Mae Wythnos Natur Cymru yn cael ei chynnal rhwng 29 Mai a 6 Mehefin eleni. Darganfyddwch sut gallwch chi gymryd rhan a’n helpu ni i ddathlu’r amrywiaeth eang o gynefinoedd naturiol sydd gan Gymru.
Mae byd natur o’m cwmpas ni i gyd, a hynny ar drothwy ein drws, ond yn aml byddwn ni’n cymryd y bywyd gwyllt prydferth hwn yn ganiataol. Mae hyn wedi dod yn fwy eglur yn ddiweddar, gyda chyfyngiadau COVID yn ein hannog i fanteisio ar fannau gwyrdd lleol a gwerthfawrogi harddwch ein natur leol.
Felly dewch i ymuno â ni rhwng 29 Mai a 6 Mehefin i ddathlu cynefinoedd gwych Cymru. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddarganfod natur ar drothwy eich drws, pwy sy’n byw yno a’r hyn y gallwch chi ei wneud i helpu!
Eleni, rydyn ni’n rhoi sylw i wahanol gynefinoedd pob dydd, a’r rhywogaethau y maen nhw’n eu cefnogi. Bydd ein cymuned o arbenigwyr wrth law drwy gydol Wythnos Natur Cymru i ateb eich cwestiynau a chynnig syniadau sy’n ymwneud â natur er mwyn sicrhau eich bod yn cael hwyl ac yn dysgu pethau wrth gymryd rhan!
DIGWYDDIADAU WYTHNOS NATUR CYMRU
Eleni, rydyn ni’n mynd ag Wythnos Natur Cymru ar-lein gyda gweithgareddau rhyngweithiol fel Bioblitz Gerddi Cymru, y Cwis Natur Mawr, sesiynau holi ac ateb ar gyfryngau cymdeithasol a llawer mwy!
Gan mai thema Wythnos Natur Cymru yw Cynefinoedd yng Nghymru, byddwn ni’n rhoi sylw i wahanol gynefin bob dydd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n hoffi Partneriaethau Natur Lleol Cymru ar Facebook a chofrestrwch ar gyfer y digwyddiadau ar y dolenni isod er mwyn osgoi colli allan!
29 Mai: Bioblitz Gerddi Cymru
Yn ystod y diwrnod, cofnodwch yr holl rywogaethau y byddwch chi’n dod o hyd iddynt yn eich gardd am 24 awr er mwyn creu ciplun o rywogaethau cenedlaethol. Cyflwynwch eich cofnodion drwy Ap Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (LERC) ac ymunwch â’r hwyl ar Twitter a Facebook gan ddefnyddio #WalesGardenBioBlitz21 i rannu eich canlyniadau!
30 Mai: Cynefin Coetiroedd
Rydyn ni’n neilltuo’r diwrnod hwn i’n coetiroedd! Ymunwch â ni am helfa trychfilod coetir, dosbarth adnabod coed a fideo addysgiadol gan Goedwigoedd Glaw Celtaidd.
31 Mai: Cynefin Gwlypdiroedd
I ddathlu ein cynefinoedd gwlypdir yng Nghymru, ymunwch â sesiwn holi ac ateb ar weision y neidr a mursennod gan Gymdeithas Gweision y Neidr Prydain a sesiwn bwlldrochi gyda Gwarchodfa Natur Dyffryn Canolog. Ac i orffen y diwrnod, cymerwch ran yn y Cwis Natur Mawr gan Ganolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru!
1 Mehefin: Cynefin Dolydd/Tir Fferm
Ar y diwrnod hwn, byddwn ni’n rhoi sylw i’n cynefinoedd dolydd gwerthfawr gyda thaith gerdded rithiol i weld rhywogaethau dolydd a syniadau ar reoli dolydd cymunedol.
2 Mehefin: Cynefin Mawndiroedd
Dysgwch fwy am bwysigrwydd cynefinoedd mawndir yng Nghymru gyda fideos gan Brosiect Mawndiroedd Cymru a’r Prosiect Mawndiroedd Coll.
3 Mehefin: Cynefin Morol ac Arfordirol
Ar y diwrnod hwn byddwn yn canolbwyntio ar ein cynefinoedd arfordirol a morol syfrdanol gyda fideo i bobl sy’n dechrau chwilota mewn pyllau glan môr a ffilm fer addysgiadol ar gynefinoedd twyni tywod yng Nghymru.
4 Mehefin: Cynefin Trefol
Dysgwch fwy am bwysigrwydd cynefinoedd trefol gyda saffari trefol a ffilm fer yn arddangos waliau gwyrdd ar adeiladau mewn dinasoedd.
5 Mehefin: Arddangosfa LNP Cymru
Mae arddangosfa LNP Cymru yn lle gwych i ddysgu mwy am y prosiectau LNP a’u heffaith, rôl cydlynwyr, a sut gallwch chi gymryd rhan. Mae’r diwrnod hwn hefyd yn cyd-fynd â Diwrnod Amgylchedd y Byd ac rydyn ni’n uno â’r Wythnos Gwirfoddolwyr i ddathlu gwirfoddoli amgylcheddol ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn diolch i wirfoddolwyr sy’n gwneud y blaned yn lle gwell.
6 Mehefin: Natur a Llesiant
Rydyn ni’n dod ag Wythnos Natur Cymru i ben y ffordd iawn – drwy ymlacio! Gall treulio amser ym myd natur gael effaith gadarnhaol ar lesiant ac iechyd meddwl ac rydyn ni eisiau i chi rannu eich syniadau a’ch straeon ar gynnal llesiant ym myd natur.
Ymunwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol drwy’r wythnos drwy ddefnyddio #WNW2021 a #WythnosNaturCymru2021. Mae’r rhaglen lawn yma.
Pecyn Ymgyrch
Rydyn ni wedi llunio pecyn ymgyrch sy’n cynnwys popeth sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan yn Wythnos Natur Cymru a’i hyrwyddo. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw lawrlwytho copi yma ac ymuno â’r hwyl!
PARTNERIAETHAU NATUR LLEOL
Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u trefnu gan Brosiect Partneriaeth Natur Leol (LNP) Cymru. Mae menter LNP Cymru yn brosiect tair blynedd sy’n rhedeg tan fis Ebrill 2022, a gaiff ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a’i gydlynu gan CGGC. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys holl awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol Cymru, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, CGGC a’r Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol. Nod y prosiect yw adeiladu rhwydwaith adfer byd natur ar hyd a lled Cymru, gan annog pobl, cymunedau, busnesau a phenderfynwyr i gymryd camau ymarferol a chreu cynlluniau strategol ar gyfer Cymru iach, wydn sy’n gyfoeth o fyd natur.