Ar ôl degawd o gynorthwyo mudiadau gwirfoddol i wella eu harferion effaith, bydd y fenter DU gyfan, Ennyn Effaith, yn cau ar ddechrau 2022.
Daeth rhaglen Ennyn Effaith i fodolaeth ar ôl ‘uwchgynhadledd effaith’ yn 2011, lle y gwnaeth 30 o arweinwyr o’r maes mesur effaith gymdeithasol ddod ynghyd i drafod yr hyn a oedd ei angen i ymwreiddio arferion effaith ledled sector cymdeithasol y DU. Wrth edrych yn ôl ar y blynyddoedd, mae Ennyn Effaith wedi helpu i gyflawni rhywfaint o’r weledigaeth a osodwyd yn yr uwchgynhadledd honno ac mae gan y rhaglen gymaint i fod yn falch ohono.
Gwnaeth CGGC ymuno â’r bartneriaeth yn 2017, gan ymgymryd â rôl yr arweinydd rhwydwaith cymheiriaid ar gyfer Cymru yn 2018. Ers hyn, mae CGGC wedi cynnal nifer di-ri o weminarau a digwyddiadau am ddim, gan roi gwybodaeth, adnoddau a chyfleoedd rhwydweithio i fudiadau gwirfoddol er mwyn gwella eu harferion effaith. Bu’r prosiect yn boblogaidd iawn yng Nghymru, gyda mwy a mwy o gyfranogwyr yn mynychu’r digwyddiadau rhwng 2018 a 2021. Yn ystod yr adeg hon, gwnaethon ni hefyd weithio gyda’n partneriaid yn y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) i ledaenu gwybodaeth am y prosiect i fudiadau ar hyd a lled Cymru.
Fel partner yn y rhaglen, mae CGGC yn ddiolchgar tu hwnt am yr amrediad eang o elusennau, cyllidwyr a mentrau cymdeithasol ar hyd a lled y DU sydd wedi cyfrannu at y rhaglen, a gwneud y rhaglen yn bosibl drwy gydol yr amser hwn.
Byddwn ni’n ymuno â’r partneriaid am ddigwyddiad cloi ar 22 Chwefror a fydd yn dathlu popeth sydd wedi’u cyflawni drwy Ennyn Effaith, yn edrych ar sut mae’r sector wedi newid yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf ac yn ystyried sut gallwn ni adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o’r rhaglen a’i hetifeddiaeth yn y dyfodol.
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Chwefror 2022
Amser: 2 pm – 3.30 pm
Lleoliad: Zoom
Cofrestrwch ar wefan NPC i ymuno â ni (am ddim) (Saesneg yn unig).
Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at y tîm digwyddiadau yn NPC (events@thinkNPC.org).
Partneriaid Ennyn Effaith yw NPC, Social Value UK, NCVO, Evaluation Support Scotland (ESS), y Rhwydwaith Datblygu ac Iechyd Cymunedol ac CGGC.