwydd amlaf pan fydd elusen yn derbyn etifeddiaeth a bod tystiolaeth bod y rhoddwr wedi newid ei feddwl ers gwneud ei ewyllys.

Bydd Deddf Elusennau 2022 yn cyflwyno pwerau newydd a fydd yn:

  • galluogi elusennau, lle gellid credu’n rhesymol fod gan ymddiriedolwyr rwymedigaeth foesol, i brosesu ceisiadau am symiau ‘bach’ heb wneud cais i’r Comisiwn, ar sail ffactorau fel incwm gros blynyddol a maint y cais
  • galluogi ymddiriedolwyr i ddirprwyo unigolion neu grwpiau eraill o fewn yr elusen i wneud penderfyniadau ynghylch taliadau ‘ex gratia’. Er enghraifft, y prif weithredwr neu is-bwyllgor ymddiriedolwyr

Bydd y pwerau hyn hefyd ar gael i’r Siarter Frenhinol ac elusennau statudol.

Nodir y trothwyon ar gyfer galluogi elusennau i ddefnyddio’r pŵer statudol newydd mewn tabl ar wefan y Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig).

APELIADAU CODI ARIAN NAD YDYNT YN CODI DIGON O ARIAN NEU SY’N CODI GORMOD O ARIAN

Weithiau, nid yw apeliadau yn codi’r swm sydd ei angen i gyflawni’r nod dymunol, neu’n codi gormod o arian a chydag arian yn weddill. Neu efallai y gall amgylchiadau newid ac na allwch chi ddefnyddio’r rhoddion fel y bwriadwyd.

Bydd Deddf Elusennau 2022 yn lleihau’r cymhlethdod o ran yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr ei wneud yn y sefyllfaoedd hyn. Er enghraifft:

  • Ni fydd y gofyniad presennol mewn rhai amgylchiadau i elusennau aros chwe mis i roddwyr ofyn am ad-daliad yn gymwys mwyach
  • Bydd proses symlach ar gyfer cael ein hawdurdod; bydd y broses hon yn disodli’r angen i’r Comisiwn lunio cynllun
  • Os yw’r rhoddion y gellir eu gwario ar ddibenion newydd (dibenion gwahanol i’r rhai y gwnaethoch godi’r arian ar eu cyfer) yn llai nag £1000, gall ymddiriedolwyr weithredu heb gynnwys y Comisiwn os ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol newydd

Y PŴER I DDIWYGIO SIARTERI BRENHINOL

Bydd yr elusennau hyn yn gallu defnyddio pwerau statudol newydd i newid rhannau o’u Siarter Frenhinol na allant eu newid ar hyn o bryd, os caiff y newid hwnnw ei gymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor.

Gellir gweld trosolwg o’r newidiadau llawn yma: Deddf Elusennau 2022: cynllun gweithredu (Saesneg yn unig).

Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy