Mae dwy fenyw ifanc yn gwenu ac yn chwerthin wrth iddyn nhw sefyll gyda phropiau llun oren Wythnos Gwirfoddolwyr, mae gan un y logo Saesneg, un y logo Cymraeg

Dathlwch wirfoddolwyr anhygoel Cymru yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr yma!

Cyhoeddwyd : 26/05/26 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

1 – 7 Mehefin yw Wythnos Gwirfoddolwyr, yr ymgyrch flynyddol ledled y DU i ddathlu a chydnabod cyfraniadau gwirfoddolwyr.

Byddwn yn ymuno â gweddill y DU i ddathluWythnos Gwirfoddolwyr. Mae’n amser i fyfyrio, gwerthfawrogi, ac yn bwysicaf oll – dweud diolch. Dyma sut i gymryd rhan yn Wythnos Gwirfoddolwyr 2026.

DIOLCH SYML

Gwyddom mai gwirfoddolwyr yw hanfod cymunedau. P’un a ydyn nhw’n mentora pobl ifanc, yn clirio llwybrau troed, yn cynnal banciau bwyd, neu ond yn cynnig llais cyfeillgar ar y ffôn, mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy.

Ond nid oes angen cydnabyddiaeth fawreddog. Gall cerdyn syml o ddiolch, sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, neu hyd yn oed rhannu paned a sgwrs wneud byd o wahaniaeth a gwneud i rywun deimlo’n werthfawr, a gwybod ei fod yn bwysig.

Dyma’r amser perffaith i feddwl am yr hyn y gallwch ei wneud i ddangos gwerthfawrogiad i’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud yn bosibl i’ch mudiad lwyddo, nid yn unig yn ystod yr wythnos ymgyrchu genedlaethol hon, ond trwy gydol y flwyddyn.

DANGOS EICH GWERTHFAWROGIAD

Gallech chi:

  • Ddweud ‘diolch’ yn uniongyrchol wrth wirfoddolwr – yn aml gall y dulliau symlaf, lleiaf wneud y gwahaniaeth mwyaf
  • Rhannu adborth gyda gwirfoddolwyr am yr effaith y mae gwirfoddolwyr yn eich mudiad yn ei chael
  • Anfon nodyn personol gan Gydlynydd Gwirfoddolwyr, y Prif Swyddog Gweithredol, ymddiriedolwr, neu fuddiolwr
  • Gwneud amser i gael paned a sgwrs gyda gwirfoddolwr
  • Rhannu stori gwirfoddolwr ar eich gwefan neu gyfryngau cymdeithasol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n tagio #WythnosGwirfoddolwyr a #VolunteersWeek.

CYMRYD RHAN

Gadewch i ni wneud yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon yn un i’w chofio – un sy’n dangos i wirfoddolwyr eu bod yn wirioneddol bwysig, yn dathlu eu cyfraniadau, ac yn agor drysau newydd i hyd yn oed mwy o bobl gymryd rhan.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Wythnos Gwirfoddolwyr.

CREU PROFIADAU GWIRFODDOLI O ANSAWDD

Y ffordd orau o ddangos eich bod yn gwerthfawrogi eich gwirfoddolwyr yw buddsoddi’r amser mewn creu profiadau gwirfoddoli o ansawdd uchel sy’n bodloni eu galluoedd, cymhellion a dyheadau unigol orau. Gwnewch yn siŵr bod eich cyfleoedd gwirfoddoli yn gyfleoedd i wirfoddolwyr deimlo’n ddiogel, wedi’u cynnwys a bod croeso iddynt.

I wybod beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol, edrychwch ar y Cod Ymarfer ar gyfer Cynnwys Gwirfoddolwyr, y gyfres o adnoddau gwirfoddoli ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru a’r safonau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyrgwobr arfer dda, y gellir ei defnyddio fel meincnod.

CAEL CYDNABYDDIAETH GENEDLAETHOL I’CH GWIRFODDOLWYR!

Mae ein Gwobrau Elusennau Cymru ar agor ar gyfer enwebiadau ar hyn o bryd tan 30 Mehefin 2026. Rydym yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniadau gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau dielw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru. Mae gennym ddau gategori gwirfoddolwyr:

  • Gwirfoddolwr y flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu hŷn)
  • Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (25 oed neu iau)

Mae gennym hefyd gategori newydd sbon ar gyfer unigolion sydd wedi gwneud effaith eithriadol a pharhaol ar y sector gwirfoddol yng Nghymru, Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield.

Dysgwch fwy ac enwebwch.

GWEMINAR GWYBODAETH

3 Mehefin 2026, 11am – 12.30pm

​Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr 2026, rydym yn gwahodd sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ledled Cymru i ymuno â’r weinar Gweminar Gwybodaeth 90 munud hon. Mae’r sesiwn hon yn gyfle i wrando ar ddysgu gan eraill, clywed lleisiau a phrofiadau byw, a chasglu syniadau ymarferol i gryfhau’r ffordd rydych yn croesawu, yn cynnwys ac yn cefnogi gwirfoddolwyr.

Dysgwch fwy.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/06/26
Categorïau: Gwirfoddoli

Dathlu gwirfoddolwyr mewn chwaraeon yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/03/26
Categorïau: Cyllid, Gwirfoddoli, Newyddion

‘Galla’ i fod yn fi fy hun’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/02/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Ymunwch â’n rhwydwaith ymddiriedolwyr

Darllen mwy