Wrth i ni edrych yn ôl ar gyfnod cyllido 2022-25 Cynllun Grant Cymru ac Affrica, rydym yn falch o rannu’r effaith anhygoel y mae’r prosiectau hyn wedi’i chael.
Mae Cynllun Grant Cymru ac Affrica yn cefnogi partneriaethau rhwng mudiadau yng Nghymru ac Affrica i drechu heriau byd-eang, rhannu sgiliau a hybu dysgu o’i gilydd.
PRIF EFFAITH
Yn ystod y cyfnod cyllido hwn, dyfarnodd Cynllun Grant Cymru ac Affrica £867,999 mewn grantiau i 47 o brosiectau, gan wella llesiant mwy na 45,000 o bobl. Cyfrannodd mwy na 4,080 o wirfoddolwyr, gan greu 329 o gysylltiadau newydd rhwng cymunedau yng Nghymru ac Affrica.
Mae’r effaith yn cwmpasu pedair thema strategol:
- Iechyd – Gwella mynediad at ofal iechyd a chryfhau sgiliau proffesiynol drwy gyfnewidfeydd hyfforddi rhyngwladol.
- Bywoliaethau cynaliadwy – Cefnogi prosiectau diogelu bwyd a mentergarwch, tra bod partneriaid yng Nghymru yn cael mewnwelediad i heriau cynaliadwyedd byd-eang.
- Dysgu gydol oes – Gwella addysg i filoedd o bobl yn Affrica a chael 48,877 o blant ysgol yng Nghymru i gymryd rhan mewn gweithgareddau dinasyddiaeth byd-eang.
- Newid i’r amgylchedd a’r hinsawdd – Cysylltu gweithredu ar yr hinsawdd yng Nghymru â phrosiectau egni adnewyddadwy a phlannu coed yn Affrica.
UCHAFBWYNTIAU’R PROSIECT
Y tu ôl i’r ffigurau hyn mae storïau newid ysbrydoledig. Bu llawfeddygon o Gymru yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Ysbyty Panzi yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo i ddatblygu modelau hyfforddi llawfeddygol newydd ar gyfer pobl sydd wedi goresgyn trais rhywiol yn ymwneud â gwrthdaro. Gwnaeth y profiad gyfoethogi eu haddysgu a’u harferion yng Nghymru.
Gwnaeth adeiladu cyfleusterau golchi i 300 o ddisgyblion ac athrawon yn Uganda roi profiad ymarferol gwerthfawr i fyfyrwyr peirianneg o Gymru a’u paratoi nhw ar gyfer prosiectau rhyngwladol yn y dyfodol.
Gwnaeth mentrau amgylcheddol hefyd greu cyfleoedd i gymunedau yng Nghymru. Er enghraifft, gwnaeth Siopau Hinsawdd Treeflights yng Nghymru leihau gwastraff a chodi arian i blannu coed yn Kenya, gan gysylltu gweithredu ar yr hinsawdd gartref ag effaith fyd-eang.
DYSGWCH FWY
Mae’r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad partneriaid yng Nghymru ac Affrica i greu newid parhaol a chryfhau cydgefnogaeth fyd-eang.
Gallwch ddarllen yr adroddiad effaith llawn a darganfod mwy o straeon ysbrydoledig ar ein tudalen we Cymru ac Affrica.