Mae Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) wedi lansio apêl frys wrth i aelod-elusennau ar lawr gwlad ddarparu cymorth y mae mawr ei angen yn y Dwyrain Canol.
Mae miliynau o bobl ar draws Gaza, Libanus a’r rhanbarth ehangach ar hyn o bryd mewn angen dybryd am fwyd, lloches a gofal meddygol. Mae gwrthdaro ar draws y Dwyrain Canol yn dinistrio bywydau, ac mae miliynau wedi ffoi o’u cartrefi i chwilio am ddiogelwch.
Yn Gaza, mae maint yr angen dyngarol yn llethol. Mae pobl yn marw o newyn ac afiechydon, yn ogystal ag anafiadau a achosir gan y gwrthdaro. Yn Libanus, mae mwy na miliwn o bobl wedi ffoi o’u cartrefi ers canol mis Medi, ac mae llochesi brys yn brwydro i gefnogi pawb sydd mewn angen.
Er gwaethaf heriau a risgiau rhyfeddol, mae elusennau sy’n aelodau o Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) wedi dangos eu gallu i ddarparu cymorth sy’n achub a chynnal bywydau yn Gaza, gan gyrraedd lefel sydd bellach yn cyfiawnhau apêl genedlaethol.
Gyda’r gwrthdaro yn gwaethygu yn Libanus, gan achosi dadleoli enfawr mewn gwlad sydd eisoes yn fregus, mae apêl DEC bellach yn fwy brys nag erioed. Mae’r apêl hon yn hanfodol i sicrhau’r cyllid angenrheidiol i gefnogi cymunedau yr effeithir arnynt gan wrthdaro yn Gaza, Libanus, a’r rhanbarth cyfagos lle mae teuluoedd wedi’u dadleoli.
CRYNODEB O’R SEFYLLFA DDYNGAROL
Yn Gaza
- Mae’r Cenhedloedd Unedig yn adrodd bod hyd at 1.9 miliwn o bobl, neu 90% o boblogaeth Gaza, wedi’u dadleoli’n fewnol, llawer ohonynt sawl gwaith drosodd.
- Mae 2.1 filiwn o bobl – bron y boblogaeth gyfan – yn wynebu ansicrwydd bwyd difrifol.
- Wrth i’r gaeaf agosáu, mae 50% o wasanaethau iechyd wedi’u lleoli mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd.
Mae’r dadleoliadau mynych hyn wedi gadael y boblogaeth mewn cyflwr cynyddol agored i niwed, gan waethygu’r argyfwng dyngarol sydd eisoes yn argyfyngus. Yn ogystal â’r diffyg mynediad bron yn llwyr at loches diogel, bwyd maethlon, gofal iechyd, cyfleusterau dŵr a glanweithdra i lawer o gymunedau, mae tymheredd oerach a mwy o law wedi creu risg enfawr arall: llifogydd difrifol.
Yn ogystal â difrod pellach i lochesi a chyfleusterau hanfodol, mae llifogydd hefyd yn codi’r bygythiad o glefydau a gludir gan ddŵr a chlefydau heintus eraill yn sylweddol.
Yn Libanus
- Mae oddeutu 80% o’r boblogaeth yn byw o dan y ffin tlodi a 36% yn is na’r ‘ffin tlodi eithafol’.
- Yn ôl llywodraeth Libanus, credir bod dros filiwn o bobl wedi’u dadleoli (bron 20% o’r boblogaeth gyfan)
- Mae angen cymorth ar 3.9 miliwn o bobl o fewn y wlad, gan gynnwys 2.1 filiwn o bobl sy’n agored i niwed o Libanus, 1.5 miliwn o Syriaid, dros 200,000 o ffoaduriaid Palesteinaidd, a 81,500 o fudwyr.
Mae’r cynnydd yn y gwrthdaro yn ymestyn i ardaloedd nas effeithiwyd arnynt o’r blaen, gan adael teuluoedd mewn angen dybryd am gymorth dyngarol. Mae Libanus yn gartref i’r niferoedd uchaf o ffoaduriaid fesul pen yn y byd ac mae’r economi yno bron â dymchwel.
Yn y sefyllfa fregus hon, gallai argyfwng fel hwn wthio’r wlad a’i gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd, i’r eithaf, gan ddisodli miliynau o bobl fregus.
