25 Mehefin 2026. Mae gwirfoddolwyr yn chwilio am oroeswyr mewn adeilad sydd wedi cwympo yn dilyn y ddau ddaeargryn yn nhalaith La Guaira, Venezuela.

DEC yn lansio apêl daeargryn Venezuela

Cyhoeddwyd : 09/07/26 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) wedi lansio apêl brys mewn ymateb i’r daeargrynfeydd trychinebus yn Venezuela wrth i aelod-elusennau ddarparu cymorth hanfodol ar lawr gwlad.

Mae dau ddaeargryn trychinebus wedi taro Venezuela. Chwalwyd adeiladau’n yfflon mewn munudau. Mae cannoedd o bobl wedi’u lladd, ac mae nifer y marwolaethau’n parhau i godi. Mae miloedd yn fwy wedi’u hanafu, ac mae ysbytai’r wlad dan bwysau eithriadol.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod miliynau o bobl wedi’u heffeithio, gyda mwy na dwy filiwn yn yr ardaloedd a gafodd eu taro waethaf.

Nawr mae’r rheini sydd wedi dod drwyddi angen lloches, bwyd, dŵr a gofal meddygol ar frys.

CRYNODEB O’R SEFYLLFA DDYNGAROL

Mae teuluoedd yn cysgu mewn pebyll dros dro ar y stryd. Mae gwifrau trydan a ffyrdd wedi’u dinistrio, ac ni all pobl gael cyflenwadau hanfodol. Mae elusennau DEC a’u partneriaid lleol wedi bod yn gweithio yn Venezuela ers blynyddoedd maith ac fe wnaethant ymateb yn gyflym ar ôl i’r daeargrynfeydd daro.

Roedd Venezuela eisoes yn wynebu argyfwng economaidd difrifol cyn y daeargrynfeydd. Nawr, mae’r anghenion yn aruthrol.

Gall eich cefnogaeth chi fod yn achubiaeth i deuluoedd wedi’u heffeithio gan yr argyfwng trychinebus hwn.

MAE ANGEN I AELOD-ELUSENNAU DEC GYNYDDU GRADDFA EU HYMATEB YN GYFLYM

Mae 14 o aelod-elusennau DEC naill ai’n ymateb neu’n bwriadu ymateb yn weithredol yn Venezuela, gan ddangos gallu gweithredol cryf ar draws yr aelodaeth.

Maen nhw’n rhoi triniaeth feddygol frys, yn dosbarthu prydau a basgedi bwyd, ac yn sicrhau bod gan bobl fynediad at ddŵr yfed glân. Bydd mwy o arian yn eu helpu i gyrraedd mwy o deuluoedd mewn angen ar y ffordd hir i adferiad ar ôl yr argyfwng hwn. Er na wyddys union faint y difrod eto, mae hwn yn drychineb dyngarol sylweddol a fydd yn gofyn am ymateb hirdymor sylweddol.

ANGHENION MWYAF BRYS

Lloches, bwyd, dŵr, a gofal meddygol:

Gall £10 ddarparu cyflenwad o nwyddau hylendid hanfodol i deulu er mwyn atal salwch.

Gall £25 helpu i roi wythnos o gymorth bwyd brys i deulu.

Gall £50 ddarparu pecynnau lloches i dri theulu sydd wedi colli’u cartrefi.

SUT I GYFRANNU

Ar-lein: *dec.org.uk

Ffôn: 0370 60 60 900 (codir tâl rhwydwaith safonol).

Tecst/SMS i roi: Tecstiwch HELPU neu SUPPORT i 70150 i roi £10. (bydd tecst yn costio £10 + cyfradd safonol eich rhwydwaith).

Anfonwch siec drwy’r post i: DEC Venezuela Earthquake Appeal, PO Box 999, London EC3A 3AA. I weld yr holl delerau ac amodau ewch i *dec.org.uk.

 

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 16/07/26
Categorïau: Newyddion

CGGC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru: yn cydweithio ar gyfer iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 14/07/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Datganiad CGGC: Hawl y Gymuned i Brynu

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/07/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cronfa newydd i Gymru: cynnydd, cyfleoedd a chamau nesaf

Darllen mwy