Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn adeg i ddathlu! Cynhelir yr wythnos bob blwyddyn rhwng 1-7 Mehefin, ac mae’n gyfle i ni ddathlu ein gwirfoddolwyr – dyma’r adeg berffaith i ddiolch i’ch gwirfoddolwyr.
Mae hefyd yn gyfle i amlygu’r gwahanol rolau a gweithgareddau gwirfoddol sydd i gael, gan ddangos ffyrdd y gall pobl wirfoddoli yn eu cymunedau lleol.
Dyma’r adeg lle mae gan bobl gyfle i ddangos eu gwerthfawrogiad o’r bobl sy’n rhoi o’u hamser i achosion da am ddim bob blwyddyn, gan helpu i gyfrannu at ein diwylliant cyfoethog ac amrywiol.
Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr i iechyd a llesiant Cymru, ac un o’r pethau gwych am wirfoddoli yw sut mae’n dod â phobl at ei gilydd – pobl na fyddech chi o reidrwydd yn dod ar eu traws fel arall.
Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru i amlygu a dathlu gwaith ein gwirfoddolwyr.
Bydd sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru yn diolch i’w gwirfoddolwyr presennol mewn gwahanol ffyrdd yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr, ac yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus i ddenu mwy o wirfoddolwyr.
Anogir sefydliadau sy’n trefnu digwyddiadau lleol yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr i gofrestru eu gweithgareddau ar wefan swyddogol Wythnos y Gwirfoddolwyr.
Rhannwch eich straeon gyda’r hashnod #WythnosyGwirfoddolwyr