Pobol yn sefyll wrth ymyl adeilad sydd wedi dymchwel yn Mandalay, Myanmar, ar 28 Mawrth 2025 ar ôl y daeargryn.

DEC yn lansio apêl frys Myanmar

Cyhoeddwyd : 08/04/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae’r Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) wedi lansio apêl frys mewn ymateb i ddaeargryn dinistriol Myanmar wrth i aelod-elusennau ar lawr gwlad ddarparu cymorth hanfodol.

Ar ddydd Gwener 28 Mawrth 2025, cafodd Myanmar ei tharo gan ddaeargryn a oedd yn mesur 7.7 ar y raddfa Richter. Mae nifer y rhai sydd wedi’u lladd yn parhau i godi, a channoedd o bobl yn parhau i fod ar goll yn dilyn y daeargryn cryfaf i daro’r wlad ers degawdau. Mae miliynau o oroeswyr wedi’u gadael heb loches ddiogel, bwyd, dŵr glân na gofal meddygol.

Mae’r Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) wedi lansio *apêl frys i gefnogi ymdrechion elusennau DEC i roi cymorth ym Myanmar.

CRYNODEB O’R SEFYLLFA DDYNGAROL

  • Amcangyfrifir bod hyd at 10.1 miliwn o bobl wedi profi dirgryniadau cryf a chryf iawn a 7,000 o bobl wedi profi dirgryniadau nerthol.
  • Amcangyfrifir bod angen cymorth dyngarol ar 19.9 miliwn o bobl.
  • Mae plant ymysg y rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf.
  • Mae arweinwyr milwrol Myanmar wedi cyhoeddi argyfwng ar draws chwe rhanbarth.

Roedd pobl Myanmar eisoes yn wynebu argyfwng dyngarol difrifol. Roedd un rhan o dair o’r boblogaeth angen cymorth dyngarol. Nawr mae’r sefyllfa’n drychinebus.

Amcangyfrifwyd fod 3.5 miliwn o bobl eisoes wedi’u dadleoli’n fewnol ledled Myanmar, gyda nifer yn byw mewn llochesau dros dro, gwersylloedd anffurfiol neu jynglau lle maen nhw’n wynebu prinder difrifol o wasanaethau ac adnoddau sylfaenol fel bwyd a dŵr glân.

Serch yr heriau di-ri, mae elusennau DEC wedi bod yn gweithio ym Myanmar ers degawdau. Mae ganddynt sylfaen gref o bartneriaid lleol yn y cymunedau a effeithiwyd sy’n gallu ymateb yn gyflym. Mae yna angen taer am fwy o arian i ehangu eu gwaith a chyrraedd y bobl fwyaf agored i niwed.

SUT MAE AELOD-ELUSENNAU DEC YN YMATEB

Lloches

  • Sefydlu llochesau dan arweiniad y gymuned i’r cymunedau a effeithiwyd, menywod a phlant yn bennaf, fyw ynddynt.
  • Dosbarthu eitemau lloches brys ac eitemau nad ydynt yn fwyd.

Bwyd

  • Dosbarthu bwyd i gymunedau, i aelwydydd yn uniongyrchol neu drwy fentrau ymateb cymunedol.

Dŵr, glanweithdra a hylendid

  • Dosbarthu dŵr yfed glân.
  • Dosbarthu pecynnau glendid ac urddas gan ddefnyddio stoc a storiwyd yn rhywle ymlaen llaw.

Arian amlbwrpas

  • Mae aelodau wedi dechrau dosbarthu arian parod i aelwydydd.

Iechyd

  • Dosbarthu pecynnau cymorth cyntaf i wersylloedd a darparu gwasanaethau meddygol drwy glinigau symudol.
  • Dosbarthu meddyginiaethau brys a dyfeisiadau cynorthwyol fel cadeiriau olwyn.

Diogelu

  • Gwasanaethau iechyd meddwl i gymunedau a effeithiwyd gan y daeargryn.
  • Cymorth i blant a anafwyd gan y daeargryn.

LLYWIO AMGYLCHEDD HERIOL

Mae gan aelod-elusennau DEC bresenoldeb hirsefydlog ym Myanmar ac maen nhw eisoes yn cefnogi cymunedau sydd wedi’u heffeithio.

Roedd 14 o’r 15 o aelod-elusennau DEC eisoes yn gweithio ym Myanmar yn uniongyrchol neu drwy bartneriaid lleol a chenedlaethol, ac maen nhw yn y rhanbarthau a effeithiwyd waethaf gan y daeargrynfeydd. Maen nhw wrthi’n asesu’r sefyllfa gyda’u partneriaid lleol a chenedlaethol ar hyn o bryd, a rhai ohonynt eisoes yn dechrau ymateb pan fydd yr anghenion yn amlwg.

Mae partneriaid lleol yn rhan allweddol o unrhyw ymateb gan DEC. Mae gan aelod-elusennau DEC gysylltiadau lleol cryf â’r gymuned, arweinwyr crefyddol a hynafgwyr, ac maen nhw wedi negodi mynediad yn lleol er mwyn sicrhau y gallant gael cymorth i’r rheini sydd ei angen fwyaf. Mae’r cydberthnasau hyn yn helpu i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y derbynyddion dan sylw.

Mewn ymateb i’r prinder difrifol o wasanaethau ac adnoddau sylfaenol fel bwyd a dŵr glân, mae aelod-elusennau yn addasu yn barhaus i ddefnyddio’r holl lwybrau posibl i gael nwyddau i Myanmar. Maen nhw’n sefydlu warysau mwy datganoledig ac yn ehangu’r capasiti sydd ganddynt i storio cyflenwadau hanfodol.

SUT I GEFNOGI’R APÊL FRYS HON

Mae’r daeargrynfeydd pwerus hyn ym Myanmar wedi achosi difrod trychinebus. Mae goroeswyr angen cymorth hanfodol ar frys. Cyfrannwch nawr.

Sut i gyfrannu

I gyfrannu ar-lein *ewch i wefan DEC.

Ffôn: 0330 123 0555 (Codir ffioedd rhwydwaith safonol)

I roi £10, anfonwch y gair CYMORTH ar neges destun/SMS i 70727. (Bydd y neges yn costio £10 ynghyd â chyfradd safonol eich rhwydwaith)

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 25/04/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwirfoddolwyr mewn gwasanaethau iechyd meddwl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/04/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Gwerth economaidd eich mudiad mewn wasanaethau iechyd a gofal

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 24/04/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Nifer y mudiadau sy’n cau yn y sector gwirfoddol ar gynnydd

Darllen mwy