Wrth i’r Wythnos Gwirfoddolwyr agosáu, mae mudiadau ar hyd a lled Cymru yn paratoi i ddathlu cyfraniadau gwirfoddolwyr yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Waeth a yw hynny’n ymwneud â chynnig cwmnïaeth mewn cartrefi gofal, tywys cleifion drwy goridorau’r ysbyty, cefnogi pobl â’u hanghenion iechyd meddwl neu estyn help llaw mewn hybiau cymunedol lleol, mae gwirfoddolwyr wrth wraidd gofal.
Mae’r gweithrediadau bob dydd hyn o garedigrwydd yn adeiladu cymunedau cryfach ac iachach ledled Cymru.
YMDDIRIEDOLAETH GIG PRIFYSGOL FELINDRE: NODI CARREG FILLTIR
Eleni, mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn dathlu blwyddyn ers i wirfoddolwyr ddychwelyd i’w Ganolfan Ganser ar ôl y pandemig. Diolch i grant gan CGGC, cafodd y rhaglen wirfoddoli ei hail-lansio ac ehangodd yn gyflymach na’r disgwyl. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae gwirfoddolwyr wedi rhoi mwy na 4,000 o oriau o wasanaeth, gan ddod â chysur a chryfder i gleifion a staff fel ei gilydd. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn canmol eu hymdrechion gyda negeseuon diolch, storïau a rennir a bore coffi arbennig gydag arweinwyr yr Ymddiriedolaeth.
DOD Â GWIRFODDOLWYR ROBIN YNGHYD
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bydd cyfres o ddigwyddiadau dathlu rhanbarthol yn dod â’u Gwirfoddolwyr Robin ynghyd i ddweud diolch ac yn cynnig cyfle i rannu storïau ac adeiladu cysylltiadau, gyda digwyddiadau blaenorol yn derbyn adborth twymgalon. ’Roedd e’n syniad hyfryd… rwy’n edrych ymlaen yn fawr at bob sifft rydw i’n ei wneud,’ rhannodd Paul M. Ychwanegodd Linda, ’Roedd e’n gyfarfod bach hyfryd ac yn gyfle gwych i gwrdd â Robiniaid brwdfrydig eraill.’
Mae byrddau iechyd, awdurdodau lleol a mudiadau o’r sector gwirfoddol wrthi’n cynllunio digwyddiadau, ymgyrchoedd diolch a storïau amlygu sy’n dangos y ffyrdd di-ri y mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu.
WYTHNOS GENEDLAETHOL O DDIOLCH AC YSBRYDOLIAETH
Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn fwy nag amser i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi’i roi, mae hefyd yn gyfle i ysbrydoli pobl newydd i gymryd rhan.
Waeth a ydych chi’n wirfoddolwr ers tro byd neu’n ystyried gwirfoddoli am y tro cyntaf, yr wythnos hon yw’r amser i ddathlu cymuned, gofal a chysylltiad. Dewch i ni gymryd ennyd i ddiolch i’r holl wirfoddolwyr sy’n rhoi cymaint ac i gydnabod y gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud bob dydd.
GWERTHFAWROGI GWIRFODDOLWYR
BWRDD IECHYD PRIFYSGOL HYWEL DDA
Rydym ni eisiau estyn diolch twymgalon i ymrwymiad di-syfl ein gwirfoddolwyr. Mae eich ymrwymiad i wella profiad y claf drwy gyfeillio, garddio a lliaws o rolau eraill yn ysbrydoledig. Ein gwirfoddolwyr yw arwyr di-glod ein cymuned, yn cynnig eu hamser, eu hegni a’u tosturi i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill bob dydd. Diolch.
Rydym wrth ein boddau i fod yn dathlu ein gwirfoddolwyr anhygoel ledled y siroedd gyda digwyddiadau ar safle pob ysbyty. Byddwn yn dod ynghyd gyda the a chacen i ddathlu cyfraniadau syfrdanol ein gwirfoddolwyr ac i gydnabod eu gwasanaeth amhrisiadwy. Ynghyd â hyn, mae ein Cadeirydd, Dr Neil Wooding, wedi ysgrifennu llythyr at ein gwirfoddolwyr yn amlygu’r effaith ddofn y maen nhw’n ei chael ar fywydau pobl eraill bob dydd.
BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BAE ABERTAWE
Yr Wythnos Gwirfoddolwyr yw’r adeg berffaith i daflu goleuni ar y gwaith gwych y mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud ar draws y bwrdd iechyd. Diolchwn o galon iddynt am bopeth y maen nhw’n eu gwneud – rydyn ni’n llawn edmygedd o’u hymroddiad a’u hymrwymiad. Maen nhw’n gwella profiad cleifion bob dydd drwy fynd yr ail filltir a chynnig y pethau bach hynny sy’n werth y byd, pan fydd ar gleifion a’u teuluoedd eu hangen mwyaf.
