Gyda chymorth Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru, canolbwyntiodd prosiect arloesol Sported ar adeiladu capasiti ac effaith gwirfoddoli ar bob lefel o’r byd chwaraeon cymunedol.
TROSOLWG
Yn 2025, llwyddodd Sported i gyflwyno Prosiect Gwirfoddoli Strategol Cymru, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) drwy Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru. Ei nod oedd adeiladu capasiti ac effaith gwirfoddoli ar lefel bwrdd, ymddiriedolwyr a rheolwyr yn y maes chwaraeon cymunedol ledled Cymru, a chynnwys mwy o bobl o gefndiroedd mwy amrywiol.
Cafodd ei gyflwyno mewn cydweithrediad â nifer o fudiadau: CGGC, Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA), Chwaraeon Cymru, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru a Streetgames.
ARWAIN Â GWELEDIGAETH A THYSTIOLAETH
Gwnaeth Sported lywio’r prosiect drwy ddau gam:
- Edrych ar y dirwedd gwirfoddoli mewn chwaraeon cymunedol
- Datblygu a chyflwyno adnoddau i gefnogi ac arwain y sector
Siaradodd Sported â llawer o grwpiau, gan gynnwys grwpiau cymunedol, pobl ifanc, arweinwyr o’r sector gwirfoddol a phartneriaid strategol. Roedd y datrysiadau ar sail gwybodaeth, yn gynhwysol ac yn gallu cael eu gweithredu ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
MEITHRIN CYDWEITHREDIAD
Roedd Sported eisiau creu cysylltiadau, rhannu gwybodaeth ac adeiladu capasiti drwy:
- Alluogi cyd-gynhyrchu a chydweithio gan y sector chwaraeon a gwirfoddol ehangach, a
- Chanolbwyntio sgyrsiau a helpu i symleiddio ac egluro her gymhleth sy’n wynebu’r sector.
Gwnaeth y strategaeth hon sicrhau bod yr elfennau hynny o wirfoddoli mewn rolau arwain, a oedd yn aml yn rhai cymhleth, yn cael eu hystyried ar draws yr holl sector, gan gryfhau gwead cyffredinol y sector chwaraeon cymunedol.
GRYMUSO LLEISIAU HEB GYNRYCHIOLAETH DDIGONOL
Roedd hi’n bwysig ymhél â phobl ifanc ac unigolion o gymunedau a ymyleiddiwyd a chefnogi’r amrywiaeth a’r cynhwysiant o wirfoddoli mewn rolau arwain. Siaradodd Sported â llawer o arbenigwyr mewn mudiadau cenedlaethol a oedd yn canolbwyntio ar ieuenctid a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) i gasglu eu barnau.
‘Mae bod yn rhan o’r prosiect hwn wedi bod yn hanfodol i lunio cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc mewn chwaraeon yn y dyfodol,’ meddai Rhiannon Sheed De Jesus, Rheolwr Systemau Llais Ieuenctid a Chwaraeon yn StreetGames Cymru.
‘Roedd StreetGames yn awyddus i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc o gymunedau heb lawer o wasanaethau yn cael eu clywed er mwyn helpu i lunio’r datrysiadau drwy brosiect Sported.’
Y DYFODOL
Ond nid oedd yn ymwneud â theori a chasglu tystiolaeth yn unig – mae’r prosiect yn symud nawr i gam gweithredu er mwyn rhoi’r argymhellion hyn ar waith, dan arweiniad Rheolwr Partneriaethau Sported, Polly Crook. Bydd angen i bartneriaid y sector gysylltu a chydweithio, gan ddod â datrysiadau yn fyw er mwyn meithrin arweinyddiaeth ddigonol yn y sector a rhannu gwybodaeth ac adnoddau er lles pawb.
Gobeithir y bydd y gwaith parhaus hwn yn helpu i ymwreiddio arferion cynhwysol, datgloi potensial heb ei gyffwrdd a chryfhau llywodraethiant a chynaliadwyedd mudiadau lleol.
YNGLŶN Â GRANTIAU STRATEGOL GWIRFODDOLI CYMRU
Caiff Cynllun Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan CGGC. Mae derbynyddion y grantiau wedi dangos sut gall meddwl am wirfoddoli mewn modd strategol fod yn fuddiol tu hwnt i gyflawni nodau eich mudiad. I weld beth allwch chi ei ddysgu o’r prosiectau, edrychwch ar rai o’r adnoddau y maen nhw wedi’u creu:
- Pecyn Cymorth Foothold: Cynllun Gwirfoddoli Cyflogeion
- Gwirfoddoli i Ieuenctid: Pecyn Cymorth ar gyfer y Trydydd Sector
- Volunteens: Be Heard. Be Helpful – Adnodd i Athrawon
- Fframwaith Gwirfoddoli yn Gymraeg
- Adroddiad ar y Prosiect Gasanaethau Gwirfoddolwyr Integredig
- Cymdeithas Eryri – Crynodeb Gweithredol
- Gwerthusiad o brosiect Ymchwilwyr Insight Innovate Trust
- Innovate Trust – Edrych yn ôl ar Brosiect yr Hwb Gwirfoddoli