Mae Wythnos Addysg Oedolion yn digwydd rhwng 9 a 15 Medi 2024, dyma sut y gallwch chi gymryd rhan ac ymuno â’r dathliadau.
Wedi’i chydlynu gan y Sefydliad Addysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, cynhelir Wythnos Addysg Oedolion ym mis Medi 2024.
YR YMGYRCH
Nod yr ymgyrch yw cysylltu pobl ag ystod eang o gyfleoedd dysgu, dangos manteision addysg oedolion a dathlu cyflawniadau pobl, prosiectau a mudiadau yng Nghymru sy’n hyrwyddo ac yn cymryd rhan mewn dysgu a sgiliau.
Bydd Wythnos Addysg Oedolion yn ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb oedolion i gymryd cam yn ôl i ddysgu er mwyn:
- gwella eu hyder a’u lles
- newid gyrfa a gwneud cynnydd yn y gwaith
- darganfod hobïau newydd a chysylltu â phobl eraill
- ceisio cyngor ac arweiniad ar y llwybrau presennol sydd ar gael iddynt
Caiff hyn ei gyflawni drwy gydweithio â phartneriaid yr ymgyrch ar draws y sector i hyrwyddo digwyddiadau, cyrsiau a sesiynau blasu ar-lein, byw ac wyneb yn wyneb, diwrnodau agored, adnoddau a chyngor ac arweiniad ar yrfaoedd.
MIS O DDYSGU
Bydd mis Medi i gyd yn cael ei glustnodi i gyfeirio at wybodaeth am ddigwyddiadau a chyrsiau, dathlu cyflawniadau pobl, prosiectau a mudiadau, a chodi proffil dysgu gydol oes. Mae’r Sefydliad Addysgu a Gwaith yn gwahodd mudiadau o sectorau lluosog i gynllunio a chofrestru eu gweithgareddau, a fydd yn cael eu hyrwyddo fel rhan o’r ymgyrch aml-gyfrwng ledled Cymru.
SUT I GYMRYD RHAN
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud:
- Cynnal digwyddiad neu gwrs – Darparwch gyfleoedd dysgu ar-lein neu wyneb i wyneb ar gyfer oedolion drwy gydol mis Medi, cofiwch gofrestru eich gweithgareddau ar wefan ymgyrch yr Wythnos Addysg Oedolion
- Hyrwyddo eich darpariaeth – Rhannwch wybodaeth ar y cyfleoedd a’r llwybrau presennol neu i ddod sydd ar gael i oedolion ail-hyfforddi ac uwchsgilio
- Amlygu eich gwaith – Rhannwch eich ymchwil, ysgrifennwch erthygl neu rhowch syniadau newydd ar waith i godi proffil addysg oedolion yng Nghymru
- Dathlu dysgwyr – Rhannwch straeon oedolion sy’n ddysgwyr a’u llwyddiannau
- Ymuno â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol – Byddwch yn rhan o’r dathliad a’r sgwrs genedlaethol am ddysgu gydol oes a gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r hashnodau #paidstopiodysgu #wythnosaddysgoedolion
RHAGOR O WYBODAETH
Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i wefan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.