Fel rhan o’r ddathliadau, gwahoddwn aelodau o’n tîm gweithredol i gymryd rhan yn ’Rheolwr Cudd’.
Rydym wedi bod yn cynnal y gweithgaredd hwn ers nifer o flynyddoedd yn ystod yr wythnos gwirfoddolwyr ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae’n rhoi’r cyfle i aelodau o’r uwch dîm arwain weld yr effaith amhrisiadwy y mae gwirfoddolwyr yn ei chael ar brofiad y claf drwy wisgo crys polo gwirfoddolwr a gwneud y rôl eu hunain, yn ogystal â gweld gwirfoddolwyr ar waith yn ystod yr wythnos. Mae gwirfoddoli ochr yn ochr ag aelodau o’r tîm gweithredol yn helpu gwirfoddolwyr i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u clywed.
Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau coffi a chacen drwy gydol yr wythnos sy’n rhoi’r cyfle i ni ddweud diolch.
BWRDD IECHYD PRIFYSGOL CWM TAF MORGANNWYG
Hoffem ni fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bob un o’n gwirfoddolwyr yn yr ysbyty. Mae’r ymroddiad a’r ymrwymiad a ddangosir i’w glodfori ac mae’r amser y maen nhw’n ei roi i gefnogi ein cleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff yn weithred anhunanol heb os. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i wella profiad cleifion ac mae’n ategu gwaith ein staff. Diolch i holl wirfoddolwyr ein hysbyty.
Cynlluniau ar gyfer yr Wythnos Gwirfoddolwyr:
- Hyrwyddo gwirfoddolwyr, storïau gwirfoddolwyr, prosiectau gwirfoddoli, cyfleoedd gwirfoddoli presennol, lluniau o wirfoddolwyr a diweddariadau
- Cwrdd â gwirfoddolwyr am baned a sgwrs ar draws y Bwrdd Iechyd
- Hybu’r cymorth a’r gwahaniaeth syfrdanol y mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud trwy erthyglau a chylchlythyrau Canolfannau Gwirfoddoli Cymunedol
- Cynnal cyfweliad gyda gorsaf radio leol a ddarlledir gan wasanaeth gwirfoddoli a mentor gwirfoddol ar gyfryngau cymdeithasol a thudalen we gwirfoddoli
BWRDD IECHYD PRIFYSGOL CAERDYDD A’R FRO
Hoffem ni estyn ein diolchgarwch diffuant i bob un o’n gwirfoddolwyr. Mae eu haelioni, ymrwymiad a’u hymroddiad yn gwbl amhrisiadwy. Mae eu hymdrechion yn cyflwyno gwerth aruthrol i bopeth a wnawn. Mae’r tosturi a’r positifrwydd y maen nhw’n eu rhannu’n ganolog i’n cenhadaeth ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu hymroddiad.
Ar gyfer Wythnos Gwirfoddolwyr eleni, rydym yn amlygu Pŵer Gwirfoddoli. Byddwn yn rhannu fideos, negeseuon o ddiolch a storïau gwirfoddolwyr ar draws platfformau ein cyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys negeseuon o ddiolch gan y Prif Swyddog Gweithredol, Suzanne Rankin, y Cadeirydd, Charles Janczewski a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Profiad y Claf, Angela Hughes, a bydd hefyd darlleniad o gerdd arbennig.
Byddwn yn cloi’r wythnos gyda’n Digwyddiad Diolch i Wirfoddolwyr blynyddol lle bydd cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi, cacennau yn cael eu cynnig a lle byddwn yn diolch i’r gwirfoddolwyr. Mae’r digwyddiad yn gyfle i wirfoddolwyr gwrdd â’i gilydd, cymdeithasu a dathlu, ac yn gyfle i amlygu eu cyflawniadau dros y 12 mis diwethaf.
BWRDD IECHYD PRIFYSGOL ANEURIN BEVAN
Estynnwn ein diolchgarwch diffuant i bob un o’n gwirfoddolwyr, ac i fudiadau’r trydydd sector a’r sector gwirfoddol, sy’n cefnogi ein cleifion, eu hanwyliaid a’n staff ar draws y Fwrdd Iechyd. Diolch am eich ymroddiad anhygoel, eich ymrwymiad di-syfl a’ch haelioni. Mae eich amser, egni a’ch tosturi yn cael effaith barhaol, ac rydym yn ddiolchgar tu hwnt am bopeth rydych chi’n ei wneud!
Yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr, byddwn yn ymweld â 10 safle ledled Gwent am baned a chacen i ddweud diolch i’n gwirfoddolwyr.
RHAGOR O WYBODAETH
Adnoddau’r Wythnos Gwirfoddolwyr Genedlaethol