SUT MAE ELUSENNAU SY’N AELODAU O DEC YN YMATEB
Ar hyn o bryd rhagwelir y bydd rhoddion i’r apêl yn cael eu gwario’n bennaf yn Gaza a Libanus, lle mae angen cymorth dyngarol ar filiynau o bobl ar hyn o bryd, ond wrth i’r sefyllfa barhau i esblygu bydd aelodau DEC yn ymateb lle mae’r anghenion mwyaf ar draws y rhanbarth. Am fwy o wybodaeth am sut a ble mae elusennau DEC yn ymateb, ewch i dec.org.uk.
- Eitemau rhyddhad craidd: Dosbarthu eitemau rhyddhad craidd fel matresi, blancedi, a chitiau babanod.
- Lloches: Dosbarthu deunyddiau lloches brys a throsiannol, pebyll ac eitemau cartref.
- Bwyd: Darparu cynhwysion ffres (llysiau a ffrwythau), citiau bwyd, a darparu prydau poeth i unigolion sydd wedi’u dadleoli.
- Dŵr, Glanweithdra a Hylendid: Darparu cyflenwadau hylendid fel citiau hylendid.
- Addysg: Dosbarthu citiau addysg a chofrestru plant mewn dysgu ar-lein.
LLYWIO AMGYLCHEDD HERIOL
Mae gan elusennau sy’n aelodau o DEC a’u partneriaid lleol bresenoldeb hirsefydlog yn Gaza a Libanus a phrofiad helaeth o ddarparu cymorth achub bywydau mewn amgylcheddau hynod gyfnewidiol ac ansicr.
Trwy weithio’n agos gyda phartneriaid lleol i nodi risgiau’n gynnar, caffael gwybodaeth leol, deall deinameg leol, yn ogystal â chydlynu ag asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig a rhanddeiliaid eraill yn y rhanbarth, maent wedi gallu darparu cymorth dyngarol achub bywydau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn Gaza.
Un her allweddol fu prinder tanwydd, sy’n effeithio ar gludiant, logisteg, a gweithrediad gwasanaethau gofal iechyd a dŵr, glanweithdra a hylendid. Mewn ymateb, mae elusennau sy’n aelodau yn addasu’n barhaus i ddefnyddio’r holl lwybrau sydd ar gael i gael nwyddau i Gaza, tra’n sefydlu warysau mwy datganoledig ac ehangu capasiti storio i ddarparu ar gyfer cyflenwadau hanfodol.
Mae aelod-elusennau hefyd yn canolbwyntio ar weithgareddau y mae angen cyn lleied o danwydd â phosibl arnynt, megis cymorth seicogymdeithasol neu ddosbarthu arian parod.
Er mwyn diogelu rhag y risg o ddargyfeirio cymorth, mae DEC wedi mynnu bod ei aelodau’n cynnal gwaith sgrinio diwydrwydd dyladwy uwch o bartneriaid lleol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sy’n rhoi sicrwydd ychwanegol y tu hwnt i’r polisïau a’r gweithdrefnau cadarn sydd eisoes ar waith.
CEFNOGWCH YR APÊL FRYS HON
Mae DEC yn dod â 15 o brif elusennau cymorth y DU ynghyd i godi arian yn gyflym ac yn effeithlon ar adegau o argyfwng dyngarol dramor. Yn y cyfnod hwn o argyfwng, mae angen ein cymorth ar bobl mewn sefyllfaoedd byw neu farw a’u cenhadaeth yw achub, amddiffyn ac ailadeiladu bywydau trwy weithio gyda’r cymunedau yr effeithir arnynt.
Gan gyfuno ein hadnoddau i weithio fel un, mae DEC yn hollbwysig wrth gydgysylltu ymateb y cyhoedd yng Nghymru a’r DU i drychinebau tramor. Mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Ymateb Sydyn o’r cyfryngau cenedlaethol a phartneriaid corfforaethol, mae DEC yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn y DU ac yn sefydlu ffyrdd hawdd o gyfrannu, gydag effaith ar unwaith, yn cael cymorth i bobl y mae ei angen arnynt, yn gyflym.
Mae gan elusennau sy’n aelodau o DEC y llwybrau mynediad, yr arbenigedd a phartneriaid lleol yn eu lle i gynyddu cymorth dyngarol yn sylweddol yn y rhanbarth. Mae angen apêl DEC ar frys i godi arian brys hyblyg y mae mawr ei angen. A fyddech cystal â chefnogi’r apêl frys hon.
Gwefan: https://dec.org.uk/middle-east-appeal
Hyb Apelio: https://www.decpartnershub.org/middle-east-humanitarian-appeal